Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Y Preseli Llecynnau a Chwedl
Chwefror 2003
Bedd Morris ...olrhain tarddiad yr hanes.
Yr ydym yn oedi ar dir uchel a gwaith hawdd i'r sawl sy'n mynnu cadw'n heini fyddai cerdded am ryw ddwy filltir dros dir gwastad a grugog at y creigiau anferth ar gopa Carn Ingli (O.S. 038365). Y mae yma faen hir ar fin y ffordd sy'n nodi'r ffin rhwng plwyf Trefdraeth a phlwyf Llanychllwydog. Y mae'n arfer blynyddol gan rai o drefolion Trefdraeth yn ystod mis Awst i fynd ar gefn eu ceffylau o dan arweiniad maer y dref i gynnal hen ddefod a elwir yn 'beating of the bounds'.

Wedi iddynt gyrraedd Bedd Morris y mae'r arferiad yn dal i roi cweir 'beating' (ysgafn fawn, mae'n wir) i'r bechgyn ifainc er mwyn iddynt gofio am weddill eu hoes ymhle yn union y mae terfynau'r plwyf. Ond pwy oedd 'Morris' y dywedir i'w fedd gael ei leoli yma mewn llecyn anghysbell ar ddarn ysgithrog o ucheldir Cemais? Y mae o leiaf ddau draddodiad yn ceisio olrhain tarddiad yr'hanes'.

Lleidr Penffordd?
Dywed un stori mai hen leidr penffordd cyfrwys oedd Morris, yn byw mewn ogof ar lethrau Carn Ingli. Yr oedd ganddo gi gwyn yn gydymaith iddo. Yn ôl yr hanes yr oedd ymddangosiad sydyn y lleidr yn y llecyn anghysbell hwn yn gorfodi'r teithwyr unig i ildio popeth o werth oedd yn eu meddiant i'w orchymyn bygythiol. Yn wir, yr oedd ofn ar lawer o drigolion yr ardal i dramwyo ffordd y mynydd ar eu pennau eu hunain boed hi'n olau dydd neu'n fagddu'r nos.

Yn y diwedd, penderfynodd nifer o bobl yr ardal fynd gyda'i gilydd yn un criw dialgar i ymosod ar yr ogof a ystyrid yn gartre parhaol i Morris y lleidr. Fe'i daliwyd yn ddirybudd. Torrwyd gwddf y ci gwyn â chyllell finiog, a chafodd Morris ei hun ei hongian ar grocbren a godwyd ar fin y ffordd i roi terfyn ar ei yrfa ddaearol. Tra oedd ei gorff llipa yn pendilio wrth y cortyn main am ei wddf yn awel y mynydd fe benderfynodd ei ddienyddwyr godi carreg goffa yn y fan a'r lle. Nid carreg o 'barchus goffadwriaeth' i Morris oedd hi, ond carreg i atgoffa'r cenedlaethau a ddêl nad oedd gweithredu fel lleidr penffordd yn talu i neb!

Lladrata defaid
Ond clywais stori gwbl wahanol gan fy nhad, stori a glywsai ef gan hen fodryb iddo a oedd yn byw yn Nhrefdraeth ers talwm. Dyma hi. Dyn a oedd yn lladrata defaid oedd Morris. Wedi iddo ddal y ddafad gefn nos yn unigedd y mynydd, ei ddull ef o'i dwyn adref oedd clymu ei dwy goes flaen â chortyn main, ei thaflu ar ei gefn, a'r cortyn yn ei dal yn dynn o dan ei geseiliau.

Ond un tro yr oedd y ddafad yn drwm iawn, ac wrth iddi geisio sbarwigan i ddod yn rhydd fe lithrodd y cortyn allan o dan geseiliau Morris, gan dynhau am ei wddf, a'i grogi'n farw yn y fan a'r lle.

Chwedl 3 - Carwriaeth anffortunus
Ond y stori boblogaidd arall ynglyn â Bedd Morris oedd stori am garwriaeth anffortunus. Yr oedd bachgen ifanc o'r enw Morris a oedd yn byw yn Nhrefdraeth wedi syrthio dros ei ben a'i glustiau mewn cariad â merch bryd golau o Gwm-gwaun. Ond yr un fath â'r hanes am y ferch o Gefn Ydfa gynt, yr oedd tad y ferch yn gwrthod rhoi ei ganiatad iddi i'w briodi ac yn mynnu fod cannwyll ei lygad yn chwilio am rywun oedd yn 'uwch ei stad' i fod yn gywely iddi.

Yn wir, fe drefnodd y tad iddi briodi bachgen arall er gwaethaf gwrthwynebiad y ferch. Felly, fe benderfynodd y ddau gariadfab, yn gwbl gyfrinachol, i ddatrys y broblem eu hunain. Fe roes Morris her iw wrthwynebydd i gymryd rhan mewn ymrysonfa (gorfforol neu arfog) i brofi pa un ohonynt oedd y trechaf. Cyfarfu'r ddau ar begwn uchaf ffordd y mynydd i fynd i'r afael â'u tynged. Y bachgen cyfoethog a orfu. Lladdwyd Morris yn yr ymryson a chladdwyd ef yn y fan lle saif y garreg heddiw. Bu'r ferch farw hefyd yn fuan wedyn o dor calon.

Ond nid llecyn i ddwyn atgofion trist i neb yw Bedd Morris. Wrth oedi yn y gwynt main o boptu i lethrau'r grug ac edrych tua'r gorllewin y mae ehangder y môr yn lledu oddi tanom o drwyn Penymorfa yn y gogledd y tu hwnt i Ynys y Dinas yn nhueddau'r de. Ac weithiau, ar adegau clir, y mae bryniau Wiclow yn Iwerddon yn sefyll fel ynysoedd llwyd ar rimyn y gorwel pell.

Dylid nodi hefyd mai T.D.LL. yw'r llythrennau sydd wedi eu cerfio ar garreg Bedd Morris. Dyma lythrennau blaen enw Thomas David Lloyd, Arglwydd barwniaeth Cemais o 1845 hyd 1877. Ond mid yr uchelwr o'r Bronwydd a gysylltir yn bennaf â maen hir Bedd Morris. Y mae chwedlau mwy diddorol yn perthyn i'r garreg hon.

Eirwyn George


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý