Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2006

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2006

O'r Maes
Lluniau

Cefndir

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Bardd plant efo gitâr
Gitâr yn hytrach na chynghanedd fydd un o arfau bardd plant newydd Cymru.
Wedi iddi gael ei henwi yn seithfed bardd plant Cymru - i ddilyn Mererid Hopwood - dywedodd Gwyneth Glyn nad yw hi'n cyfansoddi yn y mesurau caeth.

Ond ychwanegodd y bydd yn defnyddio ei gitâr mewn sesiynau a gweithdai i ennyn diddordeb plant mewn barddoniaeth a barddoni.

"Yr ydw i yn gallu adnabod cynghanedd," meddai, " a bydd elfen o hynny yn dod i mewn ond bydd y gitâr yn cymryd lle y gynghanedd eleni," meddai.

Yn 26 oed, Gwyneth Glyn yw bardd plant ieuengaf Cymru hyd yn hyn yn dilyn Myrddin ap Dafydd, Meirion McIntyre Huws, Menna Elfyn, Ceri Wyn Jones, Tudur Dylan a Mererid Hopwood.

Cafodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Glan y Môr, Pwllheli, Coleg Meirion Dwyfor a Choleg Iesu, Rhydychen gan raddio mewn Athroniaeth a Diwinyddiaeth "pynciau sy'n llawn gwrthdaro, syniadau difyr a phobol ryfeddol," meddai.
"Jest y peth ar gyfer stori dda!"

Gwyneth Glyn Dywedodd iddi fwynhau chwarae gyda geiriau erioed ac yn ogystal â barddoni mae hi hefyd yn awdur rhyddiaith a dramau ac yn ysgrifennu a pherfformio caneuon.

Mae'n hoff o ddweud mai gan W S Jones - Wil Sam - y cafodd y cyngor gorau erioed, sef y dylai "sgwennu, sgwennu a sgwennu!"

Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd LlÅ·n ac Eifionydd 1998, a hithau'n ddeunaw oed.

Bu'n storio a sgriptio'r gyfres deledu Rownd a Rownd am gyfnod wedyn, ac ers hynny mae hi wedi cyhoeddi nifer o lyfrau i blant a phobl ifanc.

Ar hyn o bryd mae'n cwblhau drama un ddynes i blant ar gyfer Cwmni Arad Goch yn ymwneud â chwedl Ffynnon Grasi.

Mae hi hefyd yn gweithio ar ail albwm o ganeuon.

Wrth dderbyn mantell Bardd Plant Cymru, dywedodd:
Gwyneth Glyn "Mae hi'n her dilyn rhywun mor arbennig a Mererid Hopwood, sydd wedi llwyddo i gyffroi plant Cymru hefo'r gynghanedd o bob dim!

"Mi hoffwn i barhau â'r syniad mai rhywbeth i'r glust ydi barddoniaeth - a'i fod o ymhobman o'n cwmpas ni - yn sŵn y traffig, yn ffrae dau gariad, yn y rap ar y radio ac yn chwyrnu hen Daid. Fel jôc dda, mae barddoniaeth yn rhywbeth sy'n rhaid ei rannu.

"Dwi'n edrych ymlaen i rannu antur a hanner hefo ieuenctid Cymru."

Gwyneth Glyn Cynllun ar y cyd rhwng S4C, Cyngor Llyfrau Cymru, Yr Academi Gymreig ac Urdd Gobaith Cymru yw un Bardd Plant Cymru gyda'r bwriad o godi proffil barddoniaeth ymysg yr ifanc, a'u hannog i greu a mwynhau cerddi.

Ddydd cyhoeddi enw Gwyneth Glyn yn fardd plant cyhoeddwyd hefyd gerdd gan ei rhagflaenydd, Mererid Hopwood, yn ei chyfarch:

Tase hi yma . . .
Tase hi yma,
bardd plant Cymru gorau'r byd,
base plant o Fôn i Fynwy
am flwyddyn yn wên i gyd.

Tase hi yma,
ac yn rhannu'i hamser sbâr
base'n barod efo papur,
a beiro . . . a gitâr.

Tase hi yma,
fase'm angen dim byd mwy,
base pawb, wrth wrando arni,
wedi llunio cerdd neu ddwy.

Tase hi yma,
yn ein hymyl ni fan hyn,
base pawb yn gweiddi'i henw
yn uchel, Gwyneth Glyn!

A gan ei bod hi yma,
fe waeddwn ni i gyd:
Croeso, croeso, Gwyneth,
Bardd plant Cymru gorau'r byd.

  • Dylai ysgolion sy'n awyddus i wahodd Gwyneth i gynnal gweithdy, neu ysgolion hoffai fod yn rhan o weithdy electronig, gysylltu â: Yr Academi Gymreig, TÅ· Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FQ; Ffôn: 029 2047 2266 neu barddplantcymru@s4c.co.uk




  • About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý