Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2006

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2006

O'r Maes
Lluniau

Cefndir

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Cymorth Cristnogol - drymio cefnogaeth
Ymgyrchu yn erbyn 'dau fwli mawr'
Ar faes Eisteddfod yr Urdd y dewisodd Cymorth Cristnogol roi cychwyn i'w ymgyrch haf ar gyfer Prydain gyfan.

"Mae'r ymgyrch Dal i Guro yn ddilyniant i'r ymgyrch Rhoi Terfyn ar Dlodi y llynedd," meddai Branwen Niclas o Gymorth Cristnogol.

Ym mhabell Cymorth Cristnogol yr oedd y mudiad yn llythrennol guro'r drwm i dynnu sylw at agweddau o dlodi mewn gwahanol wledydd gyda chasgliad o ddrymiau o'r gwledydd hynny yn cael eu harddangos.

Gwledydd tlawd
Dywedodd Branwen Niclas i'r mudiad ddewis maes Eisteddfod yr Urdd i gychwyn yr ymgyrch oherwydd ei fod yn gyfle i "ymestyn allan" i bobl ifainc.

Ychwanegodd fod yr ymgyrch newydd sy'n cael ei hadnabod fel The beat goes on yn Saesneg yn deillio'n uniongyrchol o ymgyrch y llynedd pryd cafwyd addewid gan Lywodraeth Prydain na fyddai'n gorfodi manach rydd ar wledydd tlawd.

Pabell Cymorth Cristnogol "Ond trwy ariannu'r IMF a Banc y Byd mae hi mewn gwirionedd yn dal i wneud hynny," meddai Branwen Niclas.

Gwledydd yn dioddef
Yn y babell ar faes yr Eisteddfod y mae sawl enghraifft o sut y mae gwahanol wledydd - yn amrywio o Ghana i Senagol - yn dioddef oherwydd annhegwch masnachol.

Yn Ghana er enghraifft mae cynhyrchwyr reis yn dioddef yn enbyd oherwydd nad oes rhwystr i fewnforio reis rhad i'r wlad.

"Yn Senagal mae nionod yn pydru oherwydd bod rhai rhad yn cael eu mewnforio a'r cynhyrchwyr yn methu gwerthu'r cynnyrch lleol. Mae cynhyrchwyr siwgr yn Haiti yn wynebu'r un broblem. Ym Mrasil mae pobl yn methu fforddio dŵr hyd yn oed ers iddo gael ei breifateiddio."

Mae nifer o actorion gan gynnwys Lisa Mererid a Rhys Ifans yn cyflwyno'r neges hon ar CDs ger y drymiau ym mhabell Cymorth Cristnogol.

'Dau fwli mawr'
Mae'r mudiad yn cyfeirio at yr IMF a Banc y Byd fel "dau fwli rhyngwladol" sy'n gwneud pobl dlawd yn dlotach fyth.

"Maent yn gwthio masnach rydd gan osod amodau ar fenthyciadau a dileu dyledion ac yn gorfodi gwledydd tlawd i ymuno â ffyrnigrwydd y farchnad fyd-eang lle mae'n rhaid brwydro i gystadlu," meddai taflen yr oedd y mudiad yn ei dosbarthu wrth hel enwau ar ddeiseb.

Mae'r mudiad hefyd yn trefnu rali yn Llundain - gyda drymiau wrth gwrs - ar Fedi 14, 2006, ar drothwy ymweliad Gordon Brown Hilary Benn a chyfarfodydd G8.




About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý