Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2006

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2006

O'r Maes
Lluniau

Cefndir

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Celf - pob math o symud
Celf yn creu cyfle
Er mai ar gystadlaethau llwyfan y bydd y sylw mwyaf yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn Rhuthun mae'r Urdd wedi addo y bydd yno arddangosfa gelf a chrefft werth chweil hefyd.

Dywedodd Sian Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddydau yr Urdd, ei bod yn bwysig fod ymgeiswyr yr adran gelf, crefft, dylunio a thechnoleg yn cael eu cydnabod.

Mewn ysgubor
Fis Ebrill daeth deunaw o feirniaid ynghyd dros dri diwrnod i roi eu llinyn mesur ar bron i dair mil o eitemau a fu'n fuddugol yn y gwahanol ranbarthau.

Gyda'r holl waith wedi ei osod allan yn un o sguboriau mawrion coleg amaethyddol Llysfasi gwobrwywyd oddeutu mil o weithiau.

Meithrin dawn
Wrth groesawu nifer a safon yr ymgeiswyr pwysleisiodd Sian Eirian bwysigrwydd rhoi sylw dyledus i'r gweithgarwch hwn.

"Mae'n bwysig," meddai, "fod pob agwedd o weithgarwch yr Urdd gan gynnwys celf, dylunio a thechnoleg yn cael sylw yn ogystal â'r gweithgareddau llwyfan ac yr ydym yn hynod o ffodus o safon y gwaith sydd i'w weld yma heddiw."

Ychwanegodd fod meithrin dawn greadigol cyn bwysiced a meithrin yr holl dalentau eraill a welir yn yr Eisteddfod.

"Mae gan yr Urdd dros 60 o gystadlaethau Celf, Dylunio a Thechnoleg ac ymfalchiwn bod y safon yn arbennig o uchel bob blwyddyn," meddai.

Barn beirniad
Daeth canmoliaeth i safon yr ymgeision oddi wrth y dylunydd proffesiynol Cefyn Burgess hefyd.

Wrth drafod y gwaith gyda Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd cyfeiriodd ef at y bwrlwm arbennig a welwyd ymhlith ymgeiswyr o'r ysgolion iau.

"Ond nid cymaint gyda'r ysgolion uwchradd," ychwanegodd. "Efallai bod hynny i'w wneud â phrysurdeb gydag arholiadau ond mae trio cael cystadleuwyr yr oed yma yn dasg anodd," meddai.

Ond ymhlith yr ymgeision a ddaeth i law dywedodd fod "dychymyg a mwynhad i'w weld yn amlwg".

Pwysleisiodd ef bwysigrwydd cael arlunwyr Cymraeg eu hiaith i ymddiddori yn y maes a chroesawodd y duedd bresennol ymhlith Cymry Cymraeg i weithio ym myd celf.

"Mae yna lot o Gymry wedi gadael coleg a gweithio yn y maes," meddai gan ychwanegu fod hwn yn gyfle gwych i bobl ifainc nid yn unig greu gyrfa ond i fod yn hunan gyflogedig ac ymsefydlu yn eu broydd.

'Symud' yw'r nod
Bydd yr arddangosfa gelf a chrefft ar Faes y brifwyl yn Rhuthun rhwng Mai 29 a Mehefin 3 gyda'r Fedal Gelf a noddir gan Gwmni Ifor Williams yn cael ei chyflwyno ar y dydd Llun.

"Symud" fydd thema'r arddangosfa gyda hwnnw yn cael ei ddarlunio a'i ddehongli nid yn unig ym maes trafnidiaeth ond yn ei holl elfennau gan gynnwys natur, mecanyddiaeth, y cartref, chwaraeon ac yn y blaen.
  • Lluniau diwrnod y beirniadu



  • About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý