Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2006

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2006

O'r Maes
Lluniau

Cefndir

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Gwenno Mair Davies Gwenno'n ennill Coron a seremoni
Ail goron - ond seremoni gyntaf
Ni fydd neb ym mhentref Llansannan wedi eu synnu gyda chanlyniad cystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod yr Urdd 2006.

. Ddiwrnod y gystadleuaeth y llynedd cael ei dyfarnu'n ail a wnaeth Gwenno Mair Davies a gweld merch arall yn cael ei choroni.

Ond oherwydd amryfusedd gyda'r ymgais 'fuddugol' bu'n rhaid i'r bardd coronog ildio ei choron a'i throsglwyddo i Gwenno a oedd ym marn y beirniaid yn llawn haeddu'r wobr hefyd.

Yr oedd hi'n fis Medi cyn iddi gael y goron ar ei phen yn swyddogol ond yr oedd ei chyd bentrefwyr yn Llansannan wedi ei anrhydeddu ymhell cyn hynny - Gyda Bethan Gwanas.oll yn gofidio iddi gael y fath gam ac oll yn deisyfu y byddai'r ferch a gafodd ei choron ond nid ei seremoni yn dychwelyd i'r steddfod eleni eto a chael ei choroni'n deilwng.

A hynny'n gwireddu dymuniad un o'r siaradwyr yn y cyfarfod hwnnw yn Llansannan:
"Hei lwc yr enilli di eto y flwyddyn nesaf - mewn modd llai dramatig," meddai.

Yr oedd hyder cyffredinol y byddai'n gwneud hynny ac wedi'r seremoni eleni cyfaddefodd Gwenno ei bod dan bwysau ychwanegol oherwydd disgwyliadau pobl.

. Ond yn ôl un o'r beirniaid, Bethan Gwanas, yr oedd y ferch 23 oed o Lansannan sy'n awr yn athrawes yn Ysgol Gyfun Ystalyfera ymhell ar y blaen i'r ymgeiswyr eraill.

"Yr oedd hi ben ac ysgwydd yn uwch," meddai wrth Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd.

Yr oedd Bethan Gwanas hefyd wedi canmol natur anghyffredin ymgais Gwenno - wedi ei anfon i'r gystadleuaeth ar ffurf ffeil swyddogol adran gwasanaethau cymdeithasol yn ymwneud a bachgen yn dioddef oherwydd trais yn y cartref.

. Yn y ffeil roedd llythyr gan brifathro'r plentyn, cyfweliad â'i fam ac adroddiad meddyg.

Canmolodd Bethan Gwanas a'i chyd-feirniad, Jerry Hunter, y darn am droedio'r ffin rhwng ffuglen a realiti mor gelfydd.

Yng nghyfansoddiadau'r Eisteddfod gwelir ei fod yn gyfanwaith arbennig ac annisgwyl iawn.

Dywedodd Gwenno i'r syniad ddod iddi wedi iddi dreulio cyfnod yn gweithio mewn adran gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol.

"Roeddwn i'n gweithio i adran gwasanaethau cymdeithasol dros yr haf a gweld cymaint o straeon trist nad ydi pobl yn gwybod dim byd amdanyn nhw," meddai.

Ychwanegodd iddi ddechrau sgrifennu'r gwaith ar gyfer y llynedd ond iddi fethu â'i gwblhau mewn pryd.

. A hithau'n awr gyda'r record anghyffredin o fod yn ail ac yn gyntaf gyda'r un ymgais yng nghystadleuaeth y llynedd ac yn gyntaf eleni mae holi yn awr a fydd yn mynd am drydydd cyntaf y flwyddyn nesaf.

Ond yr oedd Gwenno ei hun yn amheus a fyddai hynny yn digwydd.

"Efallai y byddai'n canolbwyntio mwy y flwyddyn nesaf ar gael plant o'r ysgol i gystadlu," meddai.

Ac er gwaethaf y feirniadaeth galonogol dywedodd ei bod yn amheus hefyd a fyddai'n troi at sgrifennu yn llawn amser.

"Mae'n rhaid ichi fod yn rhywle - fel gwaith - i gael deunydd i sgwennu amdano. Allwch chi ddim eistedd adref . . ." meddai.

  • Yn gynharach yr wythnos hon daeth Gwenno yn drydydd am y Fedal Ddrama.

    Yn dilyn y gefnogaeth a gafodd gan bentrefwyr Llansannan wedi siom a diflastod Eisteddfod yr Urdd y llynedd dywedodd; .
    "Mae nhw wedi rhoi cymaint i mi rydw i nawr eisiau rhoi rhywfaint yn ôl hefyd."

    Balchder y fro yn ei llwyddiant y llynedd yn fwy na dim a'i hysgogodd i gystadlu eto eleni, meddai.



  • Beth ddigwyddodd y llynedd?


  • Gwraig y Goron




  • About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý