Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2006

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2006

O'r Maes
Lluniau

Cefndir

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Llywyddion y Dydd
Gwybodaeth am Lywyddion y Dydd
  • Dydd Llun - Tara Bethan

  • Actores, cantores, dawnswraig a chyflwynwraig o Lansannan. Mynychodd Ysgol Gynradd Bro Aled ac Ysgol Uwchradd Glan Clwyd gan raddio gydag anrhydedd o Goleg Ivor Novello - Redroofs Theatre School, lle'r enillodd dlws 'Perfformiwr Mwyaf Addawol y Flwyddyn'.

    Tara Bethan Ymddangosodd ar raglenni fel Y Bws Gwlad, Malu Canu, Aled & co a Tri Tan y Manod. Bu'n aelod o'r grŵp pop Cymraeg Cic a bu'n rhan o'r cynhyrchiad gwefreiddiol o'r sioe gerdd 'Nia Ben Aur' yn 2003.

    Hyd yn hyn uchafbwynt ei gyrfa yw perfformio yn y sioe Bugsy Malone ar lwyfan Theatr y Frenhines yn West End Llundain gyda'r National Youth Music Theatre. Mae hi'n edrych ymlaen at ddychwelyd yno i berfformio'n fuan.

    Ar hyn o bryd mae hi'n byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio ar ail gyfres o Caerdydd, ble mae hi'n chwarae'r rhan Lleucu. Mae ei CD cyntaf 'Does Neb yn fy nabod i' yn y siopau ac mae hi hefyd yn dod o hyd i amser i gynnal gweithdai dawns yng Nghanolfan yr Urdd, Caerdydd.

    Mae Tara wedi ymddangos ar lwyfannau ers pan yn bedair oed. Y tro cyntaf iddi gystadlu ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd oedd bump oed.
    Pan yn wyth bu'n fuddugol yn y gystadleuaeth dawnsio disgo ac ers hynny cafodd gryn lwyddiant mewn cystadlaethau dawnsio disgo, dawnsio gwerin, llefaru a chanu.

    Meddai; "Mae'n fan cychwyn gwych. Pa wlad arall all roi cyfle i blentyn sefyll ar lwyfan o flaen miloedd i berfformio? Rydych yn dysgu delio â'r sefyllfa ac i beidio â bod yn nerfus."

    Yn ystod mis Ebrill bu Tara ar Daith Mistar Urdd o amgylch ysgolion Sir Ddinbych yn hyrwyddo'r Eisteddfod mewn dros 30 ysgol.

  • Dydd Mawrth Alun Williams

  • Ganed Alun yn Llanelwy ac fe'i magwyd yn Rhuddlan. Aeth i Ysgol Gynradd Dewi Sant, Y Rhyl ac yna i Ysgol Uwchradd Glan Clwyd. Mae'n byw yng Nghaerdydd yn awr.

    Alun Williams Mae'n gyflwynydd ar Planed Plant ac fe'i gwelir hefyd yn bwyta bwydydd anghynnes ar raglen goginio tra gwahanol Stwffio ar S4C gydag Anthony Evans a bydd y ddau ym mhabell S4C ar y Maes yn ffilmio'r rhaglen.

    Roedd Alun yn aelod o'r Urdd Adran Diserth ac yn cystadlu yn yr Eisteddfod er ei fod yn cyfaddef nad oedd yn cael llawer o hwyl arni, ac mai Lowri, ei chwaer, oedd yn disgleirio ar y llwyfan. Roedd ef yn cael llawer mwy o lwyddiant yng ngweithgareddau eraill yr Urdd megis cystadlaethau pêl-droed.

    "Rwy'n edrych ymlaen i gael croesawu pawb i Sir Ddinbych ble cefais fy ngeni a'n magu a chael dangos i bawb beth sydd gan Sir Ddinbych i'w gynnig," meddai.

  • Dydd Mercher - Manon Elis

  • Ganed Manon Elis yn Yr Wyddgrug a threuliodd ei blynyddoedd cynharaf yno cyn i'r teulu symud i Landyrnog ger Dinbych. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Glanrafon, Yr Wyddgrug, Ysgol Twm o'r Nant, Dinbych ac Ysgol Uwchradd Glan Clwyd. Aeth i Goleg Prifysgol Bangor cyn symud ymlaen i Goleg Cerdd a Drama, Caerdydd ble y graddiodd yn 1998.

    Bu'n byw yng Nghaerdydd am bedair blynedd ar ôl graddio cyn symud yn ôl i'r gogledd ac ymgartrefu yn ardal Caernarfon lle mae'n byw yno bellach ers pum mlynedd.

    Ei rhan actio gyntaf ar ôl graddio oedd Gwenhwyfar yn y pantomeim 'Ogo Ogo Pogo'. Aeth ymlaen i chwarae'r rhan Wendy yn y gyfres Amdani. Yn ystod ei gyrfa mae wedi bod yn rhan o gynhyrchiadau 'Amadeus', a 'Ffrwd Ceinwen' i gwmni Theatr Gwynedd. Mae hi wedi gwneud tair drama ar gyfer S4C digidol.

    Erbyn hyn rydym yn hen gyfarwydd â'i gweld hi mewn sgertiau cwta a'i wyneb yn gacen o golur fel y gegog Michelle ar Rownd a Rownd.
    Meddai "Mae'n bleser pur cael chwarae'r cymeriad Michelle, gan fy mod wrth fy modd yn cael chwarae rhywun sydd mor wahanol i mi."

    Yn ei hamser sbâr ei diddordeb pennaf yw cerdded ac mae wrth ei bodd yn crwydro bryniau Dyffryn Clwyd.

    Ymunodd â'r Urdd yn ifanc iawn a chystadlu'n llwyddiannus ar y cystadlaethau llefaru yn yr Eisteddfod a mynd ymlaen i ennill Ysgoloriaeth Llwyd o'r Bryn yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

    "Roedd y profiad o gystadlu yn yr Urdd yn un gwerthfawr iawn...Yn ddi-os, oherwydd y cystadlu, a ddechreuodd yn yr Urdd, y cefais i'r awch a'r hyder i fod yn actores," meddai.

    "Mae'r Eisteddfod yn brofiad ffantastig i'r plant ac yn adloniant arbennig i bawb arall. Mae tueddiad ganddo ni fel Cymry i gymryd yr Eisteddfod yn ganiataol, gan beidio sylweddoli pa mor unigryw ydi hi.

    "Hoffwn ddiolch i'r Urdd, gan fy mod, drwy'r cystadlu a'r gwersyll yng Nglan-llyn, wedi gwneud gymaint o ffrindiau da tros y blynyddoedd gyda phobl na fyddwn wedi cael y cyfle i'w cyfarfod oni bai am yr Urdd," ychwanegodd.

  • Dydd Iau - Dylan Wyn

  • Er mai yng Nghaerdydd y treuliodd Dylan ei flynyddoedd cyntaf ac iddo gael peth o'i addysg yn Ysgol Melin Gruffudd yno, yn Sir Ddinbych y treuliodd y rhan fwyaf o'i blentyndod a'i ieuenctid.

    Dylan Wyn Mynychodd Ysgol Gynradd Twm o'r Nant, Dinbych ac Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Llanelwy, cyn symud ymlaen i Goleg Prifysgol Cymru, Bangor i astudio'r Gymraeg.

    Bu'n aelod o'r Urdd am flynyddoedd gan fynychu Aelwyd Dinbych a chystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar ganu, adrodd, arlunio a chymryd rhan mewn cân actol.

    Er iddo gael ychydig o lwyddiant pwysleisia'n awr mai'r cymryd rhan sy'n bwysig.

    "Roedd y profiad o gystadlu yn werthfawr iawn. Ar y pryd, efallai nad oeddwn i'n sylweddoli pa mor werthfawr, ond mi roddodd o hyder i mi fel person, yn sicr yng nghyd destun gwneud pethau'n gyhoeddus," meddai.

    Bellach mae'n llais cyfarwydd ar Radio Cymru. Cychwynnodd ei yrfa yno ddeng mlynedd yn ôl fel ymchwilydd ac erbyn hyn mae'n gynhyrchydd a chyflwynydd ac fe'i clywir rhwng tri a phump yn cyd gyflwyno'r rhaglen Dylan a Meinir gyda'r gantores Meinir Gwilym, a chyn hyn bu'n cyflwyno'r rhaglen Gang Bangor ar nos Sadwrn a rhaglen Owain a Dylan gydag Owain Gwilym.

    "Mae Dyffryn Clwyd yn ardal arbennig. Mi fydd yna groeso mawr i'r Eisteddfod yn Rhuthun eleni. Hoffwn ddymuno'n dda i lwyddiant yr Eisteddfod yn Rhuthun, a dymuno pob lwc i bawb fydd yn cystadlu o bob cwr o Gymru!" meddai.

  • Dydd Gwener - Rhys Meirion

  • Er mai brodor o Dremadog, Sir Meirionnydd yw Rhys Meirion, mae wedi ymgartrefu yn Rhuthun ers 15 mlynedd, ddau gam o faes yr Eisteddfod.

    Fe'i ganed ym Mangor a chyn i'w deulu ymgartrefu yn Nhremadog bu'n byw ym Mlaenau Ffestiniog a Garndolbenmaen. Cafodd ei Addysg yn Ysgol Gynradd Tremadog ac Ysgol Uwchradd Eifionydd cyn mynd ymlaen i ennill gradd B Addysg yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin.

    Rhys Meirion Er mai fel canwr byd enwog y mae'n adnabyddus yn awr fel athro y cychwynnodd ei yrfa gan dreulio blwyddyn yn Ysgol Gynradd Tywyn, pedair blynedd yn Ysgol Twm o'r Nant, Dinbych, a phedair blynedd yn brifathro yn Ysgol Pentrecelyn ger Rhuthun.

    Ac yntau'n aelod o Aelwyd Bro Gwerfyl a Chôr Rhuthun a'r cylch dechreuodd gael gwersi canu ac wedi ennill y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Llandeilo yn 1996 fe'i hysgogwyd i feddwl o ddifrif am droi'n ganwr proffesiynol.

    Wedi graddio yng Ngholeg Cerdd y Guild Hall yn Llundain aeth i weithio gyda chwmni Opera Cenedlaethol Lloegr tan 2003 ac ers hynny bu'n gweithio ar ei liwt ei hun.

    Ar hyn o bryd mae'n chwarae rhan Pinkerton yn Madame Butterfly gyda'r English National Opera yn Llundain ac wedi hynny bydd yn rhan o gynhyrchiad o La Traviata gyda'r English National Opera.

    Yn ogystal â bod yn llywydd y dydd, bydd Rhys hefyd yn perfformio yng nghyngerdd agoriadol yr Eisteddfod.

    Recordiodd CD, Benedictws, gyda Bryn Terfel y llynedd.

    Pan yn aelod ifanc o'r Urdd nid aeth Rhys ymhellach na'r Eisteddfod Sir fel cystadleuydd - nes iddo ymuno ag Aelwyd Bro Gwerfyl.

    Eisteddfod Rhuthun, 1992, oedd yr Eisteddfod gyntaf iddo gystadlu ynddi gyda'r Aelwyd ac fe fydd atgofion melys o hynny ar yr un maes eleni.

    "Mae cystadlu yn eich gwthio i berfformio i orau'ch gallu. Fy neges i bawb sydd yn cystadlu yw i fwynhau bob munud. Mae Cymru'n lwcus iawn i gael yr Urdd a'r cyfleon y mae'n ei roi i blant a phobl ifanc," meddai.

  • Dydd Sadwrn - Nia Tudur

  • Ganed a magwyd Nia Tudur yn Llanelwy. Aeth i Ysgol Gynradd Twm o'r Nant ac Ysgol Uwchradd Glan Clwyd ac wedi graddio yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Bangor bu'n dilyn cwrs newyddiaduriaeth.

    Wedi gadael y coleg bu'n ohebydd newyddion yng ngogledd ddwyrain Cymru i Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru.

    Mae'n awr yn byw yng Nghaerdydd ac yn newyddiadurwraig yn adran newyddion Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru ac yn gweithio ar raglenni fel Post Cyntaf a'r Post Prynhawn ac yn darllen bwletinau newyddion.

    Un o uchafbwyntiau ei gyrfa hyd yn hyn fu gohebu o brotest fawr Stanlow.

    Bu'n aelod o'r Urdd ers yn chwech oed tan yn 25 gan gystadlu'n llwyddiannus yn yr Eisteddfod bob blwyddyn mewn cystadlaethau unawd a deuawd.

    Y tro cyntaf iddi berfformio ar lwyfan cenedlaethol yr Urdd oedd mewn parti dawnsio gwerin, ac wedi hynny aeth ymlaen i gael llwyddiant ysgubol yn yr adran gerddoriaeth; unawdau, deuawdau, triawdau, partïon a chorau.

    Yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a Lliw hi ddewiswyd yr unawdydd mwyaf addawol o dan 19 oed.

    Bu'n cystadlu'n gyson yn yr adran lenyddiaeth ac ar gyfansoddi cerddoriaeth hefyd.

    "Yn sicr roedd y profiad o berfformio ar lwyfan yn werthfawr iawn, ac mae'r profiad yn sicr wedi fy helpu yn fy ngyrfa... rwy'n gobeithio y bydd plant a phobl ifanc eraill yn dal i gael yr un cyfleon ac a gefais i, ac yn manteisio ar y cyfleon rheiny yn y dyfodol," meddai.




    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý