Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2006

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2006

O'r Maes
Lluniau

Cefndir

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Llechu yn harddwch Dyffryn Clwyd Datgan llwyddiant
Yr Urdd yn canmol - a chael ei ganmol
Yn dilyn diwrnod cyntaf ansicr o ran tywydd trodd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych yn un o'r goreuon o ran tywydd.

Ac wrth i'r haul wenu'n lletach o ddydd i ddydd gwelwyd wynebau'r trefnwyr hefyd yn goleuo a neges o lwyddiant oedd ganddynt erbyn y Sadwrn.

"Llwyddiant ysgubol," oedd y geiriau allweddol mewn datganiad i'r wasg i gloi'r Å´yl.

Yng nghanol hyfrydwch
Y ffigwr presenoldeb terfynol oedd 100,000 a phawb yn canmol y Maes fel un o'r goreuon o ran golygfeydd yn glyd ym mhoced gwasgod Moel Famau a bryniau Clwyd.

Meddai Alun Edwards, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith:
"Ar ddiwedd wythnos fendigedig, dwi'n teimlo'n andros o falch dros yr holl wirfoddolwyr lleol a phlant a ieuenctid yr ardal sydd wedi gweithio mor ddiflino.

" Maen nhw wedi cael eu gwobrwyo am eu holl waith caled gydag Eisteddfod eithriadol o lwyddiannus."

Eisteddfod mewn harddwch naturiol Ac meddai Tudur Dylan Jones, Cadeirydd Bwrdd Eisteddfod a chelfyddydau yr Urdd, a oedd wedi siarsio'r wasg ddechrau'r wythnos i gyhoeddi ond newyddion da:
"Mae cannoedd o weithwyr gwirfoddol ar hyd y maes, o'r clerciaid sydd yn y rhagbrofion erbyn 7.30 y bore i'r stiwardiaid yn y gweithgareddau nos, ac mae'n bosib na chân nhw, na'r llu gwirfoddolwyr eraill, ddiolch personol.

"Does dim posib i'r Urdd ddiolch i bawb yn unigol, ond gobeithio eu bod yn derbyn diolch y mudiad, sydd yn ddiolch didwyll dros ben."

Yr oedd cymharu prifwyl Sir Ddinbych gyda'r hyn a fu yng Nghaerdydd y llynedd yn anorfod, wrth gwrs.

O ran ymwelwyr, Sir Ddinbych ddaeth allan ohoni orau gyda'r ffigurau mynediad yn uwch y rhan fwyaf o ddiwrnodau - bron i 3,500 yn uwch ar y dydd Sadwrn.

Ond, fel sy'n digwydd yn gyson gyda phob Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd mynd i lawr roedd y niferoedd wrth i'r wythnos fynd rhagddi - y niferoedd yn gostwng fel yr oedd yr oed cystadlu yn codi a'r 21,169 a ddaeth yno ar y Llun yn gostwng i lai na'i hanner, 9,678, ar y Sadwrn - rhywbeth sy'n siwr o fod yn gymysgedd o bryder ac o her i arweinwyr y mudiad wrth iddynt geisio dal eu gafael ar bobl ifainc unwaith y maent y tu hwnt i ddylanwad athrawon ysgol.
Cyhoeddir y ffigurau llawn ar ddiwedd y sylwadau hyn.

Safon uchel
Beth bynnag am y niferoedd gallodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, gyhoeddi fod safon y cystadlu yn uchel.

"Dwi wrth fy modd yn gallu cyhoeddi ar ddiwedd ein gŵyl yma yn Sir Ddinbych, inni gael Eisteddfod wirioneddol ragorol," meddai.

Siomi beirniaid
Fodd bynnag, yn ystod yr wythnos siomwyd mwy nag un beirniad gyda nifer y cystadleuwyr yn y prif gystadlaethau gyda'r Dr Geraint W Jones y llymaf ei gerydd o dderbyn dim ond chwe ymgais am Fedal y Dysgwyr.

Dim ond tri a ymgeisiodd am y Gadair gydag un o'r rheini yn dod yn gyntaf ac yn ail a'r beirniad yn canmol y safon yn gyffredinol.

Ymgeisiodd saith am y Tlws Drama, nifer heb lawer o lewyrch ar eu gwaith.

Naw gystadleuodd am y Fedal Lenyddiaeth a nifer mwy anrhydeddus o 17 am y Goron a hynny'n gwneud camp Gwenno Mair Davies yn sicrhau seremoni iddi ei hun yn dilyn stomp y llynedd yn gamp fwy anrhydeddus fyth ac yn rhywbeth yr oedd ymfalchio cyffredinol ynddo.

Ond yn amlwg, mae gan yr Urdd rywbeth i bryderu amdano gyda'r diffyg diddordeb yn y prif wobrau llenyddol hyn ac hefyd Dlws y Cerddor na ddenodd ond tair ymgais.

Canmoliaeth awdur
Yn fudiad na fu erioed yn swil o gael ambell i 'enw mawr' i'w ganmol manteisiodd yr Urdd yr wythnos hon ar ymweliad yr awdur Saesneg Anthony Horowitz a oedd yn y Steddfod ar gyfer cyhoeddi cyfieithiad Cymraeg o un o'i nofelau.

"Mae hyn yn ddathliad o bopeth sy'n dda mewn bywyd. Rydw i'n llawn edmygedd ac yn gresynu nad oes gŵyl debyg yn Lloegr," meddai.

Trueni na fyddai mwy yng Nghymru yn meddwl yr un fath.

Eraill a ddaeth o bell oedd pobl ifanc o Sweden, ddydd Gwener, ar ymweliad cyfnewid â Choleg Llysfasi, a dydd Sadwrn, plant o'r Eidal ar ymweliad â Llanberis.

Mewn Steddfod hwylus, mae'n ymddangos mai'r unig gwyno oedd yr un arferol am brisiau bwyd ar y maes - ac os bydd hi rywbeth tebyg yng Nghaerfyrddin y flwyddyn nesaf gwell dechrau cynilo i brynu byrgyr yn awr!

Tyrfaoedd:
  • Llun: 21,169 (21,382 Caerdydd)
  • Mawrth: 20,654 (24,687)
  • Mercher:18,089 (21,382)
  • Iau: 16,958 (16,509)
  • Gwener: 14,285 (13,027)
  • Sadwrn: 9,678 (6,251)
    gan Glyn Evans.



  • About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý