Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
John Davies O gaeau'r fferm i'r caeau rygbi
Mai 2004
Un o'r wynebau mwyaf cyfarwydd ac un o'r chwaraewyr mwyaf poblogaidd ar y meysydd rygbi yng Nghymru - dyna i chi John Davies, Cilrhue.
Mae'n enillydd Cwpan Cymru ym Mhencampwriaeth y Pum Gwlad, wedi ennill 34 cap dros ei wlad, ac wedi bod yn aelod allweddol o dîm Scarlets Llanelli yng nghwpan Heineken dros y tymhorau diweddar, a hyn oll ar ben ei waith dyddiol ar y fferm yng Nghilrhue!

Wrth i'r tymor rygbi ddod iw derfyn, a chyfle am saib (os un byr!) ar y gorwel, roedd John yn falch o gael sgwrs â ni yn Clebran, ac wrth ei fodd yn ennill teitl arall Clebranwr y mis!Wrth i fi sgwrsio gyda John, mae'r haul yn ceisio ei orau i ymladd y cymylau a'r tywydd gwell yn golygu ei bod hin amser troi'r da mas ar Cilrhue. Ar yr un pryd, mae'r atgof poenus o Biarritz yn maeddu Scarlets Llanelli yng Nghwpan Heineken yn dal ar feddwl John, a'r siom yn dal yn amlwg.

"'Roedd hi"n siom fawr i ni golli achos ron ni wedi bod yn chwarae mor dda" meddai John. -"'Ond roedd hi'n fwy o siom achos ein bod ni ddim wedi perfformio i fod yn onest. Ar y noson, Biarritz oedd y tîm gorau, a gwnaethon ni ddim troi lan yn yr hanner cyntaf "

Fe ddechreuodd diddordeb John mewn rygbi tra yn Ysgol y Preseli. Daeth ei ddawn i'r amlwg wrth iddo gael ei ddewis i dîm yr ysgol, ac yna i dîm y Sir, ac fe ddechreuodd chwarae gyda thîm ieuenctid Crymych yn fuan iawn wedyn. Tra yno, denodd sylw dewiswyr dîm ieuenctid Cymru au hyfforddwr, Ron Waldron a oedd yn hyfforddi tîm Castell Nedd ar y pryd.

Derbyniodd John wahoddiad i ymarfer gyda'r clwb a chyn hir, roedd wedi arwyddo i dîm crysau duon Cymru ac yn cymryd ei le yn un o dîmau cryfa'r cyfnod. Pan gafodd John ei gyfle yn nhîm cyntaf Castell Nedd ar ddechrau'r 90au, bois ardal y Preseli oedd ar ei bwys yn y rheng flaen Brian Williams a Kevin Phillips. "'Do"n i ddim yn eu nabod nhw ar y dechrau" esbonia John, "ond fe wnaethon nhw fy helpu i setlo mewn a rhoi cyngor i fi. R"odd hi"n neis bod y tri ohonom nin siarad Cymraeg hefyd, ac fe gawson ni lot o sbort yn y car ar y ffordd lan ir gemau!

Oherwydd perfformiadau cyson John, buan y daeth yr alwad i chwarae i'r tîm Cenedlaethol, ac mae John yn ei chael hi'n anodd i ddisgrifio'r profiad hwnnw."'Maen deimlad arbennig, yn anodd rhoi geiriau iddo, meddai, maen fraint ac yn deimlad grêt o wybod bod pawb y tu ôl i ti.

Yn 1994, profodd lwyddiant rhyngwladol gyda Chymru wrth fod yn rhan o'r tîm a gododd gwpan Pencampwriaeth y Pum Gwlad. "Bythgofiadwy!" meddai John am hynny, "roedd hin garfan o chwaraewyr gonest ac er i ni gael siom o golli yn erbyn Lloegr, ron ni wedi curor Alban ar Iwerddon sy' ddim yn rhwydd iawn, a churor Ffrancod am y tro cyntaf ers 18 mlynedd. "

Er nad yw John wedi cael ei ddewis i chwarae i Gymru ers rhai blynyddoedd bellach, fe wnaeth ei berfformiadau graenus a chyson dros y tymor hwn olygu bod rhai all o benaethiaid y gêm yn galw am ei bresenoldeb yn y tîm cenedlaethol eto. "Roedd en beth neis i glywed," meddai John, "dwi wedi bod yn perfformion gyson i Llanelli y tymor ma ar tymor diwethaf, ac yn meddwl falle mod in haeddu cael lle yn y garfan nawr."

Wyddoch chi i John chwarae i glwb rygbi Richmond, ar ochr arall Clawdd Offa am rai blynyddoedd hefyd? "'Daeth y cyfle yn 1996, heb feddwl llawer amdano i fod onest," meddai John. "Ron in teimlo falle taw hwn byddair cyfle ola i fi, a gan nad oedd pethen edrych yn dda o ran chwarae i Gymru, fe wnes i benderfynu mynd amdani!

Golygai hyn newidiadau mawr iw fywyd - gadael cartref yn y Preselau a symud i fyw yn Llundain, ond doedd dim llawer o amser i bendroni dros y peth. "Digwyddodd popeth mewn rhyw 6 wythnos!" meddai. "Ron in gwerthu'r da godro ar y dydd Gwener ac yn symud i Lundain ar y dydd Sul!"

Fe wnaeth fwynhau'r profiad yn Richmond yn fawr, yn enwedig gan fod nifer o Gymry eraill wedi arwyddo i'r clwb tua'r un pryd. Ond roedd yn fwy na hapus i ddychwelyd i Gymru pan roedd y Scarlets yn edrych am brop pen tynn hefyd.

Wedi bod yn chwarae ar y lefel uchaf ers dros ddeng mlynedd bellach, beth yw gobeithion John ar gyfer y dyfodol? "'Dwi wedi cael cynnig cytundeb dwy flynedd dar Scarlets," meddai, "a dwin canolbwyntio ar chwarae i Lanelli ar hyn o bryd. Ond mae hyfforddi yn rhywbeth dwin mwynhau gwneud hefyd. Dwi wedi bod yn helpu tîm Crymych eleni ac wedi mwynhaun fawr.

Gyda gyrfa lwyddiannus y tu ôl iddo, a sawl tymor, gobeithiol, arall o'i flaen, mae un peth bach nad yw John wedi cyflawni ar y cae rygbi eto. Ennill Cwpan Heineken, meddai. "Dynar ucheigais, a dyna pam ryn nin gweithio mor galed i wella'n hunain, er mwyn bod mewn sefyllfa i'w ennill!"

Dymunwn yn dda iddo ar gyfer y dyfodol, a gobeithio y daw'r freuddwyd yn wir!

Aled Vaughan, Prosiect Papurau Bro


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý