Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Gwerthwyr diwyd - Aled, Heledd a Cerys Clebran Sbesial Waldo
Medi 2004
Mae'n ganmlwyddiant ers geni'r bardd Waldo Williams, ac mae papur bro Clebran wedi cyhoeddi rhifyn arbennig i ddathlu.
"Mae wedi cymryd dwy fil o flynyddoedd o wareiddiad Cymraeg i greu dyn fel Waldo"

Dyna'r dyfyniad herfeiddiol sydd ar glawr rhifyn arbennig o bapur bro ardal , Preselau sy'n dathlu canmlwyddiant geni y bardd, yr heddychwr a'r Cristion, Waldo Williams.

Emyr Llewelyn piau'r dyfyniad ac mae'n osodiad sy'n werth oedi uwch ei ben yn ôl Hefin Wyn, cydlynydd 'Clebran Sbesial Waldo,' sydd ar werth yn y siopau ar hyn o bryd.

"Yn sicr mae mawredd Waldo fel bardd yn cynyddu ac mae llawer o'r farn bellach ei fod n haeddu statws sant ar gownt ei safiad yn enw heddwch a'i frawdgarwch sylfaenol" ychwanegodd.

Mae'r rhifyn 44 tudalen yn cynnwys atgofion gan gydnabod yn amrywio o atgofion Dilwyn Vaughan yn cyfarfod â Waldo mewn siop tships yn Hwlffordd i atgofion Dafydd Iwan yn ei gyfarfod mewn ralïau gwladgarol.

Mae nifer o ysgolheigion megis Bobi Jones a Hywel Teifi Edwards yn ail asesu ei gyfraniad fel bardd.

Ceir cyfraniadau hefyd gan y prifeirdd Eirwyn George a Dylan Iorwerth yn ogystal â Menna Elfyn a Wyn Owens.

Llwyddwyd i ddod o hyd i'r disgyblion hynny a welwyd yng nghwmni Waldo yn y poster adnabyddus hwnnw o eiddo Cyngor y Celfyddydau.

Datgelu hanes 'Fel Hyn y Bu'
Am y tro cyntaf datgelir y gwir hanes y tu ôl i'r gerdd 'Fel Hyn y Bu' pan wrthododd Waldo ddangos ei 'Identity Card' a chael ei gamgymryd am ysbïwr Almaenig!

Mae nifer o artistiaid fydd yn cyfrannu at arddangosfa arbennig sydd i'w chynnal yn Hwlffordd yn fuan yn esbonio pa gerddi o eiddo Waldo sydd wedi eu hysbrydoli.

Ceir hanes yr englyn coch hwnnw y byddai Waldo yn cyfnewid un lafariad yn y gair cloi yn dibynnu pwy fyddai ei gynulleidfa pan yn ei adrodd.

Cyhoeddir llun o blant Ysgol Mynachlog-ddu ar ddiwrnod olaf Waldo yn ddisgybl yno. Y plant hynny fu'n gyfrifol am ddysgu'r Gymraeg i Waldo a hynny nid yn yr ystafell ddosbarth ond ar yr iard chwarae ac ar glosydd ac aelwydydd yr ardal.

Cyrhaeddodd Waldo bentref Mynachlog-ddu yn grwt seithmlwydd oed heb air o Gymraeg ac fe symudodd oddi yno bedair mlynedd yn ddiweddarach i bentref cyfagos Llandysilio yn Gymro rhugl.

Yn ôl yr unig un o'r disgyblion yn y llun sydd ar dir y byw, B G Owens (Aberystwyth), mae dyled cenedl yn fawr i fechgyn fel Dai Mwntan, Stanley Glynsaithmaen, Edgar Tycwta, Wil Allt-y-gog a Dai Carnabwth am ddysgu Cymraeg i Waldo trwy chwarae.

Codir y cwestiwn a ddylai addasu Rhosaeron, hen gartref teulu Waldo Williams yn Llandysilio, yn amgueddfa neu ganolfan ddehongli i hyrwyddo mawredd gŵr lleol a ystyrir ymhlith y mwyaf o feirdd y genedl.

Ni ddylai'r un o ddarllenwyr papurau bro fod heb ei gopi o Clebran Sbesial Waldo.

Beth yw eich barn am gerddi Waldo Williams? Dwedwch wrthyn ni - byddwch y cyntaf i ddweud eich dweud ar y ddalen yma!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý