Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Y wardeiniaid yn St Brides yn ystod eu cwrs diweddaraf. Dysgu wrth weithio fel wardeiniaid
Medi 2006
Mae myfyrwyr cadwraeth yng Ngholeg Sir Benfro yn cael help llaw ar hyd eu llwybrau gyrfa gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Recriwtiwyd pedwar myfyriwr sydd wedi cwblhau cyrsiau yn y coleg, fel wardeiniaid tymhorol gyda thimau Cynnal a Chadw Safleoedd a Llwybr yr Arfordir y Parc. Ac, am y tro cyntaf, recriwtiwyd merched i'r timau awyr agored - Emily Hills, o Slebech, a Sian Davies, o Houghton. Maen nhw, a'u cydweithiwr Jonathan Copp, o Gilgeti, newydd gwblhau cwrs cadwraeth amgylcheddol gyda chymhwyster CGC Lefel II. Y pedwerydd 'recriwt' yw Joel Kemp, o Hwlffordd, sydd wedi cwblhau cwrs ar yr ardal arfordirol yn y Coleg yn flaenorol.

Yn ogystal ag amrywiaeth eang o dasgau gwaith gyda thimau'r Parc, mae'r myfyrwyr hefyd yn dilyn sawl cwrs hyfforddiant a fydd yn rhoi cymwysterau ychwanegol iddynt cymwysterau y mae cyflogwyr potensial yn chwilio amdanynt.

Fe ddywedodd Steve Brick, Swyddog Technegol Awdurdod y Parc, "Ers dechrau gyda ni, maen nhw wedi ennill tystysgrifau a gydnabyddir yn genedlaethol am drafod darnau amrywiol o offer fel torrwr brws a thorwyr ffustio. Mae'n profi'n gysylltiad llwyddiannus iawn gyda'r Coleg ac mae wedi datblygu trwy aelodaeth yr Awdurdod o Banel Cyswllt Diwydiannol Coleg Sir Benfro."

Roedd y cwrs diweddaraf, a gynhaliwyd ar safle'r Parc Cenedlaethol yn St Brides, yn gwrs ar ddefnyddio torwyr tractor lawnt. Fe aeth yr hyfforddwr Keith Coldwell, o Gylch Peiriannau Sir Benfro, sydd wedi cael cydnabyddiaeth gan Lantra, a'r myfyrwyr trwy'r gweithdrefnau gan ddefnyddio torwyr arbennig Awdurdod y Parc Cenedlaethol sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Mae'r torwyr, yr ydych yn eistedd arnynt i'w defnyddio, yr cael eu pweru 100% gan fio diesel.

Fe ddywedodd Jonathan Copp: "Doeddwn i ddim yn disgwyl i'r gwaith fod mor amrywiol nac yn disgwyl cael gymaint o hyfforddiant fe rhan o'r gwaith. Mae'n ein helpu i feithrin y profiad a'r cymwysterau mae cyflogwyr potensial yn chwilio amdanynt, ac rydyn ni'n dysgu cymaint gan aelodau eraill ein timau hefyd."


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý