Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2006

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2006

O'r Maes
Lluniau

Cefndir

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Y car ar Faes y Steddfod Cynllun gyrru diogel
Canllawiau gyrru i'r ifanc
Rhybuddiwyd mai pobl ifanc rhwng 17 a 25 oed yw'r rhai tebycaf i gael damwain wrth yrru ceir - oed llawer o'r rhai sy'n crwydro Maes Eisteddfod yr Urdd yr wythnos hon.

Ac er mwyn dangos pa mor ddifrifol y gall hynny fod yr oedd car faes yr Eisteddfod a fu mewn gwrthdrawiad pan yn teithio 40 milltir yr awr.

Canlyniad gwrthdrawiad 40myaYn y sedd flaen yr oedd model o yrrwr nad oedd yn gwisgo gwregys diogelwch wedi ei anafu'n ddifrïol ac yn waed diferol. Yn y sedd gefn yr oedd baban heb ei ddiogelu'n iawn, eto'n waed i gyd a'i ben wedi'i niweidio.

Gwahoddwyd pobl ifainc i ddysgu gwersi sylfaenol fel gwisgo gwregysau, defnyddio seddau diogel ar gyfer plant bychain ac i ganolbwyntio yn llwyr ar yrru trwy beidio â defnyddio ffôn symudol er enghraifft.

Alun Pugh AC, Rosemary Thew a Tom Jones Ac er nad yw'n anghyfreithlon i blant eistedd mewn sedd flaen cafodd rhieni eu hannog i sicrhau sedd ddiogel yng nghefn y car iddynt.

Mae'r car ar y maes gydol yr wythnos ond ddydd Iau yr oedd y Gweinidog o'r Cynulliad, Alun Pugh, a Rosemary Thew, Prif Weithredwraig yr Asiantaeth Safonau Gyrru, yn bresennol ar gyfer digwyddiad a drefnwyd gan Pass Plus Cymru - corff sy'n cynnig hyfforddiant gyrru ychwanegol i yrwyr gyda chynllun wedi ei anelu yn arbennig at rai rhwng 17 a 25 oed ac yn cynnig 'gwersi' am gyfnod o naw awr.

Canlyniad gwrthdrawiad 40mya "Mae Pass Plus Cymru wedi ei ddatblygu er mwyn ceisio lleihau niweidiau a marwolaethau ar ein ffyrdd ymysg gyrwyr yr oed hwn gan fod ystadegau yn dangos mai dyma'r grŵp tebycaf i fod mewn damwain - ac yn anffodus mae hynny'n ffaith bob yn ail ddiwrnod ar ffyrdd Cymru," meddai Tom Jones y Cyfarwyddwr Gweithgareddau wrth gyflwyno'r cynllun.

Pris arferol yr hyfforddiant yw £40 ond mewn rhai siroedd bydd am ddim.

Wedi'r ddamwain "Mae hyn yn gyfraniad enfawr tuag at ddiogelwch gyrwyr o'r oedran yma," meddai Tom Jones.

Tynnodd sylw yn arbennig at effeithiau yfed a chyffuriau, blinder, pwysau gan gyfeillion, gyrru'n ymosodol, defnyddio ffôn symudol ac arferion gyrru gwael a goryrru.






About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý