Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2006

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2006

O'r Maes
Lluniau

Cefndir

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Taith anffodus
Profiad chwithig ar ôl ennill tlws
Yr oedd ei diwrnod yn llywydd y dydd yn yr Eisteddfod yn gyfle i Manon Elis ddwyn i gof ddigwyddiad anffodus pan enillodd hi un o dlysau Eisteddfod yr Urdd.

Manon gyda'i thad, Elis Jones a dwy o weinyddesau meithrin pan oedd yn yr ysgol, Sian Williams, Llangernyw a Meira Jones, Llanfair Talhaearn, ar Faes y Steddfod Ac yn gyfle hefyd i rannu cyfrinach am gyd-ddigwyddiad yn gynharach yr wythnos.

Yn adnabyddus fel Michelle yn y gyfres deledu Rownd a Rownd yr oedd Manon yn gystadleuydd - ac yn enillydd - cyson yn adran lefaru Eisteddfod yr Urdd.

Ond yn Eisteddfod Merthyr yn 1987 bu tro anffodus yng nghynffon buddugoliaeth.

"Yr oeddwn i yn fuddugol am lefaru yn yr adran 10 i 12 oed ac wedi ennill Tlws Coffa Orleana Mary Jones," meddai.

"Yn anffodus allwn i ddim dychwelyd adref gyda gweddill y criw o'r ysgol oherwydd bod angen imi aros ar ôl i wneud darllediad byw ar gyfer HTV.

"Pan oeddem ni yn trafeilio adref o'r diwedd ar ôl y darllediad yr oeddwn i'n teimlo'n ofnadwy o sâl ac mi wnes i gyfogi drosof fy hun a thros y tlws yr oeddwn i wedi ei ennill," meddai.

A'r cyd-ddigwyddiad? Enillwyd yr union dlws hwnnw yn yr Eisteddfod yr wythnos hon gan Bethan Elin Owen sy'n cael ei hyfforddi gan Anwen Jones, mam Manon!

Manon a'i Mam "Mae'n dda nad oedd Bethan yn sylweddoli fod merch ei hathrawes wedi cyfogi dros y tlws, yr oedd hi yn ei dderbyn, yn ystod y daith yna o Ferthyr!" meddai Manon.

  • Gyda llaw, mae pump o'r enillwyr y mae eu henwau ar y tlws wedi eu hyfforddi gan fam Manon!

  • Rhagor am Lywyddion y Dydd



  • About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý