Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2006

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2006

O'r Maes
Lluniau

Cefndir

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Ceri Elen Morris Medal ddrama i Ceri Elen
Anorecsia - y cariad dinistriol
Anorecsia yw cariad dinistriol arwres y ddrama a ddaeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd 2006.

Mae tri chymeriad yn nrama Ceri Elen Morris - Mali, ei chariad Enoc, ac Anwen - ond mewn tro annisgwyl yn y stori datgelir mai anorecsia ei hun yw Enoc y cariad.

Ceri Datgelodd Ceri Elen Morris hefyd fod Enoc yn ymuno a'r ddrama o blith y gynulleidfa. "Yr oeddwn i am wneud hynny er mwyn dangos nad yw neb byth yn gwybod yn lle mae anorecsia yn llechu nac o ble mae'n dod. Mae o'n cwmpas drwy'r amser," meddai.

Dywedodd iddi gael ei sbarduno i gyfansoddi'r ddrama ar ôl gweld dwy raglen ddogfen ar y teledu am anorecsia o bolemia.

Wrth ymchwilio ymhellach i'r pwnc dywedodd iddi gael ei syfrdanu i ddarganfod safleoedd 'pro anorecsia' ar y we sydd yn cynghori pobl ifainc sut i fywbheb fwyd.

Rhywbeth i'w yfed wedi'r seremoni "Mae yna gynghorion faint o ddŵr i'w yfed i lenwi eich hun a pha laxatives i'w cymryd - cynghorion uffernol fel'na,"meddai.

"Yr oeddwn i'n meddwl fod rhywbeth ofnadwy yn gyrru y bobl sy'n gwneud y pethau ofnadwy hyn," meddai.

Fe'i dychrynwyd hefyd salwch mor hawdd ei guddio rhag pobl eraill yw anorecsia a dyna arwyddocâd pellach i Enoc syddddim yn berson nac yn gariad.

Dywedodd Ceri Elen mai ei gobaith gyda drama o'r fath y byddai yn peri i'r rhai fuasai'n ei gweld sylwi ar arwyddion o'r salwch mewn pobl o'u cwmpas a chynnig help a cheisio deall y sefyllfa.

"Achos maen nhw eisiau help," meddai.

Does yna ddim cynlluniau i chwarae'r ddrama ar lwyfan ar hyn o bryd ond fe fydd yn cael ei haddasu i'w darlledu ar Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru.

Acfe all hynny fod yn dipyn o her i gynhyrchydd gan fod gwrthgyferbyniad rhwng y corfforol a'r geiriol yn elfennau pwysig yn y gwaith.

Cael ei holi ar gyfer Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru Dywedodd Ceri Elen iddi ddechrau ymddiddori yn y ddrama a'r theatr dan ddylanwad ei hathrawes yn Ysgol y creuddyn, Catrin Jones.

Yn ogystal a sgrifennu mae Ceri Elen yn ymddiddori mewn actio hefyd ac yn gobeithio gwneud gyrfa o hynny ond dywedodd nad ysgrifennodd y ddrama hon gyda'r bwriad o chwarae rhan ynddi ei hun.

Y llynedd daeth yn drydydd yn yr un gystadleuaeth ac enillodd wobr gyntaf ddwywaith yn yr Eisteddfod Ryng-golegol.



About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý