Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
y criw fu'n cymryd rhan yn agoriad yr estyniad Estyniad i gartref henoed
Hydref 2008
Mae cartref Glyn Nest yng Nghastellnewydd Emlyn wedi agor estyniad newydd er mwyn ehangu'r gwasanaeth.

Roedd dydd Mercher olaf Awst eleni yn ddiwrnod hanesyddol yn hanes cartref Glyn Nest pan ddaeth tyrfa luosog ynghyd i'r seremoni i agor yr estynlad newydd wedi bron i 18 mis o waith adeiladu i helaethu'r cartref.

Mae pymtheg mlynedd ers estynnwyd y cartref o'r blaen yn 1991. Yn dilyn oedfa a chyfarchion fe agorwyd yn swyddogol yr estyniad newydd gydag aelod hynaf y cartref, sef Eirwen Lewis, sydd yn 98 mlwydd oed, yn torri'r rhuban gyda Jayne Evans, y rheolwraig.

Yna'n dilyn fe gynhaliwyd yn ôl ein harfer y dydd agored. Y wraig wadd eleni i agor y dydd oedd Lydia Williams, Llanelli. Bu ei mam, y ddiweddar Pheobe Edwards, Llandysul, yn dra ffyddlon a gweithgar i'r dydd agored am flynyddoedd maith ynghyd â'r holl weithgareddau'n ymwneud â'r cartref.

Dymunir diolch i Wyn Harries, y pensaer a John Davies, yr adeiladydd am y gwaith graenus a'r cydweithrediad yn ystod tymor yr adeiladu ac i Jayne Evans, y rheolwraig a staff y cartref am wenu'n siriol gydol y cyfnod. Rhaid diolch hefyd i holl aelodau'r pwyllgorau am eu cefnogaeth cyson ac i garedigion ledled Cymru am eu haelioni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý