Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Drama'r geni Gwyl y Geni?
Rhagfyr 2002
Canodd un o'n grwpiau eiriau fel hyn "Wishgit, Wisgit, ffwrdd â ni, mae'r Nadolig yn nesau". Ond beth mae'r Nadolig yn ei olygu i ni mewn gwirionedd?
Flynyddoedd yn ôl yr oeddwn yn edrych drwy gardiau Nadolig mewn siop fawr pan glywais ddwy ddynes yn dweud yn Saesaeg, "all these cards seem to be religious". O'm magwraeth credwn y dylai pob cerdyn Nadolig fod yn grefyddol, neu a yw'r awydd ynom i fynd yn ôl i'r wyl baganaidd a oedd yn bodoli cyn i Iesu Grist ddod i geisio ei dileu?

Un Nadolig, yn fy awydd i fod yr un fath â phobl eraill, mi chwiliais am y goleuadau o'r flwyddyn flaenorol a darganfod nam arnyn nhw. O'u dwyn yn ôl i'r siop, dywedwyd wrthyf fod yn rhaid i'r bylbiau i gyd weithio er mwyn i'r lleill weithio.

Dyma fi'n archwilio'r cyfan ac yn methu darganfod y nam. Pwyntiodd y siopwr allan fod un or bylbiau yn wahanol i'r lleill, a chyda lliw gwahanol sef gwyn, efallai taw ar hwnnw mae'r bai. Dyma fi'n ei newid, ac fe weithiodd y golau.

Y tanc a'r bom sy'n ein dinistrio
Y mae'n weddol dywyll arnom y dyddiau hyn wrth sôn am ryfel yn erbyn Irac. Efallai fod arweinwyr llywodraethau'r byd wedi credu, er mwyn ein goleuo, mae'r ffiws bwlb gorau i ni yw'r tanc a'r bom sy'n dinistrio.

A gawn ni'r Nadolig hwn newid y ffiws i un sy 'n llawer disgleiriach, a fydd yn barod i'n goleuo o'r newydd? Y mae'n wir i gredu taw crefydd sydd yn rhannu gwledydd y byd, ond fe ddaeth Iesu i'n byd i gynnig rhywbeth amgenach na chrefydd gas. Credai ei fod wedi dod i uno'r byd yn fyd newydd.

Un o'r rhaglenni mwyaf poblogaidd ar y teledu y dyddiau hyn yw Who Wants to be a Millionaire? Drwy'r papur hwn yr wyf am droi camerâu teledu Duw i'n cyfeiriad a gofyn yr un cwestiwn.

Pam ddaeth Iesu Grist i'r byd?
Y cwestiwn agoriadol yw hwn. Pam ddaeth Iesu Grist i'r byd? Mi gawn bedwar dewis: 1, i greu gobaith; 2,i greu anobaith; 3, 1 greu difaterwch neu 4, i greu elw? A ydyn ni yn gwybod yr ateb? Os nad ydyn ni, a gawn ni ofyn i'r dyrfa fodern?

O'r cyfeiriad hwnnw mi ddaw'r ateb, mai'r rheswm y daeth yw, i greu elw. Dyma a glywn oddi wrth y siopau mawr bob blwyddyn, fod eu helw i lawr ac o ganlyniad yn ceisio chwythu'r ffiws allan.

Beth am 50/50? Fe wnawn ni adael dau opsiwn allan sef (2) i greu anobaith a (4) i greu elw. O'r ddau opsiwn sydd yn weddill a gawn ni ofyn i aelodau'r Eglwys? Mi glywaf y dewis, mai i greu difaterwch y daeth. 'Does gen i ddim byd yn erbyn y capel, and 'rwy'n meddwl fy mod yn well na rhai sy'n mynd. 'Does gen i ddim yn erbyn y capel and yr ydych yn gwybod sut mae arnaf.

O dywyllwch yr oes fodern beth yw'r opsiwn olaf, sef ffonio ffrind. Beth am ffonio Blair, Bush neu unrhyw arweinydd arall i ni gael dod allan o dywyllwch ein hoes?

Dewch i ni y Nadolig hwn ffonio lesu, yr unig wir ffrind mewn gwirionedd, trwy weddi ac ympryd gan ganu, "O'r fath gyfaill ydyw'r Iesu". Dyna'r unig ffordd i ddod allan o dywyllwch rhyfel i oleuni parhaol, ac o ganlyniad mi fyddwn i gyd yn filiwnyddion mewn gwirionedd.

Y Parch. Howell Mudd


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý