Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2006

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2006

O'r Maes
Lluniau

Cefndir

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Alun Edwards, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Bore cyntaf
Eisteddfod "wahanol" Sir Ddinbych
Cyn saith o'r gloch y bore yr oedd cystadleuwyr wrth eu cannoedd yn heidio i faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ger Rhuthun.

Er llawenydd i bawb trodd cawod drom, gynnar, yn heulwen ac awyr las wrth i gystadleuwyr a'u rhieni heidio i'r maes, rhai a'u hesgidiau glaw am eu traed, eraill yn eu cario - rhag ofn.

Dechrau da
Cafodd y Steddfod gychwyn da gyda chyngerdd agoriadol nos Sul yn deyrnged i Caryl Parry Jones a phob un o'r 1,600 o seddau yn y pafiliwn newydd yn llawn.

Pafiliwn yn un go wahanol i'r un a ddefnyddiwyd pan ymwelodd Eisteddfod yr Urdd a'r caeau hyn ddiwethaf, 14 o flynyddoedd yn ôl.

Gyda nenfwd uchel uwchben y llwyfan ni fydd goleuadau yn amharu ar olwg neb o'r gynulleidfa ar y gweithgareddau.

Creu yfory newydd
Y perfformiad cyntaf un yn y pafiliwn oedd y sioe gerdd Plas Du gan Hywel Gwynfryn a Robat Arwyn nos Sadwrn ac un o linellau y sioe honno a ddefnyddiwyd gan gadeirydd yr Urdd, Rhiannon Lewis, wrth gyfarch y Wasg mewn cynhadledd bnawn Sul, "Creu yfory newydd bod dydd."

"A dyna mae'r Urdd yn ei wneud i bobl ieuanc a ieuenctid mewn adrannau, mewn aelwydydd a chyda gweithgareddau a chwaraeon," meddai gan gyfeirio at gyfraniad y mudiad yn meithrin doniau ieuenctid Cymru "er mwyn creu yfory newydd."

Ychwanegodd y bydd mwy o gystadleuwyr yn Rhuthun yr wythnos hon nag yn y Gemau Olympaidd a hynny "gyda dipyn llai o ffws" nag a wneir ynglŷn â'r rheini.

Hel arian
Hyd yn oed cyn i'r giatiau agor gwelwyd arwyddion o lwyddiant ariannol yn ôl Sian Eirian, cyfarwyddwr yr Ŵyl a ddywedodd i bobl yr ardal gasglu £220,000 ar gyfer y gronfa leol.

Cafwyd £300,000 gan Gyngor Sir Ddinbych hefyd.

Y llynedd
Yn fuan iawn daeth yn amlwg na fydd osgoi cymharu'r Eisteddfod hon ag un wahanol iawn Bae Caerdydd y llynedd wrth i'r eisteddfod ddychwelyd at yr hyn a alwodd Sian Eirian ei "gwreiddiau yng nghefn gwlad".

Ond prysurodd cadeirydd y pwyllgor gwaith lleol, Alun Edwards, i ddweud nad cystadlu a'r llynedd fu nod Sir Ddinbych o'r cychwyn ond cynnal ei steddfod ei hun.

"Fu hi erioed yn fwriad gennym ni gystadlu â Chaerdydd. Eisteddfod wahanol fydd hon. Fydd hi ddim yn waeth a fydd hi ddim yn well - un wahanol fydd hi," meddai.

Talodd Mr Edwards deyrnged i weithgarwch pwyllgorau lleol:
"Mae'r pwyllgorau lleol wedi bod yn hel at ei gilydd ers dwy flynedd bellach, ac mae'r gwaith paratoi wedi bod yn frwd a manwl. Rydym wedi gwneud popeth posib i wneud hon yn Eisteddfod fythgofiadwy, ac edrychwn ymlaen i groesawu plant a ieuenctid Cymru i'r fro yr wythnos yma."




About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý