Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Hoelion Wyth Hoelion Wyth - Cangen Beca
Mawrth 2009
Mae cinio blynyddol Cangen Beca wedi cael ei gynnal yn Efailwen.

Cynhaliwyd cinio blynyddol y gangen yn yr HQ yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Wener, Ionawr 30ain.

Cafwyd gair o groeso gan y Cadeirydd Robert James ac offrymwyd gras gan y trysorydd Ken Thomas.

Cawsom wledd arbennig wedi ei pharatoi gan Robert a'i staff ac yna croesawyd y gwr gwadd, sef y sylwebydd Wyn Gruffydd, Llangain (gynt o'r Glog).

Cafwyd araith hyfryd ganddo yn llawn hiwmor a bu'n sôn am yr holl wledydd bu'n ymweld â nhw wrth iddo sylwebu ar gemau rygbi.

Roedd ganddo lond cwdyn o fathodynnau adnabod (rhain oedd ei docyn mynediad i'r maes!) a bu'n adrodd nifer o straeon difyr am y bobl ddiddorol roedd wedi cyfarfod ar ei deithiau.

Soniodd hefyd am yr amser hyfryd cafodd yng nghwmni dau gyfaill agos iddo, sef y diweddar annwyl Ray Gravell a Brian Williams.

Diolchodd Wyn Evans i Wyn Gruffydd am araith wych a darllenodd yntau yr englyn canlynol o'i eiddo i gyfarch Wyn:-

O'r Glôg a'i aml nentydd - un cadarn

Ac yn fab i Elerydd

Amryddawn fel sylwebydd

Ond heno, ein barchus lywydd


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý