Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Sadwrn Barlys i'w gofio...
Mai 2009
Mae Sadwrn Barlys yn cael ei gynnal yn Aberteifi ar ddydd Sadwrn olaf bob mis.

Mae dydd Sadwrn olaf mis Ebril yn ddiwrnod pwysig yn nhref Aberteifi ers blynyddoedd. Dyma'r diwrnod a elwir yn ddydd Sadwrn Barlys a bydd tyrfa enfawr yn heidio i'r dref er mwyn gweld ceffylau yn carlamu drwy'r strydoedd yn dilyn y sioe. Yn draddodiadol dyma'r diwrnod i ddatgan bod y tir wedi ei baratoi, yr hadau yn y pridd a chyfle i'r gweision ddathlu hynny. Un peth sy'n sicr, mae enillwyr y cwpanau eleni yn siwr o ddathlu!

I un awdures o Aberteifi, sy'n bridio ac arddangos ceffylau Shetland, yr oedd dydd Sadwrn Ebrill 25 yn ddiwrnod pwysig am reswm arall. Yr oedd Anwen Francis yn lansio 'Siani am Byth', chweched nofel cyfres 'Siani'r Shetland', yn siop Awen Teifi. Yna daeth dipyn o gob i ymuno gyda hi am hanner dydd, Dewi Pws o Dresaith.

Meddai Dewi, "Ma Siani am byth yn carlamu'n ddi-stop o'r storom ofnadwy ar y dechre hyd at y gacen siocled ola. Ges i'r union run pleser o ddarllen y stori ag 'ro'n i'n ca'l bob pnawn dydd Gwener yn Ysgol Lonlas wrth wrando ar ein hathro, Mr Phillips, yn darllen straeon am ddynion drwg, smyglars a lladron pen ffordd."

Dyma'r llyfr olaf yng nghyfres anturiaethau Siani'r Shetland ac mae hi wedi bod yn un helynt ar ôl y llall ar Fferm Parc yr Ebol. Stormydd mellt a tharanau, llifogydd, diflaniad Aneirin yr asyn, anaf i Beca heb sôn am y lladron. Ond o leiaf daeth Sioe Aberteifi i godi tipyn ar hwyliau pawb.

Yng nghanol yr holl helynt, mae un peth yn sicr. Does dim all rwystro Siani'r Shetland!

Am fanylion pellach, cysylltwch â Siani am Byth!, Anwen Francis, Gwasg Gomer. ISDN 978184510449. Pris y llyfr yw £4.99. Mae teitlau eraill yn y gyfres yn cynnwys Siani'r Shetland, Campau Siani'r Shetland a Nadolig Llawen Siani, Siani'n Achub y Dydd a Siani ar Garlam.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý