Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth

Archifau Medi 2009

Mastermind Vaughan

Vaughan Roderick | 16:00, Dydd Mercher, 30 Medi 2009

Sylwadau (8)

_41444174_chair_bbc_203.jpgMae heddiw'n ddiwrnod sbeshal. Am y tro cyntaf mae 'na dipyn o feddwl ymlaen llaw wedi digwydd ynghylch y blog yma. Rwyf yn eiddigeddus iawn ers tro bod gan Betsan ei chwis ac roeddwn yn benderfynnol o gael un hefyd!

Dros y mis diwethaf felly rwyf wedi plannu ambell i beth yn y penawdau a'r lluniau fel sylfaen i gwis bach. Does dim angen ail-ddarllen yr erthyglau! Bant a ni felly.

1. Ym mha flwyddyn y sefydlwyd "National Milk Bars"?

2. Mae 'na ddau bennawd sy'n ddyfyniadau o emynau. Pa bennawdau a pha emynau?

3. Pwy oedd awdur llyfrau Biggles?

4. Pa bennawd sy'n ddyfyniad o'r anthem Gomiwnyddol?

5. Pwy wnaeth gyfieithu'r anthem honno i'r Gymraeg?

6. Pa actor wnaeth ymddangos yn y "Magnificent Seven" a "Tiger Bay"

7. Pa gwmni teledu oedd yn darlledu ar sianel saith?

8. Stori pa deulu oedd "Dynasty"?

9. Ar ba ddyddiad yr oedd refferendwm 1979?

10. Pa air hud sy'n galw nadroedd?

Cadwch draw o'r sylwadau er mwyn osgoi atebion anghyflawn!

Cytundeb neu gadoediad?

Vaughan Roderick | 14:44, Dydd Mercher, 30 Medi 2009

Sylwadau (0)

1045.jpgMae Comisiwn y Cynulliad a'r "giang o bedwar" wedi cyrraedd cytundeb ynghylch cyfieithu'r Cofnod.

Cadoediad yw hwn yn hytrach na chytundeb heddwch yn yr ystyr bod y ddwy ochor wedi cytuno ar drefniadau dros dro tra bod "adolygiad llawn a thryloyw" o'r opsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau dwyieithog yn cael ei gynnal. Disgwylir i'r arolwg hwnnw ddod i ben erbyn diwedd Mis Ionawr.

Yn y cyfamser fe fydd y pwyllgorau deddfwriaethol yn cael eu cyfieithu yn unol a "chyfaddawd" y Comisiwn. Mae hynny yn gam pwysig ymlaen.

Wrth i gorpws o ddeddfwriaeth Gymreig ddatblygu fe fydd disgwyl i lysoedd farnu beth oedd bwriad llunwyr y ddeddf. Dros gyfnod o flynyddoedd a degawdau gallai'r ffaith bod eu bwriadau wedi eu cofnodi yn y ddwy iaith bod yn fodd i Gymreigio trafodaethau'r y llysoedd barn.

Mae'n symudiad pwysig, ond cofiwch, doedd hwn ddim yn rhan o gynulln gwreiddiol y Comisiwn. Mae'n bosib y byddai'r drefn wedi dod i fodolaeth rhywbryd yn dyfodol. Y rheswm mae'n digwydd nawr yw'r pwysau ar y Comisiwn dros yr wythnosau diwethaf.

Yn y cyfamser fe fydd cyfieithiadau o sesiynau llawn y Cynulliad yn cael eu cyhoeddi o fewn 3-5 diwrnod yn hytrach na'r 3-10 oedd yn rhan o "gyfaddawd" y comisiwn. Does dim dychwelyd i'r drefn o gyfieithu dros nos i fod felly.

Rhyw fath o losin bach i fynd a'r blas drwg o gegau'r comisiynwyr yw'r ffaith fach olaf yna. Wedi'r cyfan ar ddiwedd y dydd arbed arian oedd bwriad y Comisiwn. Fe fydd y drefn newydd yn ddrytach na'r hen un.

Mae' na un cwestiwn pwysig ar ôl sef natur y berthynas rhwng y Cynulliad a'r Bwrdd Iaith ac ymgais y comisiwn i anwybyddu ewyllys y Cynulliad i fabwysiadu Cynllun Iaith Statudol.* Mae 'na fwy o gwffio i ddod.

Fel y dwedais i. Cadoediad.

* Mae 'na ôl-nodyn bach doniol i'r stori yma. Mae 'na frawddeg hollbwysig yn natganiad Saesneg y Comisiwn sy'n absennol o'r fersiwn Gymraeg! Dyma hi; "the independent review will provide a basis for public consultation on how the National Assemblys language scheme should be revised". Ie dyna chi, y cynllun hwnnw nad oedd yn statudol yn ôl llythyr Claire Clancey!

Dyma'r frwydr ola'i gyd...

Vaughan Roderick | 12:08, Dydd Mercher, 30 Medi 2009

Sylwadau (0)

_44380753_towermarchdragon300.jpgMae'r arwyddion yn ddigon eglur. Mae Aelodau Llafur y Cynulliad wedi eu gwahodd i gyfarfod o bwyllgor gwaith Llafur Cymru yfory. Does dim dwywaith mai'r cyfarfod hwnnw yw dechrau'r broses i ddewis rhyw un i fod yn... wel, i ddewis rhyw un i fod yn rhywbeth.

Mae 'na broblem fach, chi'n gweld. Er y bydd olynydd Rhodri yn cael ei ddewis gan y blaid Gymreig yn ei chyfanrwydd ac er y bydd y person hwnnw yn cael ei ddisgrifio gan y cyfryngau fel "arweinydd Llafur Cymru" dyw hynny, mewn gwirionedd, ddim yn gywir.

Dyw Aelodau Seneddol Llafur Cymru ddim yn poeni rhyw lawer am y peth ond rwyf wedi gweld rhai o'u cefndryd Albanaidd yn mynd yn gwbl wallgof o glywed yr arweinydd Llafur yn Holyrood yn cael ei ddisgrifio fel "arweinydd Llafur yr Alban".

"Gordon Brown yw arweinydd Llafur yr Alban a Llafur Cymru a phobman arall hefyd! Arweinwyr grŵp yw'r arweinwyr yng Nghaeredin a Chaerdydd" yw'r mantra cyson gan rai.

Yn dechnegol mae hynny'n gywir, dwi'n meddwl. Ar y llaw arall os mai dyna yw'r sefyllfa pam y mae'r blaid gyfan yn cael llais wrth ddewis arweinwyr Caerdydd a Chaeredin? Dyw hynny ddim yn digwydd gydag arweinwyr llywodraeth leol nac arweinydd senedd Ewrop. Hwyrach y dylai'r cyfarfod dreulio ychydig funudau i ystyried y pwynt yfory.

Cofiwch, fe allai'r cyfarfod ystyried cwestiwn mwy dwys, un sy'n ddiwinyddol bron, sef beth yn union yw "Llafur Cymru"? Mae ganddi gynhadledd, pwyllgor gwaith, strwythurau i ddatblygu polisi, swyddfa a swyddogion ond ers rhai blynyddoedd bellach does ganddi ddim bodolaeth annibynnol ariannol. Dyna yw'r unig gasgliad posib o'r ffaith nad yw hi, yn wahanol i blaid yr Alban, bellach yn cyflwyno cyfrifon i'r .

Does gan gyfansoddiad y Blaid Brydeinig () fawr i ddweud am Lafur Cymru ac eithrio'r ffaith ei bod yn bodoli. Hyd y gwn i does gan y blaid Gymreig ddim cyfansoddiad ei hun er ei bod y ffordd mae'n gweithredu yn adlewyrchiad o'r blaid ar lefel Brydeinig.

Dyw hyn oll ddim yn beth drwg o reidrwydd. Yn wahanol i gyfansoddiadau'r Democratiaid Rhyddfrydol neu Blaid Cymru, dyweder, mae'r cyfansoddiad Llafur yn gryno ac yn hyblyg. Mae'n hawdd deall mai agwedd aelodau'r blaid am ddegawdau oedd "if it ain't broke don't fix it".

Y broblem yw wrth gwrs bod Llafur Cymru bellach wedi ei thorri neu mewn peryg o gael ei thorri. Mae rhes o drychinebau etholiadol yn brawf o hynny. Efallai na ddylai plaid syllu i'w bogail cyfansoddiadol ei hun ar drothwy etholiad. Ar y llaw arall sut mae dewis arweinydd heb wybod beth yn union yw'r dyletswyddau a'r pwerau a beth yn union y mae fe ne hi yn arwain?

Trioedd Ynys Echni - Morganwatch

Vaughan Roderick | 12:41, Dydd Mawrth, 29 Medi 2009

Sylwadau (0)

_940628_morgan300.jpg 1. Yng nghyfarfod y grŵp Llafur heddiw dywedodd Rhodri Morgan wrth yr aelodau'n na fyddai'n gadael swydd y Prif Weinidog nes i'r gyllideb gael "ei rhoi i'r gwely". Mae hynny'n golygu Rhagfyr 8fed.

Fy nealltwriaeth i yw y bydd yr etholiad i ddewis ei olynydd yn cael ei gynnal yn y cyfamser. Mae'n debyg bod Rhodri o'r farn y byddai'n annheg i ddisgwyl i Brif Weinidog, ac o bosib Gweinidog Cyllid, newydd gymryd yr awenau hanner ffordd trwy'r broses.

Mae 'na ochor arall i'r geiniog fach yna. Os ydy'r gyllideb wedi ei chytuno fe fydd hi'n amhosib i'r arweinydd newydd ei newid. Fe fydd blaenoriaethau 2010-2011 wedi eu naddu mewn carreg. Hynny yw blaenoriaethau Rhodri fydd blaenoriaethau'r llywodraeth o hyn tan etholiad 2011.

_44341711_cake_bbc_203.jpg2. Mae'n amhosib dianc rhag y ffaith bod heddiw yn ben-blwydd Rhodri. Draw yn y Senedd roedd Côr Merched Ysgol Howells yn canu "Pen-blwydd Hapus" y bore 'ma. Yma yn Nhŷ Hywel cafwyd achlysur echrydus. Llusgwyd aelodau'r lobi Gymreig i'r pumed llawr i ganu'r un gân a rhannu cacen. Yn anffodus roeddwn i'n gwneud fy ngwallt ar y pryd.

Efallai mai'r digwyddiad mwyaf rhyfedd oedd yr oedi ar ddechrau sesiwn gwestiynau Rhodri wrth i Ann Jones gyflwyno ei fersiwn hi o'r gân. Mae'n amlwg bod hynny mewn trefn ym marn Dafydd El ond pan geisiodd aelod gofyn cwestiwn difrifol ynghylch dyfodol Prif Weinidog Cymru roedd llid y Llywydd yn amlwg. Rhyfedd o fyd!

stig.jpg3. O leiaf mae pobol yn nabod Rhodri. Fe ddangosodd cydweithiwr i mi luniau o'r tri ymgeisydd posib ar gyfer yr arweinyddiaeth Llafur i ryw ddwsin o siopwyr yng Nghanol Caerdydd heddiw. Doedd neb yn gallu enwi'r un ohonyn nhw.

Diolch i'r nefoedd yn y diwedd daethpwyd o hyd i un o weision sifil y Cynulliad.

Roedd e'n gallu enwi dau!

Wedi Saith

Vaughan Roderick | 10:04, Dydd Mawrth, 29 Medi 2009

Sylwadau (0)

timebomb.jpgMae'r cloc yn tician.

Yng Nghyfarfod y Pwyllgor Busnes y bore 'ma penderfynwyd peidio caniatáu dadl ynghylch cyfieithu'r cofnod yn y cynulliad yr wythnos hon.

Ydy hynny'n newyddion da i'r Llywydd? Nac ydy.

Fe wnaeth cynrychiolwyr y pedair plaid hi'n gwbwl eglur y bydd 'na ddadl wythnos nesaf os nad yw'r Comisiwn wedi ildio erbyn hynny.

Mewn cynhadledd newyddion dywedodd Nick Bourne fod y Ceidwadwyr yn unfrydol ynghylch y pwnc. Roedd y cyfieithiad dros nos yn fater o egwyddor, meddai, gan ychwanegu bod hi'n bryd i aelodau'r comisiwn gofio eu bod yn weision i'r Cynulliad ac nid yn feistri arno. Nid y Torïaid yw'r unig rai sy'n credu hynny.

Yn ôl Kirsty Williams mae'n bryd edrych ar yr holl berthynas rhwng y Comisiwn a'r Cynulliad. Nid hwn yw'r tro cyntaf, meddai, i'r Comisiwn weithredu heb ymgynghori a'r aelodau.

Saith... Chwech... Pump... Pedwar...

Dime Dime Dime Hen Blant Bach

Vaughan Roderick | 19:34, Dydd Llun, 28 Medi 2009

Sylwadau (1)

_38925719_halfpenny238.jpgGadewch i ni fynd yn ôl at gychwyn yr holl ffwdan ynghylch y cofnod a rhywbeth ddywedodd un aelod o'r Comisiwn Peter Black wrth ysgrifennu ar "";

"If a language is to survive and flourish then it must be used as part of daily life and business. It follows therefore that in a body such as the National Assembly we should be using our resources to enable our business to be conducted blingually rather than producing what is effectively a retrospective record that adds nothing to that aim. For Rhodri Glyn Thomas and others it appears the bilingual record of proceedings is symbolic rather than functional. At £250,000 a year that is a very expensive symbol."

Wrth gwrs, ers hynny mae'r Comisiwn wedi ildio tir gan addo, yn gyntaf, cyfieithiad llawn "o fewn 3-10 diwrnod" ac, yn ddiweddarach ar dudalen flaen y Cofnod cyfieithiad "o fewn pum diwrnod".

Heddiw, mewn cyfarfod y Pwyllgor Cyllid, datgelodd Prif Weithredwr y Cynulliad, Claire Clancey, y bydd y drefn newydd yn costi £170,000. Mae'r arbediad, erbyn hyn felly, yn £80,000 y flwyddyn. Dyw hynny ddim yn cynnwys cost rhan arall o "gyfaddawd" y comisiwn sef cyfieithu cofnodion pwyllgorau deddfwriaethol.

Fel un oedd yn defnyddio'r cyfieithiad dros-nos yn gyson fedra i ddweud yn onest y bydd y cawl eil-dwym sy'n cael ei gynnig nawr o fawr o ddefnydd i mi. Yn fynych iawn rwy'n dymuno dyfynnu rhywbeth o'r Siambr ar y diwrnod canlynol. Mae'n anodd meddwl am achosion lle rwyf wedi dyfynnu rhywbeth o'r wythnos flaenorol. Rwy'n cymryd bod yr un peth yn wir am ddefnyddwyr eraill y Cofnod Cymraeg, y newyddiadurwyr, y gwleidyddion a'r gweision sifil fel ei gilydd.

Fe fyddai aelodau'r Comisiwn yn gwybod hynny pe bawn nhw wedi gwneud unrhyw ymdrech i ganfod barn defnyddwyr y Cofnod. Yn anffodus, mae'n ymddangos bod y Comiswn, heb unrhyw dystiolaeth hyd y gwelaf i, yn meddwl nad yw'r fath defnyddwyr yn bodoli. Wel, Arglwydd, dyma fi! Rwy'n sicr bod 'na eraill hefyd!

Dyma'r sefyllfa, felly. Er mwyn arbed dimeiau (yn nhermau cyllideb y Cynulliad) fe fydd y Cofnod yn cael ei droi yng ngeiriau Peter yn "very expensive symbol". Yn symbol o beth? Mae'n anodd osgoi'r casgliad y bydd e'n symbol o ystyfnigrwydd a hunan-balchder pobol fawr y Comisiwn.

Mae 'na fwy i ddod yn y stori yma. Dyw'r Pwyllgor Busnes, y Cynulliad, y Bwrdd Iaith ac, o bosib, yr Uchel Lys heb ddweud eu dweud eto.

A'r cyfan dros beth? Dime dime dime, hen blant bach.

Mrs. Slocombe a'r Economi Gymreig

Vaughan Roderick | 11:30, Dydd Llun, 28 Medi 2009

Sylwadau (8)

DB.jpgRoeddwn i wedi bwriadu aros am wythnos neu ddwy cyn cymryd cip ar siop newydd yng Nghaerdydd. Yn y diwedd roedd y temtasiwn yn ormod i mi ac, mae'n ymddangos, i hanner poblogaeth De Cymru!

Y cyfan wna i ddweud yw bod y lle yn ENFAWR a bod y defnydd o'r Gymraeg yn rhyfeddod gyda phob peth yn gyfan gwbl ddwyieithog. Mae'n amlwg nad oedd y cwmni yn cyfri'r ceiniogau wrth lunio polisi iaith. Efallai bod 'na wers yn hynny i Gomisiwn y Cynulliad.

Allan o ddiddordeb fe wnes i chwilio ar y we i weld a oedd y John Lewis gwreiddiol yn Gymro. Fel mae'n digwydd, doedd e ddim ond roedd Cymry oes Victoria yn dipyn o feistri ar agor siopau adrannol.

Mae siop adrannol fwyaf Sydney,, o hyd yn hedfan y Ddraig Goch ar Ddydd Gŵyl Dewi. Yng Nghairo, tan y chwedegau, roedd tariannau'n datgan "Y Gwir yn Erbyn y Byd" yn addurno siop un o gyfres o siopau yn yr Aifft oedd yn eiddo i deulu mentrus o Gaernarfon. Y teulu hwnnw, gyda llaw, wnaeth rhoi'r tir ar gyfer campws Penglais yn Aberystwyth.

Mae 'na hen ddigon o esiamplau o fenter y Cymry yn yn 19eg ganrif. Roedd "Welsh Daries" y palmant aur oedd i'w canfod yn Llundain a dinasoedd mawrion eraill Lloegr yn un enghraifft. Yn agosach at gartref agorodd dynion busnes Cymreig siopau fel David Morgan, Caerdydd, Dan Evans, y Barri a David Evans, Abertawe. Yn agosach fyth at gartref roedd teulu fy nghydweithiwr, Guto Thomas, yn berchen ar gadwyn o siopau dillad yn y brifddinas.

Dyw'r ffaith bod hi'n ystrydebol braidd i ddweud bod Cymru'n dibynnu gormod ar y sector gyhoeddus ddim yn golygu nad yw hynny'n wir ond yn ddiweddar fe wnaeth Rhodri Morgan bwynt diddorol iawn. Yn ôl Rhodri mae'r canran o'r boblogaeth yng Nghymru syn gweithio yn y sector gyhoeddus yn ddigon tebyg i'r canran yn Lloegr. Y broblem yw nid bod y sector gyhoeddus yn rhy fawr ond bod y sector breifat yn rhy fach.

Rhywbryd yn ystod yr ugeinfed ganrif fe gollodd y Cymry eu parodrwydd i fentro gan edrych lawr eu trwynau braidd ar y rheiny oedd yn ceisio troi ceiniog trwy fasnach. Mae sawl esboniad yn cael eu cynnig. Mae diffyg cyfalaf, dibynnu gormod ar lond dwrn o ddiwydiannau trymion a'r defnydd o Gymru fel "peiriant cynhyrchu athrawon" i Loegr yn eu plith. Mae'n debyg mai cyfuniad o'r ffactorau hynny ac eraill oedd yn gyfrifol.

Fe fyddai canfod ffyrdd i ailgynnau'r ysbryd o fenter ymhlith y Cymry yn faen athronydd i Lywodraeth y Cynulliad, yn fodd i droi plwm yr economi bresennol yn aur.

Mewn gwirionedd does dim dewis arall. Does dim achubiaeth i ddod i economi Cymru o Japan, yr Almaen na'r Unol Daleithiau y tro hwn.

Diweddariad Iawn, rwy'n cyfaddef fy mod yn hwntw anwybodus! Diolch i bawb wnaeth dynnu fy sylw at siop , Lerpwl a'i .

Y diawl yn rhoi'r bai ar bechod...

Vaughan Roderick | 22:11, Dydd Sul, 27 Medi 2009

Sylwadau (5)

BNP.jpgEfallai eich bod wedi dod ar draws ynghylch defnydd y BNP o luniau o gerflun Owain Glyndŵr yng Nghorwen mewn deunydd marchnata. Y cerflun newydd nid yr hen gorrach sy'n cael ei ddefnyddio wrth reswm!

Wrth ymateb mae swyddog y wasg y blaid, John Walker, yn dweud hyn;

"The Lib-Dems and Labour policies have flooded Wales with non-Welsh immigrants, to the point where there are 38 established mosques there. All those who understand the struggle for Welsh identity for which Owain was famous, know that his ideals are being destroyed by the genocidal Labour/Lib-Dem/Tory/Plaid immigration policies"

Ydy'r "non-Welsh immigrants" yna yn cynnwys pobol o Loegr, tybed? Fedra i feddwl am un enghraifft amlwg o'r ffenomen yna sy'n byw nid nepell o Sycharth.

Gyda llaw, beth os oedd ffigur y BNP o 38 mosg yng Nghymru yn gywir? Dyw e ddim, ond os oedd e, byswn i'n tybio bod hynny'n golygu bod nifer yr addoldai Mwslimaidd bellach yn curo'r Bedyddwyr Albanaidd, yn closio at gyfanswm yr Undodiaid ond dim eto yn herio Capel Wesle!

Rialtwch

Vaughan Roderick | 14:43, Dydd Sul, 27 Medi 2009

Sylwadau (0)

brighton_pier_in_march_330_330x330.jpgY gair o Brighton gan Betsan yw na fydd Rhodri Morgan yn cyhoeddi dyddiad ei ymadawiad yn y gynhadledd heddiw.

Wrth gwrs roedd e'n mai hon fydd ei "gynhadledd olaf fel Prif Wenidog" ac fe fydd hynny'n ddigon i sicrhau bod "Welsh Night" heno yr un mor sentimental ac oedd hi yn y dyddiau pan oedd Neil Kinnock yn arwain canu "Bandiera Rossa" a'r Internationale!

Fe wnes i dreulio'r rhan fwyaf o wythnos ddiwethaf yn paratoi eitemau ar gyfer ymadawiad Rhodri. Fe wnawn nhw gadw, gobeithio!

Ta beth, dyma ddwy ffilm sy'n cynnwys Rhodri gan gychwyn, yn ddigon addas, gyda Rhodri'n canu gyda Chôr Orffews Treforus yn agoriad CERN yng Ngenefa.

Yn ôl rhai o feirniaid Llafur Cymru mae'r blaid yn dioddef oherwydd ei bod wedi treulio gormod o'i hegni yn codi bwganod o chwarter canrif yn ol yn hytrach na chyflwyno neges bositif. Ydy hynny'n wir? Dyma ymosodiad chwyrn ar Margaret Thatcher o etholiad cynulliad 2007!

Sgerbwd y "West Pier" yn Brighton sydd yn y llun. Does bron dim byd ar ôl ohoni erbyn hyn. Dyma ffilm fer yn adrodd hanes tranc yr adeilad ysblennydd hwn.

Cafodd y Pier ei defnyddio i ffilmio dwy ffilm Brydeinig o bwys "Brighton Rock" ac "Oh! What a Lovely War". Dyma funudau olaf bythgofiadwy ffilm Richard Attenborough.

Cyfyng-gyngor Carwyn

Vaughan Roderick | 11:36, Dydd Gwener, 25 Medi 2009

Sylwadau (0)

cymraeg-t-coch-190x200.jpgO am fod yn bry ar wal!

Fore Dydd Mawrth nesaf fe fydd Pwyllgor Busnes y Cynulliad yn cwrdd i drafod p'un ai i ganiatáu dadl ynghylch cyfieithu'r cofnod ai peidio. Mae beirniaid y Comisiwn yn gyfan gwbwl sicr y byddai'r Cynulliad , o gael y cyfle, yn gwyrdroi'r newidiadau i drefn gyfieithu'r Cofnod. Ond a fydd y cynulliad yn cael y cyfle?

Mae dau aelod o'r Pwyllgor Busnes sef Dafydd Elis Thomas a Peter Black hefyd yn aelodau o'r Comisiwn. Gellir bod yn weddol sicr, ar y llaw arall, y bydd Alun Cairns a Jocelyn Davies yn gwisgo'u crysau cowbois a'u bathodynau "popeth yn Gymraeg"!

Mae hynny'n gadael Carwyn Jones. Rwy'n meddwl mai "pas ysbyty" yw'r term ym Mrynaman!

Diweddariad; Mae 'na ddamcaniaeth arall yn gwneud y rownds. Mae hon yn darogan y bydd Peter Black yn cefnogi trafod y cynnig gan mai dyna yw ewyllys ei blaid ond y bydd pleidiau'r llywodraeth yn blocio'r symudiad. Mae ail rhan y ddamcaniaeth yn anodd i gredu gan mai'r canlyniad anorfod fyddai cyflwyno'r cynnig yn amser y gwrthbleidiau. Ydy Plaid Cymru, mewn gwirionedd, yn fodlon chwipio'i haelodau i bleidleisio o blaid cam sy'n cael ei weld fel is-raddio'r Gymraeg? A fyddai pobol fel Rhodri Glyn a Gareth Jones yn ufuddhau i chwip o'r fath? Y gair yw nad yw Plaid Cymru am gerdded i'r trap yna. Mae'r ddamcaniaeth hon hefyd yn codi cwestiwn i Peter Black hefyd. Os ydy Peter yn fodlon ildio i ewyllys ei blaid yn y Pwyllgor Busnes pam nad oedd yn fodlon gwneud hynny yng nghyfarfod y Comisiwn trwy wrthwynebu'r cyfaddawd? Dyna wnaeth Chris Franks, mae'n debyg.

Mae 'na un cyfarfod arall cyn cyfarfod y Pwyllgor Busnes sy'n werth cadw llygad arno sef cyfarfod o'r Pwyllgor Cyllid Ddydd Llun. Beth mae'r pwyllgor yn trafod? Cyllideb y Comisiwn. Pwy sy'n tystio? Claire Clancy. Prynwch docyn!

Rhyfel Agored

Vaughan Roderick | 09:57, Dydd Gwener, 25 Medi 2009

Sylwadau (3)

Siarad-Cymraeg.gifMae Cofnod trafodion y Cynuliad wedi ymddangos ar ei newydd wedd heb gyfieithiad o'r Saesneg o'r Gymraeg. Ar y dudalen flaen mae'n dweud hyn;

"Yn y golofn chwith, cofnodwyd y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y Siambr. Yn ogystal, cynhwysir cyfieithiad Saesneg o gyfraniadau yn y Gymraeg. Cyhoeddir fersiwn ddwyieithog ymhen pum diwrnod gwaith."

Yn ôl y Bwrdd Iaith mae'r polisi hwnnw'n groes i'r Cynllun Iaith a basiwyd yn unfrydol gan y Cynulliad ac yn groes i ddyletswyddau statudol y Comisiwn. Mae'n ymddangos bod y Comisiwn wedi ystyfnigo gan fwrw ymlaen a'r cynlluniau er gwaethaf pawb a phopeth. Mae 'na drafferth wleidyddol ac, o bosib, cyfreithiol difrifol yn wynebu'r aelodau a'r Llywydd.

Mae "giang o bedwar" aelod wnaeth gyhoeddi cynnig i orfodi i'r Comisiwn barhau a'r hen drefn o gyfieithu dros nos newydd ryddhau'r datganiad a ganlyn;

"Mae'r cynnig yn awr wedi ei drafod gan bob plaid yn y cynulliad ac mae 'na gonsensws ynglŷn â'r ffordd ymlaen... Dros y dyddiau diwethaf rydym wedi ceisio cynnal trafodaethau a chyrraedd cyfaddawd gyda'r comisiwn. Rydym yn ymwybodol bod eraill hefyd wedi ceisio llunio cyfaddawd gyda'r Comisiwn. Rydym wedi ein siomi'n arw bod y Comisiwn wedi gwrthod cwrdd i drafod y cynigion hyn gan anwybyddu teimladau cryfion aelodau o bob plaid ynghylch y mater yma. Rydym yn gobeithio felly y bydd y mater yma'n cael ei drafod a'i setlo wythnos nesaf."

Mae'r frawddeg olaf yn cyfeirio at ddadl a phleidlais yn y siambr. Mae cefnogwyr y cynnig yn gyfangwbwl hyderus y bydd y Comisiwn yn colli'r bleidlais. Mae'n fater i'r Pwyllgor Busnes ddod o hyd i'r amser ar gyfer dadl yn y Siambr. Gesiwch pwy yw'r Cadeirydd.

Yn ôl un o gefnogwyr y cynnig mae'r Comisiwn wedi ymddwyn mewn modd cwbwl anghwrtais a thrahaus. Mae cefnogwyr y cynnig yn gynddeiriog bod y Llywydd wedi "llwyr cam-ddarllen teimladau aelodau'r cynulliad".

Fe fyddwn yn trafod y pwnc hwn ar "Dau o'r Bae heddiw am 1.15. Fe fydd modd gwrando ar y rhaglen ar iPlayer neu drwy danysgrifio i'r gwasanaeth podledu trwy glicio'r botwm ar y dde.

Da yw tri...

Vaughan Roderick | 16:10, Dydd Iau, 24 Medi 2009

Sylwadau (0)

HueyDeweyLouie.gifPeth da di Wikipedia! Os ydych chi eisiau canllaw i'r ffordd y bydd yr etholiad i ddewis olynydd Rhodri yn gweithio mae'n werth cael cipolwg ar yr hyn y mae "llyfr mawr y we" yn dweud am yr yn yr Alban yn 2008.

Mewn gwirionedd roedd y sefyllfa'n rhyfeddol o debyg i'r sefyllfa yng Nghymru ar hyn o bryd. Roedd 'na dri ymgeisydd gyda chefnogaeth weddol gyfartal ymhlith aelodau Holyrood. Y tri oedd Iain Gray (13 enwebiad), Cathy Jamieson (12) ac Andy Kerr (10). Cymharwch hynny a'r enwebiadau tebygol yng Nghymru; Edwina Hart (9/10) Carwyn Jones (9/10) a Huw Lewis (6).

Mae'r coleg etholiadol Llafur wedi rhannu'n dair rhan; un i aelodau unigol, un i aelodau seneddol/aelodau cynulliad ac un i aelodau o gyrff sy'n gysylltiedig â'r blaid (yr undebau yn bennaf). Mae pleidlais pob adran yn cynrychioli traean o'r coleg ac mae'r etholiad ym mhob adran ar sail un aelod-un bleidlais gan ddefnyddio cyfundrefn AV.

Fel Edwina Hart roedd gan Cathy Jamieson gefnogaeth gref ymhlith yr undebau. Yn wir fe enillodd hi'r adran honno o'r coleg. Serch hynny, Iain Gray oedd yn fuddugol yn y pendraw a hynny i raddau helaeth oherwydd ei gryfder yn adran yr aelodau etholedig.

Y broblem i Cathy Jamieson oedd hyn. Er bod aelodau Holyrood wedi ei rhannu'n weddol gyfartal rhwng yr ymgeiswyr roedd aelodau San Steffan yn ffafrio Mr Gray o fwyafrif llethol.

Ar hyn o bryd mae'r un broblem yn wynebu Edwina. Ac eithrio Paul Murphy a Don Touhig efallai prin yw'r gefnogaeth seneddol iddi y tu fas i Orllewin Morgannwg. Y ffaith blaen yw nad yw'r gweinidog iechyd yn boblogaidd iawn ymhlith Aelodau Seneddol. Ar y llaw arall mae deiliaid San Steffan yn parchu Andrew Davies.

Ai ymdrech i weld sawl Aelod Seneddol y mae'n bosib eu troi yw sylwadau diweddar Andrew? Ai ar sail y niferoedd hynny y bydd Edwina yn penderfynu p'un ai i sefyll ai peidio? Os felly dyw e ddim yn sicr eto mai tri fydd yn y ras. Cofiwch hefyd fe fyddai 9/10 + 6 yn y cynulliad yn help!

Cystadleuaeth

Vaughan Roderick | 11:59, Dydd Iau, 24 Medi 2009

Sylwadau (5)

clown203.jpgUn o'r cwynion cyson y mae dyn yn clywed yn y job yma yw'r un ynghylch y diffyg sylw y mae Cymru a'i gwleidyddiaeth yn cael gan y cyfryngau Prydeinig.

Mae 'na sail i'r gwyn a goblygiadau hefyd. A fyddai'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi canfod eu hun mewn cymaint o bicl yn ystod yr wythnosau diwethaf os oedd gan ddeiliaid Cowley Street y wybodaeth leiaf am wleidyddiaeth Cymru, er enghraifft? Jyst gofyn.

Wrth gwrs mae un peth yn waeth na pheidio cael sylw sef cael y fath anghywir o sylw.Mae'r erthygl isod wedi ymddangos ar wefan y . Yr awdur yw Tom Lewis. Hyd y gwn i, dyw e ddim yn perthyn i Huw! Sawl gwall ffeithiol ydych chi'n gallu eu cyfri?

Rhodri Morgan, Wales's First Minister, will mark his 70th birthday on 28 September by announcing that he is stepping down after nine years at the helm. That is, if all goes to plan: rumour has it that Gordon Brown has urged him to stay until the general election.

In the (highly likely) event that the popular First Minister leaves, there are three likely candidates for his job. Huw Lewis is an outspoken former cabinet minister who opposed the coalition with Plaid Cymru. Edwina Hart, the health and social services minister, is well liked among her peers, but refuses to learn Welsh, which has not endeared her to the public. Carwyn Jones is a household name in Wales and the bookies' favourite; but those voting for the new leader will have an eye on the 2011 Assembly elections, and Jones, like Hart, is likely to lose his seat to the Tories then.

The next few years will probably be stressful ones for the Welsh legislature: before 2011, a referendum must be held on extending the Assembly's law-making powers, and, should the Tories win the general election, the Assembly will become the UK's only Labour-controlled parliament. That may alter relations between Westminster and Cardiff Bay.

Whether the Welsh tackle these new challenges with a safe pair of hands like Jones, new blood like Lewis, or even Morgan himself, winds of change will soon be sweeping across Cardiff Bay.

Gallwn ddisgwyl llawer mwy o'r stwff yma dros y dyddiau nesaf!

Rhodri a Fi

Vaughan Roderick | 00:08, Dydd Iau, 24 Medi 2009

Sylwadau (0)

_1218832_gnash_150.jpgAm wn i mae'n bryd i ni gyd ddechrau adrodd ein straeon am Rhodri. Mae eisoes wedi gwneud.

Fel mae'n digwydd yng nghownt Paul yng Nghasnewydd yr oeddwn i ar noson etholiad 1987, y noson pan gafodd yntau a Rhodri eu hethol am y tro cyntaf. Roeddwn i wedi dewis y cownt anghywir. Roedd Mark Robinson, y Tori wnaeth golli yng Ngorllewin Casnewydd, yn fonheddig wrth ildio, nid felly Stefan Terlezki y Ceidwadwr yng Ngorllewin Caerdydd.

Aeth Stefan, oedd yn gymeriad hynod o liwgar (ac annwyl iawn) trwy'r to gan gwyno am driciau budron yn ei erbyn. Doedd y cwynion ddim yn ddi-sail chwaith. Roedd rhywrai, er enghraifft, wedi defnyddio paent glas i newid ei bosteri o "Vote Terlezki" i "Vote Terki". Roedd rhywun hefyd wedi llogi uchelseinydd a theithio trwy'r etholaeth mewn car yn dynwared acen gref Stefan gan balu nonsens a sarhau'r etholwyr oedd yn gwrando. Camgymeriad Stefan oedd meddwl mai Rhodri neu'r Blaid Lafur oedd yn gyfrifol.

Clywais sawl stori bod trigolion Gorllewin Caerdydd wedi sbotio digrifwr Cymraeg amlwg yn parablu trwy'r corn siarad. Ydy hynny'n wir ai peidio? Efallai bod Jonathan Davies wedi clywed rhywbeth wrth fwynhau rownd o golff.

Mae'n debyg mai Wyn Roberts wnaeth ddioddef fwyaf oherwydd ethol Rhodri. Am bron i ddegawd ef, yn anad neb, oedd yn gorfod ymateb i gwestiynau treiddgar a sylwadau bachog aelod Gorllewin Caerdydd. Wyn wnaeth fathu'r llysenw "Gnasher" ar gyfer Rhodri. Y ci blewog yn y Beano oedd hwnnw wrth gwrs, yr un oedd yn cnoi ar fympwy ac yn gwrthod llacio'i afael hyd yn oed os oedd wedi dewis y goes anghywir!

Help gan Huw

Vaughan Roderick | 15:28, Dydd Mercher, 23 Medi 2009

Sylwadau (0)

HUEY1.jpgWrth grwydro'r cynulliad heddiw'r yr un cwestiwn y mae dyn yn ei glywed dro ar ôl tro; "Oes 'na ddêl i fod?"

Sôn am yr arweinyddiaeth Llafur mae pawb wrth gwrs. Y gred ymhlith rhai yw gallai Huw Lewis sicrhau'r arweinyddiaeth i Edwina Hart pe bai'n dewis peidio sefyll ei hun ac yn addo ei gefnogaeth i'r Gweinidog Iechyd.

Yn bersonol dydw i ddim yn meddwl y byddai cefnogaeth Huw a'i ddilynwyr yn ddigon i goroni Edwina ond fe fyddai o gymorth enfawr. Yn sicr hi fyddai'r ceffyl blaen o dan y fath amgylchiadau. Dyw e ddim yn anodd dychmygu chwaith beth fyddai pris am ei gefnogaeth. Fe fyddai swydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghyd a'r teitl "dirprwy arweinydd" yn dipyn o demtasiwn.

Ar ôl dweud hynny mae 'na reswm da iawn i Huw beidio gwneud dêl, neu o leiaf i beidio gwneud un eto. Pe bai'n tynnu yn ôl nawr fe fyddai 'na amheuon ei fod wedi methu sicrhau'r chwech enwebiad angenrheidiol. Fe fyddai fe mewn gwell sefyllfa i fargeinio ar ôl gwneud hynny. Y cwestiwn fyddai'n codi wedyn, wrth gwrs, yw lle fyddai dyrchafu Huw yn gadael Andrew?

Diweddarad (20.00); Roedd Edwina mewn cyfarfod o undeb "Unite " heno. Pam, tybed? Doedd ganddi ddim llawer i ddweud am yr arweinyddiaeth ac eithrio hyn; "I always consider it a compliment if ANdrew says anything nice about me."


Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 12:32, Dydd Mercher, 23 Medi 2009

Sylwadau (0)

Meic.jpgRwy'n teimlo fel prifathro'n gwneud y "cyhoeddiadau" yn y gwasanaeth cyntaf ar ôl gwyliau'r haf! Fe fydd CF99 yn dychwelyd heno am ddeg. Bethan Rhys Roberts a finnau sy'n cyflwyno fel arfer a'r gwesteion heno yw Helen Mary Jones, Nia Griffith ac Eleanor Burnham. Y gohebwyr y tymor hwn yw Arwyn Jones ac Owain Clarke.

Fe fydd "Dau o'r Bae" (a'r podlediad) yn dychwelyd ddydd Gwener. Mae Bethan Lewis yn dathlu genedigaeth ei chrwt bach cyntaf, Cai. Fi a pwy arall fydd y "ddau" felly? Cewch glywed!

Yn y cyfamser dyma gasgliad o ddolenni difyr gan gychwyn gyda blogbost deifiol.

Alwyn ap Huw
Mwy ar y stori ( a llwyth o lincs) gan

Gwyn Griffiths
Hanes fersiwn Lydaweg "Hen Wlad fyn Nhadau"

Daran Hill
Dyfodol Democratiaid Rhyddfrydol Cymru- wedi ei ysgrifennu cyn y gynhadledd rwy'n amau!

South Western Daily News
Fe fydd 'na lawer o straeon fel hon wrth i'r byd dwymo.




Wedi Tri

Vaughan Roderick | 19:25, Dydd Mawrth, 22 Medi 2009

Sylwadau (1)

hart_to_hart1.jpgFe fydd 'na dri ymgeisydd i olynu Rhodri. Felly mae'n ymddangos, o leiaf. Go brin y byddai Andrew Davies wedi cyhoeddi y byddai'n "gwneud popeth posib" dros Edwina Hart pe bai hi'n sefyll heb wybod yn iawn ei bod yn bwriadu gwneud hynny.

Rwyf hefyd o'r farn mai sgwarnog yw'r drafodaeth ynghylch gallu Huw Lewis i sicrhau chwech enwebiad. Mae hen bennau'r blaid yn cofio'r niwed i Lafur y tro diwethaf y ceisiwyd ficsio'r arweinyddiaeth. Os ydy Huw un yn brin gallwch ddisgwyl i rhyw un ei enwebu "er chwarae teg" heb addo pleidlais iddo yn yr etholiad.

Carwyn yw'r ceffyl blaen o hyd, fe dybiwn i, ond dyw pethau ddim mor eglur ac oedden nhw yn ystod yr ail gynulliad. Yn sicr mae ei broffeil cyhoeddus llawer yn is nac oedd e.

Pwy y mae'r pleidiau eraill yn ofni felly?

"Huw, heb os" oedd ateb un arweinydd plaid i'r cwestiwn hwnnw heddiw. Wrth gwrs mae 'na'r fath beth a "double bluff"!

Cyfri'r gost

Vaughan Roderick | 18:09, Dydd Mawrth, 22 Medi 2009

Sylwadau (3)

sir-humphrey-2.jpgMae'r blogio wedi bod yn ysgafn heddiw gan fy mod a'm mhen i lawr yn paratoi eitemau i'w darlledu adeg ymddeoliad Rhodri Morgan. Mae palu trwy'r archif a gwylio'r Rhodri ifanc yn sbort. Mae gweld y Vaughan Roderick ifanc ar y llaw arall yn frawychus!

Ta beth fe ddylwn i o leiaf ceisio'ch diweddaru ynghylch y busnes gyda'r Cofnod.

Mae 'na ddau gynllun ar y bwrdd, wrth gwrs. Yn gyntaf mae "cyfaddawd" y Comisiwn. Mae hynny'n cynnwys adolygiad o'r polisi iaith. Yn y cyfamser fe fyddai cofnodion pwyllgorau deddfwriaethol yn cynnwys cyfieithiadau o'r Saesneg i'r Gymraeg ac fe fyddai sesiynau llawn o'r cynulliad yn cael eu cyfieithu o fewn deng niwrnod i'r cyfarfod.

Mae 'na gwestiwn diddorol ynghylch y cynllun yma. Efallai eich bod yn cofio mae "arbed arian" oedd y rheswm dros newid y drefn yn lle cyntaf. Fe fyddai'r cynllun gwreiddiol wedi arbed £250,000. Faint fydd yn cael ei arbed gan y "cyfaddawd" felly?

Wel yn ôl un deryn bach yr ateb yw'r un ddimai goch. Fe fyddai'r "cyfaddawd" yn ddrytach na'r drefn bresennol! Mae'n anodd peidio amau mai gwarchod balchder yn hytrach nac arbed arian yw'r bwriad erbyn hyn.

Yr ail gynllun posib yw'r un sydd wedi ei gynnwys yng nghynnig aelodau blaenllaw o'r pedair plaid. Mae'r cynnig hwnnw yn beirniadu ymddygiad y comisiwn ac yn galw am gadw at y drefn bresennol o gyfieithu dros nos wrth i'r adolygiad gael ei gynnal. Deallaf fod y gefnogaeth i'r cynnig hwnnw bron yn unfrydol yng nghyfarfod y grŵp Ceidwadol heddiw.

Pryd fydd y cynnig yn cael ei drafod, os o gwbwl? Mae hynny'n fater i'r pwyllgor busnes ond mae'n ymddangos y bydd yn rhaid i'r Comisiwn ildio ymhellach er mwyn rhwystro embaras i Syr Wmffra yn y Siambr.

Hwyl a...

Vaughan Roderick | 11:25, Dydd Mawrth, 22 Medi 2009

Sylwadau (0)

_42432366_morganiwj_bbc_203x300.jpgDyma ni yn ôl yn ffwl pelt yn y Bae. Y bore 'ma cafwyd cynadleddau newyddion cyntaf y tymor newydd. Yng nghynadledd Rhodri a Ieuan datgelwyd bod y llywodraeth wedi bod yn paratoi am doriadau gwariant ers dwy flynedd gan gynnal adolygiad o ba raglenni y byddai'n bosib eu dirwyn i ben .

Enw'r adolygiad, coeliwch neu beidio oedd "sbri". Hwyrach bod 'na ambell i fasocist yn y Cabinet!

Fe fydd sesiwn lawn gyntaf y cynulliad y prynhawn yma. Mae gwasanaeth S4C2 wedi dirwyn i ben ond fe fydd sesisiwn gwestiynnau'r Prif Weinidog yn cael ei darlledu ar Ö÷²¥´óÐã 2 ac mae'n bosib gwylio'r sesiwn gyfan ynghyd a'r pwyllgorau trwy ddilyn y ddolen ar y safle Newyddion. Fe fydd gwasanaeth "Democratiaeth Fyw" yn cychwyn ymhen ychydig wythnosau.

Serpensortia

Vaughan Roderick | 18:02, Dydd Llun, 21 Medi 2009

Sylwadau (0)

Mae'r Daily Telegaph wedi cyhoeddi rhestr o'r 50 Democrat Rhyddfrydol mwyaf dylanwadol. Cafodd y rhestr ei pharatoi gan Iain Dale a "phanel o Ddemocratiaid Rhyddfrydol amlwg".

Mae arweinydd newydd y Blaid Gymreig Kirsty Williams yn ymddangos ar y rhestr am y tro cyntaf yn safle rhif 38. Mae hynny un yn is nac arweinydd Cyngor Newcastle, naw yn is nac Alex Carlile a thri yn is nac oedd Mike German llynedd.

opik.jpghari2.jpgEr cysur, fe fydd Kirsty yn falch i wybod ei bod wedi curo Daniel Radcliffe (46) a Lembit Opik (50).

Un o'r rheini yw'r crwt mewn sbectol sydd wedi ein diddanu ni i gyd gyda ei fywyd ffantasi, y troeon trwstan mae'n ei wynebu a'i allu i orchfygu pob cynllwyn tywyll yn ei erbyn.

Mae'r llall yn chwarae Harry Potter.

Gyda llaw mae 'na ddatblygiadau yn stori'r cofnod. Mae'r manylion ar flog Betsan.

Carringtons Cymru

Vaughan Roderick | 14:27, Dydd Llun, 21 Medi 2009

Sylwadau (6)

dynasty.jpgMae Mabon ap Gwynfor wedi cyhoeddi na fydd yn ymgeisio i olynu Adam Price fel ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn Nwyrain Caerfyrddin gan ddweud hyn;

"Os bydd gennyf i unrhyw ran i'w chwarae yng ngwleidyddiaeth Cymru ar lefel genedlaethol rywbryd yn y dyfodol, yna ym Mae Caerdydd yr hoffwn i fod."

Digon teg. Mae'n anodd credu na fydd Mabon a/neu un arall o'r Gwynforiaid yn chwarae rhan flaenllaw ym mywyd gwleidyddol Cymru yn y dyfodol. Efallai bod Mabon yn gobeithio gwneud yn iawn am siom ei dad-cu ym Meirion yn '64 rhywbryd!

Ac eithrio teulu Lloyd George (Megan, Gwilym et al) mae' anodd meddwl am 'ddinasti' wleidyddol lwyddiannus yn y Gymru fodern. Merch Tom Jones, "Brenin Cymru", oedd Eirene White ac os gofiai'n iawn mae Huw Irranca yn nai i Ivor Davies un o'r "giang o chwech" aelod Llafur wnaeth wrthwynebu datganoli yn 1979.

Oes unrhyw un yn gallu cynnig esiamplau eraill?

Wythnos yng Nghymru na fu

Vaughan Roderick | 11:08, Dydd Llun, 21 Medi 2009

Sylwadau (6)

200px-Islwyn_Ffowc_Elis.jpgDoes dim dwywaith yn fy meddwl i mae'r nofel fwyaf dylanwadol yn hanes gwleidyddol Cymru yw "" llyfr sydd yn bropaganda effeithiol oherwydd ei fod yn gythraul o stori dda ac yn waith llenyddol go iawn. Mae cymhellion gwleidyddol y llyfr yn amlwg o'r ffaith mai Plaid Cymru wnaeth ei gyhoeddi yn 1957. Ei werth llenyddol a'i stori afaelgar sy'n gyfrifol am y ffaith ei fod dal mewn print dros hanner canrif yn ddiweddarach.

Yr hyn sy'n rhyfedd am "Wythnos yng Nghymru Fydd" yw nad oes neb bron yn cofio Iwtopia'r Gymru Rydd y mae Ifan Powell yn glanio ynddi ar ei daith gyntaf i'r dyfodol. Yr hyn sy'n aros yn y cof yw cymdeithas hunllefus "Western England" sy'n cael ei phortreadu mewn ychydig o benodau byrion ar ddiwedd y llyfr.

Gallwn fod yn weddol sicr y bydd Cymru 2033 yn debycach i fyd Mair Llywarch nac un hen wraig y Bala. Mae hynny oherwydd yr hyn ddigwyddodd ar Fedi 18fed 1997 pan bleidleisiodd Cymru o drwch blewyn o blaid datganoli. Ond beth pe bai'r bleidlais ychydig yn wahanol a'r cynnig wedi ei drechu o ychydig filoedd? Sut le fyddai Cymru heddiw? Dydw i ddim yn meddu ar ddychymyg na dawn lenyddol Islwyn Ffowc ond dwi'n fodlon rhoi cynnig arni!

Rhodri.gifYn gyntaf yn lle ymddeol a'i le yn y llyfrau hanes yn ddiogel fe fyddai Rhodri Morgan wedi treulio degawd ar feinciau cefn San Steffan. Mae'n bosib y byddai wedi ei ddyrchafu'n gadeirydd pwyllgor ond pobol fel Alun Michael a Paul Murphy byddai'n llywodraethu Cymru o Barc Cathays. Heb fandad annibynnol mae'n debyg y byddai eu polisïau yn ddigon tebyg i rai Lloegr. Dim presgripsiynau am ddim, dim cyfnod cychwynnol a dim dwr coch claear. Yn eu lle cytundebau PFI, academis a "foundation hospitals".

triban_logo200.jpgO safbwynt y pleidiau eraill mae'n debyg y byddai Plaid Cymru yn perthyn i'r cyrion. Gyda'r syniad o ddatblygiad cyfansoddiadol "cam wrth gam" wedi methu mae'n debyg y byddai'r blaid yn cyflwyno neges mwy digyfaddawd gyda fawr ddim apêl y tu allan i lond dwrn o etholaethau. Mae'n ddigon posib hefyd y byddai 'na lawer mwy o dor-cyfraith gwleidyddol gan fudiadau iaith ac o bosib fe fyddai grwpiau terfysg wedi ymddangos fel gwnaeth ddigwydd yn sgil refferendwm 1979.

ceidwadwyr.jpgOnd nid Plaid Cymru fyddai'r unig blaid ar ei chefn. Heb beiriant cynnal bywyd y Cynulliad fe fyddai wedi bod yn llawer mwy anodd i'r Ceidwadwyr ail-adeiladu yn sgil trychineb colli pob sedd yng Nghymru yn 1997. Mae'n ddigon posib felly mai plaid y cyrion fyddai'r Ceidwadwyr hefyd. Yn sicr mae'n anodd credu y gallai plaid oedd heb ei gymreigio apelio i'r un graddau a mae'r Ceidwadwyr yn gwneud ar hyn o bryd.

Mae'n bosib wrth gwrs y byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi llenwi'r gwagle gwleidyddol gan ddatblygu i fod yn brif wrthblaid Cymru. Ta beth am hynny, mae'n anodd osgoi'r casgliad mai canlyniad pleidlais "na" yn 1997 fyddai parhad yr hegemoni Llafur yng Nghymru am ddegawdau.

Yn hynny o beth mae'n bosib dadlau mai buddugoliaeth Medi 1997 oedd y peth gwaethaf i ddigwydd i Lafur yng Nghymru yn ei holl hanes.

Gyda llaw gan ein bod ni'n siarad am ffrwyth dychymyg dyna yn union yw cred rhai o aelodau Plaid Cymru mai Rhodri Glyn Thomas oedd ffynhonnell y stori ynghylch Adam Price ddydd Gwener.

Syr Wmffra- Y gair olaf (efallai)

Vaughan Roderick | 17:20, Dydd Sul, 20 Medi 2009

Sylwadau (0)

_613115_lord_thomas300.jpgEfallai eich bod yn cofio i'r "cythraul blogio" afael ynof rhai wythnosau yn ôl ynghylch y busnes yna o gyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg yng nghofnod swyddogol y cynulliad.

Rwyf wedi bod yn ymwybodol bod trafodaethau'n mynd ymlaen i alluogi i gomisiwn y cynulliad ildio'n rasol ynghylch y pwynt ac osgoi cynnig a allai droi'n cynnig o ddiffyg hyder yn y Llywydd a/neu'r Comisiwn.

Diddorol felly oedd clywed ar y "Politics Show" heddiw;

"O bosib bydd yna gyfaddawd, ond ni allaf ragweld beth fydd penderfyniad fy nghyd aelodau... ac wrth gwrs nid wyf eisiau anghytuno gyda fy nghyfeillion ar Fwrdd yr Iaith."

Roedd anhapusrwydd y Bwrdd yn ddigon i berswadio'i swyddogion nad oedd dewis ond cymryd y cam unigryw o gyhoeddi cynnwys llythyr at gorff y mae'r Bwrdd yn ei oruchwylio.

Y rheswm am hynny, mae'n debyg, oedd bod y corff hwnnw, sef y Comisiwn, wedi ceisio defnyddio dadleuon/esgusodion cyfreithiol i ddadlau nad oedd gan y Bwrdd yr hawl i'w goruchwylio- er mai hynny oedd dymuniad unfrydol y Cynulliad ei hun. Pe bai'r stranciau yma'n cyrraedd llys barn (ac os nad yw'r Comisiwn yn ildio maen nhw'n debyg o wneud) fe fyddai'r gost i'r cyhoedd llawer yn fwy na'r symiau y mae'r Comisiwn yn gobeithio eu harbed.

Adolygiad yw'r cyfaddawd tebygol gyda'r gyfundrefn gyfieithu presennol yn parhau yn y cyfamser. Mewn gwirionedd dyw adolygiad ddim yn beth drwg. Mae 'na gwestiynau pwysig i ofyn ynghylch y defnydd (neu ddiffyg defnydd) o'r Gymraeg mewn rhai o'r pwyllgorau, er enghraifft.

Y cam cyntaf holl-bwysig i rai yw sicrhau bod y Comisiwn yn cymeradwyo Cynllun Iaith y Cynulliad gan gau'r ddihangfa gyfreithiol yw oedd ambell i Syr Wmffra'n gobeithio ddianc drwyddi.

Yn y cyfamser ymhen ychydig wythnosau fe gewch weld ffrwyth cynllun gan y Ö÷²¥´óÐã i ddatblygu meddalwedd "llais i destun" Cymraeg, hynny yw meddalwedd sy'n "clywed" Cymraeg llafar ac yn ei throsglwyddo i ffurf ysgrifenedig.

Fel "Google Translate" bodolaeth y Cofnod ar ei ffurf bresennol sydd wedi gwneud y datblygiad yma'n bosib. Wrth gwrs unwaith y mae meddalwedd llais i destun a meddalwedd cyfieithu wedi eu perffeithio bydd yr holl ddadl yma'n amherthnasol. Fe fydd cost paratoi'r Cofnod yn y ddwy iaith yn disgyn i'r nesaf peth i ddim.

Pam y brys?

Rialtwch

Vaughan Roderick | 09:19, Dydd Sul, 20 Medi 2009

Sylwadau (2)

SDPPoster.jpgDydw i ddim yn mynd i'r cynadleddau Prydeinig eleni ond mae cyfarfod y Democratiaid Rhyddfrydol yn Bournemouth yn rhoi cyfle/esgus i mi gynnwys un o berlau "Spitting Image". Dyma'r ddau David yn ffarwelio a'i gilydd wrth i'r Cynghrair gwympo'n ddarnau.

O leiaf dyw Nick Clegg ddim yn gorfod poeni am gyd-arweinydd!

Nesaf dyma ymosodiad arlein effeithiol a thrawiadol gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru yn gynharach eleni. Mae hon ar y restr fer am wobr yng nghystadleuaeth blogio'r blaid. Yn anffodus mae 'na un fach.

Rwy'n gobeithio nad wyf wedi pechu Adam Price gormod trwy dorri'r newydd am eu gynlluniau ar gyfer y dyfodol yn gynt nac oedd e'n dymuno. Mae'r ddwy ffilm nesaf yn offrymau heddwch. Os ydy Adam yn mynd i un o golegau'r "Ivy League" mae gan Tom Lehrer rybudd iddo!

Mae 'na rwydwaith arall o golegau yn yr Unol Daleithiau sef y "Colegau Du Traddodiadol". Rhain oedd y colegau, yn y de yn bennaf, gafodd eu sefydlu yn nyddiau tywyll "seperate but equal". Dyma'r dathliadau yn un ohonyn nhw ar noson yr etholiad arlywyddol.

Peint o Felinfoel y tro hwn

Vaughan Roderick | 20:31, Dydd Gwener, 18 Medi 2009

Sylwadau (0)

dragonlogoMedium.jpgMae Alwyn wedi codi pwynt diddorol yn y sylwadau. Fe fydd 'na bwysau ar Blaid Cymru i ddewis merch yn Nwyrain Caerfyrddin. Does 'na'r un fenyw erioed wedi ei chynrychioli yn San Steffan. Pe bai Adam yn sefyll ac yn ennill yng Nghastell Nedd gallai sedd cynulliad Bethan Jenkins fod mewn peryg. Jyst dweud. Ar y llaw arall mae pleidwyr Sir Gar yn hoffi ymgeiswyr lleol.

Beth am Lafur? Roedd hon yn sedd Lafur tan wyth mlynedd yn ôl, wedi'r cyfan ac yn 2005 hon oedd yr unig sedd trwy Brydain gyfan yr oedd Llafur yn darogan y gallai hi ei chipio. Dyw'r Blaid ddim wedi dewis ymgeisydd ers i ac mae wedi pechu.

Yn y gynhadledd ddewis wreiddiol fe gurodd Rhys Sion Owen, swyddog cysylltiadau cyhoeddus a mab y newyddiadurwr Garry Owen, o un bleidlais yn unig. A fydd e'n mentro eto tybed?

Peint o Allbright, Plis.

Vaughan Roderick | 15:51, Dydd Gwener, 18 Medi 2009

Sylwadau (5)

_41271327_adamprice.jpg
Mae'n digwydd bob wythnos. Rwy'n disgwyl i Ddydd Gwener fod yn ddiwrnod bach tawel a BANG!! mae rhywbeth yn digwydd i darfu ar lonyddwch ein huned bach yn y Bae! Rwy'n meddwl fy mod yn haeddu ysgoloriaeth Fulbright Allbright fy hun.

Sut mae dadansoddi penderfyniad Adam? O siarad â'r rheiny sy'n ei nabod yn dda mae'n amlwg ei fod wedi penderfynu nad yn San Steffan y mae pennod nesaf ei fywyd i fod. Os oedd modd ennill sedd cynulliad fe fyddai wrth ei fodd ond nid dyna'r rheswm dros adael Tŷ'r Cyffredin. Doedd ei ddim yn dweud celwydd yn ei araith yn Llandudno pan wnaeth e awgrymmu ei fod wedi cael llond bol o'r lle.

Bwriad Adam yw sefyll yn 2011. Y cwestiwn yw ymhle? Dyw Rhodri Glyn ddim am ildio ei sedd a dydw i ddim yn meddwl bod 'na unrhyw awydd o gwbl yn rhengoedd y blaid i orfodi iddo wneud. Does 'na ddim sedd rhestr amlwg ar gael chwaith.

Mae hynny yn gadael dwy etholaeth sef Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro a Chastell Nedd. Castell Nedd yw'r ffefryn fe dybiwn i. Mae Nerys Evans yn ffition'n well rhywsut yn y sedd orllewinol tra bod pentrefi cymoedd Tawe, Dulais a Nedd yn debyg iawn i'r ardaloedd cyn-lofaoal y mae Adam wedi troi'n gadarnleoedd personol yn Sir Gar.

Dyma sgŵp bach arall i chi. Mae deryn bach yn dweud na fydd Gwenda Thomas yn sefyll eto. Mae gan Gwenda gefnogaeth bersonol sylweddol yn yr union ardaloedd lle gallai Adam wneud yn dda- llefydd fel Cwmgors a Phontarddulais.

Y cwestiwn arall sy'n codi yw pwy fydd yn sefyll i Blaid Cymru yn Nwyrain Caerfyrddin- sedd sy'n hynod ddiogel erbyn hyn. Fe fydd Adam yn berson anodd i ddilyn ond mae gan y blaid fainc aruthrol o gryf yn yr ardal.

Mae ambell i enw yn dod i fy meddwl yn syth. Mae Llŷr Hughes-Griffiths yn un er ei fod bellach wedi ymgartrefu yn y Gogledd. A fyddai Hedd Mabon ab Gwynfor* yn dymuno dilyn yn ôl traed ei dad-cu? Beth am Jonathan Edwards o Rydaman oedd yn brif strategydd y Blaid yn 2007? Mae Cadeirydd y Blaid John Dixon yn bosibilrwydd hefyd. Rwy'n siŵr bod 'na enwau eraill. Mae'n amlwg nad yw Pleidwyr eraill yn rhannu diflastod Adam ynghylch San Steffan!

*Mae'r holl Gwynforiaid yma yn fy nrysu weithiau! Ar y llaw arall hwyrach na ddylwn i ddiystyrru Hedd chwaith!

Dirgelwch

Vaughan Roderick | 13:13, Dydd Gwener, 18 Medi 2009

Sylwadau (3)

adam_price.jpgMae'n anodd cysylltu â phobol Plaid Cymru am ryw reswm. Tybed pam.

Dyma pam. Mae Adam Price yn gadael y senedd pan ddaw'r etholiad cyffredinol. Mae e wedi derbyn ysgoloriaeth Fulbright i fynd i'r Unol Daleithiau am flwyddyn.

Castell Nedd yn 2011? Does dim newydd pellach hyd yma ond dyw "blwyddyn allan" ddim yn gwenud hynny'n amhosib.

Roedd hon yn stori egliwsif i'r blog... am ychydig eiliadau!

Tân Siafins

Vaughan Roderick | 21:04, Dydd Iau, 17 Medi 2009

Sylwadau (3)

all_the_presidents_men.jpgMae 'na lot o wedi bod yn ystod y dyddiau diwethaf ynghylch y stori yma wnaeth ymddangos yn ystod dyddiau olaf ymgyrch etholiad 2007.

Mae ambell i flogiwr,yn eu plith, wedi awgrymu mai Carwyn Jones oedd yn gyfrifol am friffio Betsan a finnau bod Llafur yn ystyried cyrraedd cytundeb â Phlaid Cymru ar ôl etholiad y cynulliad. Fe fyddai rhai yn amau mai ymgais digon amaturaidd gan Blaid Cymru i faglu'r ceffyl blaen yn y ras i arwain Llafur yw hwn. Fi fyddai'r olaf i awgrymu hynny ond mae gen i ddau bwynt bach i wneud.

1. Mae'r stori yn cyfeiro at "ffynonellau" nid "ffynhonnell". Mae'r fersiwn Saesneg o'r stori yn Sylwch ar y gair "figures" yn y lluosog. Ni fyddai'r Ö÷²¥´óÐã wedi cyhoeddi stori mor anhygoel o sensitif ar sail gair un gwleidydd Llafur- pa mor bynnag uchel oedd hwnnw neu honno o fewn y blaid. Roedd 'na fwy nac un gwddwg dwfn yn y stori yma!

2. Gan ddefnyddio'r math o resymeg sydd yn y cwestiwn "pryd wnaethoch chi roi'r gorau i guro eich gwraig?" mae Adam yn defnyddio'r ffaith nad yw Leighton Andrews, trefnydd ymgyrch Carwyn, wedi gwadu'r cyhuddiad fel prawf o'i wirionedd. Pam ar y ddaear y dylai Leighton wadu cyhuddiad pan nad yw Adam wedi cyflwyno'r un darn lleiaf o dystiolaeth i gyfiawnhau ei sylwadau? Sut yn y nefoedd mae Adam yn disgwyl i Leighton wybod pwy oedd ffynonellau'r Ö÷²¥´óÐã, ta beth? Ydy fe, mewn gwirionedd, yn disgwyl i Leighton groesholi'r ymgeisydd y mae'n drefnydd ymgyrch iddo ar fympwy aelod o blaid arall?

I wneud pethau'n eglur felly. Y ffynonellau (lluosog) eu hun, Betsan a finnau sy'n gwybod o le ddaeth y stori yma. Dyw Betsan am finnau ddim am ddweud na syrthio i'r trap o ddechrau dweud nad oedd hwn, hon neu'r llall yn rhan o'r peth.

Os ydw i'n cyrraedd fy nghant fe wna i gynnwys y gwir yn fy hunangofiant- rhwng y bennod yn datgelu pwy oedd "Meibion Glyndŵr" a'r un ynghylch y sgandal rhywiol yn ymwneud â Cheidwadwr amlwg, yr Ŵyl Gerdd Dant a Shambo'r tarw sanctaidd!

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 12:12, Dydd Iau, 17 Medi 2009

Sylwadau (7)

don.jpgGyda'r holl sylw y mae "" yn cael mae'n bosib bod rhai heb sylwi bod y cywiriadur iaith bellach ar gael ar lein ac am ddim.

Rwy'n ffan enfawr o Cysill nid yn unig oherwydd safon y feddalwedd ond hefyd oherwydd yr oriau o sbort sydd i gael wrth i'r safle geisio "cywiro" enwau pobol.

Mae ambell i enw yn gallu bod yn rhyfeddol o addas, Gordon Frown a Jac Strap (Jack Straw), er enghraifft. Os ydy'r sibrydion yn wir, dyw Nick Barrwn ddim yn enw gwael i arweinydd Ceidwadwyr y Cynulliad! Y gorau ohonyn nhw i gyd yw'r enw mae Cysill yn cynnig am y gwleidydd sydd yn y llun. Fe wna i adael y pleser i chi!

Dyma ambell i ddolen ddifyr arall;

- Peter Hain Guardian
Oherwydd bod "Vote Plaid, get the Tories" wedi gweithio mor dda tro diwethaf...

Our Kingdom

Herald
Pob lwc da' hwnna, Alex!

Times

a'u heffaith ar

Irish Independent



Gosgorddion ei lywodraeth gref

Vaughan Roderick | 09:14, Dydd Iau, 17 Medi 2009

Sylwadau (2)

civil.jpgPan oeddwn i'n grwt ysgol roedd y ffordd yr oedd hanes yn cael ei ddysgu yn hen ffasiwn a dweud y lleiaf. Doedd na fawr o sôn am fywydau pobol gyffredin ac yn sicr dim sôn am fenywod, ac eithrio Elisabeth I a Victoria, hynny yw!

Stori'r "dynion mawr" oedd hanes, stori am ryfeloedd, dyfeisiadau ac yn anad dim yr ymgiprys rhwng y Senedd a'r Goron. Y frwydr rhwng palasau San Steffan a Whitehall, rhwng "plaid y brenin" a "phlaid y senedd", oedd y peiriant wnaeth arwain at holl gynnydd yr hil ddynol. Dyna oedd y gwerslyfrau'n dweud, o leiaf!

Mae 'na rywbeth tebyg wedi datblygu dros y degawd diwethaf gydag ymddangosiad rhyw fath o egin bleidiau seneddol a chynulliadol. Mae pa "blaid" yr ydych yn perthyn iddi yn dibynnu i raddau helaeth ar le'r ydych chi'n gweithio. Mae pobol y Bae yn hoff o frolio am wleidyddiaeth gynhwysfawr y cynulliad ac yn galw'n gyson am gynyddu ei bwerau. Mae bois Llundain (ac mae 32 o'r 40 yn fois) yn amddiffyn eu pwerau a'u breintiau'n ffyrnig gan edrych lawr eu trwynau braidd ar wipyrsnapyrs Caerdydd.

Yn anaml, os o gwbl, y mae'r tensiynau hynny i'w gweld yn rhengoedd Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol a than iddi adennill presenoldeb seneddol yn 2005 doedden nhw ddim yn amlwg yn y Blaid Geidwadol Gymreig chwaeth.

Ffenomen y Blaid Lafur oedd y rhaniad yma tan yr etholiad cyffredinol diwethaf. Roedd y rhaniad fwy neu lai yn gyfartal hefyd gydag oddeutu'r un nifer o aelodau Llafur yn y ddwy siambr. Dyna sy'n gyfrifol am y ffaith mai lobscows o fesur oedd ail Ddeddf Llywodraeth Cymru.

Mae'r ffactorau hyn wedi bod yn sylfaen i holl wleidydda Cymru ers 1997. Nhw sydd wedi creu'r dynamig ac o fewn ychydig fisoedd mae'n bosib iawn y bydd y cyfan yn newid. Os ydy'r Ceidwadwyr yn llwyddo i gipio nifer sylweddol o seddi o Lafur yng Nghymru yn yr etholiad fe fydd gwleidyddiaeth fewnol y ddwy blaid yn newid yn gyfan gwbl ac fe fydd gwleidyddiaeth Cymru yn newid oherwydd hynny.

Ie.jpgGadewch i ni feddwl am Lafur i ddechrau. Yn ystod y gynhadledd arbennig i drafod y glymblaid â Phlaid Cymru mae'n debyg bod Llafurwraig ifanc wedi codi ar ei thraed a phwyntio at y rhes lle'r oedd Neil Kinnock, Paul Murphy a Don Touhig yn eistedd. Gan bwyntio atyn nhw un wrth un fe ddywedodd mewn llais oeraidd "YOU, YOU and YOU! We're not listening to YOU any more!"

Dyna fyddai'r gwir hefyd pe bai'r grŵp Llafur yn y cynulliad yn sylweddol fwy na'r grŵp Llafur Cymreig yn San Steffan ac yn cynnwys yr unig wleidyddion Llafur mewn llywodraeth unrhyw le ym Mhrydain. Fe fyddai'r frwydr hir rhwng "asgell genedlaethol" ac "asgell unoliaethol" y blaid, brwydr sy'n dyddio yn ôl i Keir Hardie, ar ben. Yr asgell genedlaethol fyddai wedi ei hennill. Etifeddion S.O. Jim a Cledwyn fyddai wrth y bwrdd gan adael i ddisgynyddion George, Iori a Neil gasglu'r gwydrau!

na2.jpgAr y dde mae'n bosib y byddai'r gwrthwyneb yn digwydd. Pe bai'r nifer o Geidwadwyr o Gymru yn San Steffan yn sylweddol fwy na'r nifer yn y Bae mae'n anorfod bron y byddai'r blaid yn cefnu ar eu hymdrechion i gofleidio datganoli a Chymreigio ei hun. O fewn byr o dro fe fyddai Nick Bourne a gweddill Ceidwadwyr y Cynulliad yn ffigyrau ymylol iawn o fewn y blaid.

Dydw i ddim yn amau didwylledd pobol fel Alun Cairns, Guto Bebb a Jonathan Evans ond ar ôl llwyddiant etholiadol rwy'n amau y byddai trwch aelodaeth y blaid yn ddigon parod, yn awyddus bron, i ail-afael yn eu safbwyntiau ac agweddau traddodiadol.

O dan y fath amgylchiadau mae hi bron yn amhosib dychmygu clymblaid rhwng Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr. Fe fyddai'r Torïaid yn ôl yn eu "comfort zone" tra bod pleidiau'r chwith yn cystadlu i wisgo'r fantell genedlaethol. Mae hynny'n golygu y byddai'r rhaniad ynghylch y cwestiwn cenedlaethol wedi ei alinio a'r rhaniad chwith/dde. Am y tro cyntaf ers i Ryddfrydwyr y de-ddwyrain ddryllio breuddwydion Cymru Fydd yn 1896 fe fyddai'r hollt yng ngwleidyddiaeth Cymru yn gorwedd rhwng y pleidiau yn hytrach na thrwy ganol un ohonyn nhw.

Rwyf yn poeni am or-ddweud yn fan hyn ond oherwydd hyn oll mae'n bosib iawn bod gan etholiadau 2010 a 2011 y potensial i fod yn etholiadau pwysicaf Cymru ers... wel yr etholiadau pwysicaf erioed, mewn gwirionedd.

Erfyn ar Elfyn

Vaughan Roderick | 19:14, Dydd Mercher, 16 Medi 2009

Sylwadau (2)

elfynllwyd226.jpgClod lle mae'n ddyledus! Mae gan Golwg360 wedi ei seilio ar eitem yn y cylchgrawn. Dyma mae'n awgrymu ;

"Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yw'r diweddara' i ddweud ei fod am geisio bod yn Aelod Cynulliad. Mae Elfyn Llwyd wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg "nad ydi hi ddim yn amhosib" y bydd yng Nghaerdydd cyn hir - "o fewn dwy neu dair blynedd"

Beth mae hynny'n ei olygu, tybed? Ydy Elfyn a'i lygaid ar Ddwyfor-Meirionnydd? Os felly beth am Dafydd Elis Thomas? Mae Llais Gwynedd am ddewis ymgeisydd ar gyfer yr etholaeth yn ystod yr wythnosau nesaf. Gwilym Euros yw'r dewis amlwg, byswn i'n tybio, ond a fyddai'r grŵp hwnnw yn sefyll yn erbyn Elfyn? Wedi'r cyfan doedd e ddim yn un o ffans mwyaf Cyngor Gwynedd yn ystod yr helynt ysgolion.

Gallai Elfyn wrth gwrs anelu am sedd ar restr y Gogledd. Rwyf wedi nodi o'r blaen nad oes sicrwydd y bydd Plaid Cymru yn ennill sedd restr yn y rhanbarth honno yn 2011. Ar y llaw does gan Elfyn ddim byd i golli.

Lot o gwestiynau felly. Fe wnawn ni geisio taflu mwy o oleuni ar bethau yfory! Diddorol. Da iawn, Golwg.

Ambell i Oracl

Vaughan Roderick | 15:31, Dydd Mercher, 16 Medi 2009

Sylwadau (2)

FT.jpgFe wnes i ambell i broffwydoliaeth ynghylch yr Etholiad yng Nghymru mewn post Ddydd Llun. Mae'n ymddangos bod y firws wedi cydio gydag eraill yn ymuno yn y sbri.

Mae proffwydoliaethau Betsan yn fan hyn a rhai Martin Kettle o'r Guardian wedi eu cynnwys yn ei erthygl "".

Mae seffolegwyr hefyd wedi dweud eu dweud ar ol craffu ar ganlyniadau arolygon barn ac etholiadau diweddar. Yn adran "sedd wrth sedd" y gwefan mae'r safle'n darogan y canlyniad yma.

Llafur; 20
Ceidwadwyr;12
Plaid Cymru; 5
Dem.Rhydd. 2
Annibynol; 1

Fe fyddai'r canlyniad yna yn hanesyddol o wael i'w Lafur ond mae 'na waith i ddod. Dyw'r gwefan ddim wedi didoli'r seddi unigol eto ond dyma'r broffwydoliaeth ddiweddaraf yn seiliedig ar arwg barn YouGov.

Llafur; 14
Ceidwadwyr;18
Plaid Cymru; 5
Dem.Rhydd. 2
Annibynol; 1

Fedra i ddim meddwl am unrhyw adeg yn fy mywyd pan na fyswn wedi chwerthin ar ben y fath broffwydoliaeth. Ac eithio nawr, hynny yw.

Yn y cyfamser dal i gysgu ar y cledrau mae Llafur y Cynulliad gan boeni'n fwy am "enwebiadau Huw" a "gwendid Edwina ymhlith aelodau seneddol" na'r trychineb posib sydd o'u blaenau.

A fydd y ras i olynu Rhodri yn fater o ddeuddyn moel yn ymgiprys am grib?

Lessons History

Vaughan Roderick | 11:25, Dydd Mercher, 16 Medi 2009

Sylwadau (2)

tigerbay.jpgRoedd ddoe yn ddiwrnod trychinebus i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru. yw'r lle i ddarllen yr holl fanylion. Yn bersonol rwy'n meddwl y byddai'r blaid wedi gwneud llai o niwed i'w hun trwy sefyll ysgwydd ac ysgwydd â Vince Cable yn hytrach na cheisio sbinio ei ffordd allan o dwll.

Fe fydd darllenwyr cyson y blog hwn yn gwybod bod yr hyn ddigwyddodd i'r traddodiad rhyddfrydol Cymreig yn yr ugeinfed ganrif yn un o fy niddordebau mawr. Mae'r ffordd y gwnaeth rhyddfrydiaeth ennill y frwydr ddeallusol yng Nghymru ar yr union adeg yr oedd y blaid ei hun yn gwywo yn un o ddirgelion mawr ein hanes.

I raddau helaeth creadigaeth rhyddfrydiaeth yw'r Gymru fodern yn fy marn i. Ar drothwy Eid ul-Fitr dyma i chi enghraifft amserol.

Yn Mehefin 1919 roedd 'na derfysgoedd hiliol difrifol yng Nghaerdydd wedi eu hanelu at Fwslimiaid a lleiafrifoedd eraill y ddinas. Lladdwyd tri o bobol ac anafwyd dwsinau.

Roedd esgusodion y terfysgwyr yn boenus o gyfarwydd;

"If a white man dared to do what these blacks do... he would be run in immeadiately"

"We find these foreigners have got our jobs, our businesses and our houses, and we can't get rid of them"

Undebau Llafur y dociau oedd yn rhannol gyfrifol am y terfysgoedd ond roedd 'na gefnogaeth ddigon parod o'r asgell de. Dyma oedd gan y Western Mail (papur Ceidwadol ar y pryd) i ddweud.

" The Goverment ought to declare... that no more immigrants can be admitted and that immigrants who have not been assimilated must return whence they came"

Roedd y papur yn poeni'n arbennig am y ffaith bod merched gwyn yn cael cyfathrach rywiol (!) neu hyd yn oed yn priodi (!!) dynion o leiafrifoedd ethnig.

"Such consorting is ill-assorting; it exhibits either a depravity or a squalid infatuation; it is repugnant to our finer instincts in which pride in race occupies a just and inevitable place"

Gydag undebau'r chwith yn cwffio ar y strydoedd a'r dde yn eu hannog o ystafelloedd moethus y County Club a'r Gyfnewidfa Lo a fyddai unrhyw un a thipyn o glowt gwleidyddol yn fodlon peryglu ei boblogrwydd trwy amddiffyn y lleiafrifoedd? Oedd na unrhyw un a fyddai'n gwneud safiad dros degwch a goddefgarwch?

Oedd. Roedd gan y "Western Mail" gystadleuaeth. Papur Rhyddfrydol o'r enw'r "South Wales Daily News". Dyma oedd gan y papur hwnnw i ddweud am y terfysgoedd;

"The cowardly attacks upon black men should be rigorously dealt with... it is... necessary to insist upon fair play and equal treatment to everyman whatever his colour"

Yn 1919 roedd hynny'n beth beiddgar iawn i ddweud. Heddiw mae'n un o gonglfeini'r consensws gwleidyddol. Mae hynny'n un o lawer o enghreifftiau o fuddugoliaeth yr ethos ryddfrydol yng Nghymru.

Sefyll dros gyfiawnder. Dangos dewrder gwleidyddol. Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol hen ddigon o bethau yn eu hanes i ddathlu a brolio yn eu cylch. Doedd digwyddiadau ddoe ddim yn eu plith.

The Race Riots of 1919- Neil Evans
Lafur; Cyf. 3.1

Ei weled ef fel ag y mae

Vaughan Roderick | 12:33, Dydd Mawrth, 15 Medi 2009

Sylwadau (0)

biggles.jpgMae'n eironig bod safle'r Academi Filwrol arfaethedig yn Sain Tathan yn amgylchynu Bethesda'r Fro, hen gapel yr emynydd Thomas William. Ef oedd awdur "" emyn sy'n cael ei gysylltu â heddychiaeth Gymreig er nad dyna yw ei thema mewn gwirionedd.

Traddodiad heddychol Plaid Cymru oedd yn gwneud i mi ddisgwyl y byddai 'na ffrae fawr ynghylch y cynllun academi yn ei chynhadledd. Ni ddigwyddodd hynny, mewn gwirionedd. Hwyrach mai'r rheswm oedd bod mwy a mwy o bobol yn amau neu'n synhwyro na fydd y cynllun yn cael ei wireddu.

Gallai hynny hefyd esbonio ymateb Democratiaid Rhyddfrydol y Cynulliad ar ôl i ganghellor y blaid alw am sgrapio'r cynllun. "Cyfraniad i drafodaeth" yn hytrach na chyhoediad polisi oedd galwad Mr Cable medd llefarydd. Mae hi bron fel pe bai'r aelodau yn y Bae yn credu bod Mr Cable ond wedi achub y blaen ar gyhoeddiad swyddogol gan y Llywodraeth yn San Steffan.

Dyw pethau ddim mor syml â hynny yn fy marn i. Mae awgrymu y byddai atal y cynllun yn "arbed £13 biliwn" yn osodiad rhyfedd ar y naw. £13 biliwn yw holl gost y cynllun. Ydy'r beirniaid yn awgrymu na fyddai angen hyfforddi'r lluoedd arfog pe na bai'r academi yn mynd yn ei blaen? Efallai y byddai 'na arbedion trwy hyfforddi mewn rhyw ddull arall. Efallai ddim. Yn sicr byddai'r arbedion yn ddim byd tebyg i £13 biliwn.

Er nad yw'r cytundebau ynglŷn â'r Academi wedi eu harwyddo eto fe fyddai rhoi'r gorau i'r cynlluniau yn golygu bod y sachau o aur sydd eisoes wedi eu gwario ar y cynlluniau wedi eu gwastraffu. Yn ogystal fe fyddai'r "super-hanger" a godwyd ar gost o £112 miliwn yn ddiangen a dibwrpas am yryn ei hanes byr. I gamddyfynnu Oscar Wilde; " to lose one Saint Athan project , Dr Cable, may be regarded as a misfortune; to lose both looks like carelessness."

Mae 'na un factor fach arall sy'n werth nodi. Chwi gofiwch, mae'n siŵr bod lein rheilffordd y canolbarth yn agored hyd heddiw oherwydd ei bod yng ngeiriau George Thomas yn "rhedeg trwy chwe sedd ymylol". Mae safle'r Academi ar y ffin rhwng Bro Morgannwg a Phen-y-bont. Ydy'r llywodraeth yn debyg o bechu etholwyr y ddwy sedd yna ar drothwy etholiad cyffredinol? Go brin.

Mae beth fydd yn digwydd ar ôl yr etholiad yn gwestiwn arall. Roedd llythyr cytundeb rhwng y Weinyddiaeth Amddiffyn a chonsortiwm Metrix yn barod i'w arwyddo ar Orffennaf 17eg. Jyst cyn hynny fe ofynnodd Cheryl Gillan i is-ysgrifennydd Cymru a fyddai'r llythyr yn cael ei arwyddo ar y diwrnod hwnnw. Dyma ateb Wayne David yn ei .

"The hon. Lady is correct to stress the importance of that investment to Wales. It will be the largest single investment ever in the Welsh economy. The defence technical college will be of tremendous benefit, not only to the Welsh economy but obviously to the United Kingdom armed forces. My right hon. Friend the Secretary of State fully recognises the importance of that; he has had discussions with the Secretary of State for Defence and they are going forward together. The hon. Lady can rest assured that we recognise the importance of the project for Wales."

Ew, mae 'na Syr Wmffras da yn San Steffan! Dyw'r llythyr dal ddim wedi ei arwyddo.

wnaeth dorri'r stori yma. Mae e wedi yn blogio fel cythraul arni drwy'r dydd. Fe fydd e'n boblogaidd yn Bournemouth!

Trioedd Ynys Echni

Vaughan Roderick | 23:43, Dydd Llun, 14 Medi 2009

Sylwadau (2)

flatholm.jpg

1.Mae 'na ar Freedom Central gan Jeremy Townsend yn tynnu sylw at y nifer o weithiau yr oedd areithwyr yng nghynhadledd Plaid Cymru yn ymosod ar Lundain neu ar "lywodraeth Llundain".

Mae Jeremy yn ceisio dyfalu pam y mae aelodau Plaid a chymaint o "downer" ar y ddinas. Ar ôl eu gwylio yn Llandudno mae gen i esboniad syml. Pris y cwrw. Gwell llaeth Cymru...


2.Fe wnes i fethu "twitro" o Landudno. Dyw Wi-Fi Venue Cymru ddim yn sbesial a dydw i ddim wedi gweithio allan sut mae postio dros y ffôn eto. Dydw i ddim yn gallu penderfynu p'un ai ydw i'n hoff o "Twitter" ai peidio. Mae 'na shwt beth â gormod o wybodaeth. Y post yma gan Darren Millar, er enghraifft ;

"Just in from speaking engagement. Sausage rolls from buffet at the event are repeating on me..."

Dylai Darran fod yn ofalus. Mae sylwadau fel 'na yn gallu gadael oglau drwg ar eu hôl! I ddyfynnu David Cameron arweinydd ei blaid "The trouble with Twitter, the instantness of it - too many twits might make a t***."

3.Gan ei bod hi'n wythnos olaf Ramadan fe wnes i sicrhau bod ein goleuadau Eid ul-Fitr yn gweithio neithiwr. Mewn gwirionedd yr un goleuadau sy'n mynd ar y golfen Nadolig. Ydy hynny'n golygu fy mod yn ôl-grefyddol neu'n or-grefyddol?

Nid pob arwr sydd angen asyn

Vaughan Roderick | 11:36, Dydd Llun, 14 Medi 2009

Sylwadau (9)

quixote_300.jpgMae gen i gyfaddefiad. O bryd i gilydd rwy'n teimlo'n rhwystredig nad ydwyf yn gallu dod o hyd i ryw ddyfyniad neu ddywediad bachog i gyfleu syniad neu i ddefnyddio fel pennawd. Ar adegau felly rwy'n estyn i fy nychymyg ac yn bathu rhywbeth sy'n swnio'n dda, yn hynafol ac sy'n cyfleu'r ystyr.

Ffug-ddywediadau a dyfyniadau yw'r rhain mewn gwirionedd, pethau fel "mwy o geffyl gwaith na cheffyl gwedd" neu " y gwas bach sy'n cael y geiniog". Yr un gorau i mi gofio oedd "codi caib i agor cocos"- fy fersiwn Gymraeg i o "sledge-hammer to crack a nut".

Dydw i ddim sicr p'un ai hanner cofio'r pethau 'ma ydw i ai eu creu nhw allan o nunlle! Serch hynny mae'n rhoi boddhad enfawr i mi pan welaf rywun arall yn defnyddio un ohonyn nhw misoedd neu flynyddoedd yn ddiweddarach.

Ta beth, ar y daith yn ôl o Landudno fe drafododd Betsan a finnau y syniad o fathu dywediadau gwbl ddiystyr a'u cynnwys yn ein blogs i weld a fyddai unrhyw un yn sylwi! Fyddai hynny ddim yn beth call yn yr hinsawdd bresennol ond dyma rai o'r ffug-ddywediadau y gwnaethom ni eu bathu.

"Nid hawdd yw twyllo gafr benddu"

"Nid ar gaws y mae codi buarth"

"Un wiwer ni wna goelcerth"

"Haul y bore yw hunllef yr hwyr"

Ydych chi'n gallu meddwl am rai gwell ac oni fyddai'n sbort cael cystadleuaeth fathu yn y Babell Len?

Uchafsymiau

Vaughan Roderick | 09:24, Dydd Llun, 14 Medi 2009

Sylwadau (4)

Ty_Cyfri.jpgYn y post "7? 50:50" fe wnes i nodi mai wyth oedd yr uchafswm o seddi yr oeddwn i'n credu y gallai Plaid Cymru eu hennill yn yr Etholiad Cyffredinol. Y saith mae'r blaid yn targedu yw'r rheiny ac un "jocyr" yn y cymoedd. Ar ôl i mi bostio'r sylw yna fe wnaeth hi fy nharo i bod trafod uchafsymiau posib i'r pleidiau yn ffordd wahanol ac eithaf defnyddiol o edrych ymlaen at yr etholiad nesaf.

Yn ddamcaniaethol gallai unrhyw blaid ennill deugain sedd wrth gwrs ond pwrpas yr ymarferiad yma yw dyfalu beth yw'r nifer fwyaf y gallai plaid ei hennill os ydy'r amgylchiadau presennol yn bodoli pan ddaw'r etholiad.

Mae 'na ddau rybudd amlwg cyn cychwyn. Mae sawl sedd yn ymddangos mewn mwy nac un golofn. Mae'r cyfanswm ymhell dros ddeugain, felly. Cofiwch hefyd y gallai amgylchiadau newid cyn y bleidlais. Ar ôl dweud hynny bant a ni! Os mai wyth yw uchafswm Plaid Cymru beth am y pleidiau eraill?

Mae'n hawdd anghofio mai'r Democratiaid Rhyddfrydol yw ail blaid Cymru o safbwynt cynrychiolaeth seneddol. Beth yw'r canlyniad gorau y gallai'r blaid honno obeithio amdano y tro nesaf?

Chwech yw'r ffigwr, yn fy marn i, sef y seddi presennol ynghyd â Gorllewin Abertawe a Dwyrain Casnewydd. Mae'n deyrnged i effeithlonrwydd targedu'r blaid ei bod eisoes yn dal cymaint o'i seddi posib.

O hyn ymlaen mae pethau'n mynd yn ddiddorol! 29 sedd sydd gan Lafur ar hyn o bryd. Dydw i ddim yn gallu meddwl am unrhyw sedd, hyd yn oed Blaenau Gwent, y gall Llafur ei chipio. Ar y llaw arall rwy'n meddwl, o dan yr amgylchiadau presennol, ei bod hi'n anorfod y bydd y blaid yn colli Gogledd Caerdydd, Bro Morgannwg a Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro ac yn methu ennill etholaeth newydd Aberconwy. 25 yw'r uchafswm Llafur felly ac rwy'n meddwl bod hynny yn hael.

Ond beth am y Ceidwadwyr ? Yn ychwanegol at eu tair sedd bresennol rwy'n meddwl bod gan y blaid rhywfaint o gyfle yn y seddi sy'n cael eu rhestri isod. Sylwer bod "rhywfaint" yn golygu "rhywfaint ond dim llawer" mewn ambell i achos! Ta beth, dyma nhw;

De Clwyd, Alun a Glannau Dyfrdwy, Delyn, Wrecsam, Dyffryn Clwyd, Aberconwy, Ynys Môn, Maldwyn, Brycheiniog a Maesyfed, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Gwyr, Pen-y-bont, Bro Morgannwg, Gogledd Caerdydd, Gorllewin Caerdydd, De Caerdydd a Phenarth, Gorllewin Casnewydd a Dwyrain Casnewydd.

Uchafswm y Ceidwadwyr yw 21 felly, dros hanner y seddi yng Nghymru a dim ond pump yn llai na'r uchafswm posib i Lafur.

Fe ddywedodd rhywun mai'r gwahaniaeth rhwng Llafur yng Nghymru a'r blaid yn Lloegr ar hyn o bryd yw bod y Saeson yn "defeatist" a'r Cymry "in denial". Efallai y bydd y post yma o gymorth i'w deffro! Os ydw i'n iawn fe allai'r Torïaid fod mewn sefyllfa nid yn unig i oddiweddid Llafur o ran nifer eu cynrychiolwyr yng Nghymru ond i ennill dros hanner y seddi Cymreig.

Dyw hynny ddim yn debygol ac fe allai pethau newid. Ond ydy Llafur Cymru, mewn gwirionedd, yn mynd i barhau i orwedd ar y cledrau ac anwybyddu sŵn y trên sy'n rhuthro i'w cyfeiriad?

Un peth bach arall ar ffurf cwestiwn. Pe bai Llafur yn colli pob un sedd sy'n ymddangos yng ngholofn un o'r pleidiau eraill sawl aelod seneddol Llafur fyddai ar ôl yng Nghymru?

Pymtheg. Fifteen. Quinze. Fünfzehn. Limabelas. Pa iaith sydd angen ei siarad er mwyn iddyn nhw glywed?

Rialtwch

Vaughan Roderick | 23:20, Dydd Sadwrn, 12 Medi 2009

Sylwadau (0)

empire.jpgGan fy mod wedi bod yn brysur yn Llandudno eich awgrymiadau chi sy'n llenwi sgrin y sioe ffilmiau yr wythnos hon.

Awgrymiadau gan "O bell" yn Awstralia i ddechrau. Dyma i chi berl go iawn - ymateb Clement Attlee i fuddugoliaeth Harold Wilson yn 1964. Ond dyw rhaglenni etholiad wedi newid?

A dyma "ddarllediad gwleidyddol" cynnar gan Ramsay Macdonald ar ran y "Llywodraeth Genedlaethol" yn 1931.

ieuanalis.jpgUn o gynadleddwyr Plaid Cymru wnaeth awgrymu'r clip nesaf gyda'r sylw yma;

"Ond doedd hi'n rhyfedd gweld Megan Harries ar y llwyfan gyda Ieuan? Roeddwn i'n meddwl mai Llafur oedd Reg! Tybed beth mae Gareth Wyn yn gwneud y dyddiau hyn?"

Dwn i ddim. Mae e wedi diflannu i rywle!!!

Gwell i mi longyfarch Ioan ac Alice ar eu cyntaf anedig jyst rhag ofn. Mae Cymry ym mhellafion byd yn tueddu darllen y blog bach yma! Nid Megan Harries oedd honna gyda llaw ond Merch Gwern Hywel!

"Empire" Caergybi sydd yn y llun cyntaf, y sinema olaf i gau ar Ynys Môn. Nawr maen nhw'n bygwth cau'r pyllau nofio hefyd! Bydd cryts yr ynys yn gorfod heglu hi i Affrica gyda Gareth Wyn am eu sbort cyn bo hir!

Y Mab Darogan

Vaughan Roderick | 15:34, Dydd Sadwrn, 12 Medi 2009

Sylwadau (6)

penyberth.jpgYchydig iawn o wleidyddion Cymru sy'n gallu denu newyddiadurwyr gwleidyddol i neuadd cynhadledd er mwyn gwrando ar araith. Gwrando ar y ffid deledu yn ystafell y wasg yw'r drefn arferol gan fod hynny yn caniatau ffeilio (a blogio!) ar yr un pryd.

Un o'r eithriadau prin yw Adam Price- un sy'n gwybod nid yn unig lle mae "g-spot" ei blaid ond un y wasg hefyd. Mae gan Adam y gallu i bleisio pob carfan o'i blaid gan gyfuno cyfeiraidau at Dryweryn, Streic y Glowyr, Merched Beca a Nye Bevan mewn ffordd sy'n swnio'n gwbwl naturiol. Roedd ei araith heddiw hyd yn oed yn cynnwys ymdrech i estyn llaw i ambell i Geidwadwr gyda gwahoddiad (drygionus efallai) i David Melding ymuno a'r blaid. Fe awgrymmodd Adam hefyd ei bod hi'n bryd iddo fe'i hun "ddod gartref" o San Steffan.

Mae Plaid Cymru yn hoff iawn o ddrindodau. Efallai mai Trioedd Ynys Prydain neu cysgod yr hen driban sy'n gyfrifol. Cafwyd drindod Penyberth ar boster enwog yn y tridegau a drindod arall ar boster arall yn 1974. Saunders, DJ a Lewis Valentine yn '36, Gwynfor, Wigley a Dafydd El yn '74, Wigley Adam a... phwy arall yn 2011?

"Watch this space", fel maen nhw'n dweud!

Syr Wmffra a Moron

Vaughan Roderick | 12:21, Dydd Sadwrn, 12 Medi 2009

Sylwadau (1)

Rwy'n becso weithiau y bydd pobol yn meddwl bod gen i obsesiwn ynghylch cyfieithu'r cofnod!

Fe wna i ond nodi wrth fynd heibiol felly bod cynhadledd Plaid Cymru newydd basio cynnig yn datgan bod y bwriad i gwtogi ar y cyfieithu yn annerbyniol ac yn galw ar gomisiwn y cynulliad i newid ei benderfynniad.

Cyn i chi ofyn doedd Dafydd Elis Thomas ddim yn bresenol ar gyfer y sesiwn!

Collodd Llywydd y Cynulliad un berlen oherwydd ei absenoldeb. Fe wnes i grybwyll ddoe y gallai'r ddadl ynghylch Academi Filwrol Sain Tathan fod yn un ffyrnig. Nid felly y bu pethau gyda chynnig "cytuno i anghytuno" yn cael ei gymeradwyo ond fe gafwyd un dyfyniad bythgofiadwy;

"We don't want Wales to carry a sack of carrots and not a stick."

Oes angen dweud pa aelod cynulliad ddyweodd hynny?

7? 50:50

Vaughan Roderick | 10:04, Dydd Sadwrn, 12 Medi 2009

Sylwadau (1)

secret-seven.jpg

Mae gosod targed yn beth peryg. Mae targed rhy isel yn awgrymu diffyg hyder tra bod rhywbeth anwelwig ("yn well na tro diwethaf" yw'r fformiwla arferol) yn destun sbort.

Dyw'r peth ddim wedi ei gyhoeddi'n swyddogol ond does dim cyfrinach mai saith sedd yw targed Plaid Cymru ar gyfer yr etholiad cyffredinol. Mae hynny'n fwy na dwbwl y nifer bresennol ond yn llai na fyddai'r blaid yn targedi mewn etholiad cynulliad. Dyw etholaethau megis Gorllewin Clwyd, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro a Chastell Nedd er enghraifft, ddim ar yr y rhestr o dargedau seneddol.

Pa etholaethau sydd ar y rhestr,felly? I ddechrau wrth reswm mae Arfon, Dwyfor Meirionnydd a Dwyrain Caerfyrddin. Er bod y ffinau wedi newid yn y Gogledd Plaid Cymru sy'n dal y seddi yma i bod pwrpas. Fe ddywedais ar y pryd nad oeddwn i'n cytuno ac acamedyddion (rhai Lloegr nid ein criw ni) wnaeth awgrymu mae sedd Lafur yw'r Arfon newydd ar bapur. Dydw i ddim wedi gweld unrhywbeth i newid fy meddwl.

Ynys Môn, Cerdigion, Abeconwy a Llanelli, pedair etholaeth y mae'r blaid yn eu cynrychioli yn y Cynulliad yw'r seddi eraill ar y rhestr. Mater o drefniadaeth yw ennill y ddwy gyntaf er y gallai'r hyn sy'n digwydd rhwng y pleidiau eraill fod yn bwysig. Fe fyddai ymchwydd yn y bleidlais Geidwadol, er enghraifft, o gymorth enfawr i Blaid Cymru yng Ngheredidion.

O'r ddwy sedd arall chwe mis yn ôl fe fyswn wedi tybio mai Aberconwy oedd y gobaith gorau ond os ydy llanast presennol y Blaid Lafur yn parhau mae'n bosib mai Llanelli yw'r tir mwyaf ffwythlon.

Yn yr achos hynny fe fyddai'n gamgymeriad diystyrru'r posibilrwydd o fuddugoliath o nunman yn un o gymoedd y de. Mae llwyddiannau Plaid Cymru yn y rhanbarth honno wedi digwydd mewn etholiadau lle ma canran isel o etholwyr wedi pleidleisio. Gallai hynny fod yn wir y tro hwn.

Ydy hi'n bosib i'r blaid ennill rhwng deg a deuddeg mil o bleidleisiau yn rhywle fel Cwm Cynon, er enghraifft? Ydy hi'n bosib i hynny fod yn ddigon i gipio'r sedd? Posib er anhebyg yw'r ateb i'r ddau gwestiwn.




Teimlad Chwithig

Vaughan Roderick | 16:45, Dydd Gwener, 11 Medi 2009

Sylwadau (3)

brezhnev.jpgPam oedd asgell chwith y Blaid mor blest ac araith Ieuan Wyn Jones? Ai'r holl gyfeiriadau at "newid" neu'r ymsodiadau ar y banciau a chwmniau mawrion? Y naill na'r llall, mae'n ymddangos.

Beth felly am y pedwar gair "we on the left"? Go brin.

I fod yn deg roedd y paragraff yma ychydig yn fwy radicaliaidd nac arfer;

"What were those stories that shaped my political beliefs? The fight for the state pension, benefits for people out if work, free state education, the battle to set up the NHS."

Ond nid hwnnw oedd wedi cyffroi'r chwith chwaith.

Efallai bod hyn yn anodd i gredu ond y ffaith mai ymgeisydd Islwyn, Steffan Lewis yn hytrach na'r aelod lleol, Gareth Jones oedd wedi ei ddewis i gyflwyno'r arweinydd oedd wedi egseitio ambell un!

Mae cesio dadansoddi gwleidyddiaeth mewnol Plaid Cymru fel gwylio'r Kremlin yn yn nyddiau Brezhnev ar adegau!

Arcadia

Vaughan Roderick | 12:51, Dydd Gwener, 11 Medi 2009

Sylwadau (0)

gq_magazine.jpgMae'r hen le wedi newid eitha tipyn gyda safle'r Arcadia bellach yn gartref i arena fodern Venue Cymru. Serch hynny wrth iddo anerch y gynhadledd y prynhawn yma fe fydd Ieuan Wyn Jones yn sefyll ym mron union yr un fan a David Steel pan ddywedodd yntau wrth ei blaid i "fynd adref i'w hetholaethau a pharatoi i lywodraethu".

Mae'n anhebyg y bydd Ieuan yn gallu ysbrydoli'r cynrychiolwyr i'r un graddau ond mae ganddo un fantais. Yn gefndir i'r arweinydd Rhyddfrydol roedd poster moel yn hysbysebu "Liberal News". Yn gefndir i Ieuan fe fydd criw o aelodau mwyaf trwsiadus y blaid- y "beautiful people" fel maen nhw'n cael eu galw. Fe fydd 'na losin i'r llygad felly hyd yn oed os nad oes 'na falm i'r glust!

Ai presenoldeb cymaint o gryts trwsiadus wnaeth berswadio un aelod blaenllaw o'r blaid i awgrymmu ei bod hi'n bryd ychwanegu adran "Cymru H" at "Cymru X"? Nid dros "hardd" yr oedd yr H yna'n sefyll gyda llaw!

Cofiwch mae 'na un "faux pas" ffasiwn- crysau pinc llachar y stiwardiaid! Rwy'n casglu eu bod wedi gwingo o'u gweld!

Torri Gwynt

Vaughan Roderick | 09:07, Dydd Gwener, 11 Medi 2009

Sylwadau (1)

windy_miller_150.jpgOnd dyw Llandudno'n bert? Mae Venue Cymru'n lle arderchog am gynhadledd hefyd os ydych chi'n fodlon anwybyddu'r jocs ynghylch "mynd i Landudno i chwilio am venue"!

Un peth sydd wedi newid ers y tro diwethaf i mi fod yma yw'r melinau gwynt ar y gorwel. Roeddwn i'n cymryd mai "Gwynt y Mor" oedd rhain ac roeddwn i'n methu'n lan a deall pam yr oedd cymaint o ffwdan yn eu cylch. Erbyn hyn, rwyn deall mai fferm wynt Rhyl yw hon. Mae un Llandudno i ddod ac fe fydd hi'n agosach ac yn fwy. Os felly, fe fydd hi'n gythraul o beth!

Y ddadl yghylch ynni gwynt yw un o'r ddwy ddadl allai fod yn ddadleuol yng nghynhadledd Plaid Cymru. Mae 'na ddadleuon economaidd ac amgylcheddol o blaid ac yn erbyn ynni gwynt ond ar ddiwedd y dydd mae 'na elfen oddrychol i'r peth. Mae rhai yn credu eu bod yn bethau hardd, eraill o'r farn eu bod yn hyll. O ofyn o gwmpas mae'n ymddangos bod aelodau'r blaid, fel y boblogaeth, wedi eu hollti i lawr y canol.

Y ddadl arall allai droi'n gas yw honno ynghylch Academi Filwrol Sain Tathan. Mae holl dradodiadau heddychiaeth a gwrth-imperialaeth Plaid Cymru yn agrymmu y dylai'r blaid wrthwybeu'r cynllun. Sawl gwaith y byddwn yn clywed y geiriau "Gwynfor", "Epynt" a "Phenyberth" yn ystod y ddadl, tybed?

Ar y llaw arall mae'r tir eisoes yn eiddo i'r Weinyddiaeth Amddiffyn ac mae'r cynllun yn drawsnewidiol i economi rhanbarth gyfan o Gymru. A fydd arain yn drech na thraddodiad? Fe gawn weld!.

Ysgytlaeth

Vaughan Roderick | 09:56, Dydd Iau, 10 Medi 2009

Sylwadau (0)

NMB.gifRwy'n teithio trwy wlad y bariau llaeth i Landudno heddiw, Fe fydd blogio'n ysgafn felly.

Dyma ambell i ddolen i'ch difyrru yn y cyfamser.

Fe fydd rhagolwg o gynhadledd Plaid Cymru yn ymddangos ar y tudalennau Newyddion y prynhawn yma.

Fel oeddwn i'n dweud...

Vaughan Roderick | 17:38, Dydd Mercher, 9 Medi 2009

Sylwadau (2)

yesminister.jpgMae datganiad gan y Bwrdd Iaith newydd ddod i law yn wfftio dadleuon Comiswn y Cynulliad ynghylch y Cofnod.

Efallai eich bod yn cofio bod y Comisiwn yn hawlio nad oeddynt wedi mabwysiadu Cynllun Iaith y Cynulliad. Sut felly mae esbonio llythyr i'r Bwrdd Iaith gan Dafydd Elis Thomas ar Hydref 24ain 2006 yn datgan bod y comisiwn wedi mabwysiadu'r cynllun? A'r busnes yna ynghylch "geiriad amwys y Cynllun"? Nonsens medd y Bwrdd.

Dydw i ddim yn cofio achos lle mae'r Bwrdd wedi gweithredu mor gyflym, mor gadarn ac mor gyhoeddus. Mae'n amlwg bod hwn yn fater o egwyddor i'r Bwrdd a bod y sefyllfa gyfreithiol yn gyfan gwbwl eglur yn ôl eu cyfreithwyr. Dyma'r datganiad;

Cynllun Iaith y Cynulliad: Bwrdd yn mynnu atebion

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi gwrthod cais gan y Cynulliad i newid geiriad eu Cynllun Iaith. Mewn llythyr at y Bwrdd ar 28 Awst 2009, honnai'r Cynulliad bod amwysedd yng ngeiriad cymal 4.8 y Cynllun, sef:

"Cyhoeddir cofnod gair am air dwyieithog o bob Cyfarfod Llawn".

Barn y Bwrdd yw bod y cymal hwn yn eglur.

Mae'r Bwrdd yn datgan fod Cynllun Iaith y Cynulliad yn gynllun statudol. Cafodd y Cynllun ei fabwysiadu gan Comisiwn y Cynulliad a gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn y llythyr gwreiddiol at Lywydd y Cynulliad ar 10 Awst 2009, gofynnodd Prif Weithredwr y Bwrdd, Meirion Prys Jones, gyfres o gwestiynau, er mwyn sefydlu beth oedd cefndir a sail y penderfyniad i beidio cyfieithu trafodion y Cyfarfod Llawn i'r Gymraeg. Nid yw'r Bwrdd o'r farn fod y cwestiynau hyn wedi eu hateb yn eu cyfanrwydd. Mae'r Bwrdd, felly, wedi gofyn i'r Cynulliad ymateb i'r holl gwestiynau erbyn 22 Medi 2009.

Lle bo gan y Bwrdd amheuon bod corff cyhoeddus wedi methu cydymffurfio â'i gynllun iaith, mae ganddo hawl statudol i gynnal ymchwiliad o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Oni chaiff y Bwrdd ymateb boddhaol i'r holl gwestiynau a ofynnwyd erbyn 22 Medi 2009, bydd yn parhau â'r camau nesaf ar sail yr wybodaeth sydd eisoes wedi dod i law.

Mae'n debyg y byddai herio penderfyniad y bwrdd yn costi llawer mwy na'r chwarter miliwn y mae'r comisiwn yn ceisio ei arbed. Yr un cwestiwn eto felly. Ydy'r Llywydd, mewn gwirionedd, yn fodlon mynd i'r baricêd dros gyfieithu (neu yn hytrach dros beidio cyfieithu) y cofnod? Mae 'na gwestiwn arall hefyd. Ydy'r Comisiwn, mewn gwirionedd, yn fodlon mynd i'r baricêd dros y Llywydd?

Sawl person sy'n adrodd y frawddeg yma heno? "Os oedd cyn-gadeirydd y Bwrdd Iaith yn dweud bod y peth yn iawn pwy oeddwn i i'w herio?" Rwy'n gwybod am o leiaf un ac rwy'n amau bod 'na fwy.

Coup D'ETat

Vaughan Roderick | 13:35, Dydd Mercher, 9 Medi 2009

Sylwadau (0)

flag200.jpgMae'r rhesymau a'r cefndir yn gymhleth ond Llywodraeth Cymru yw'r unig lywodraeth yn y byd sy'n cynnig rhyw fath o gydnabyddiaeth i Weriniaeth Somaliland. Mae gwleidyddion y wlad honno yn cael eu gwahodd yn weddol aml i'r Bae i ddysgu sut mae cynulliad democrataidd yn gweithio. Ydyn nhw wedi'r dysgu'r gwersi? Cewch chi farnu!

"Police in the breakaway state of Somaliland swarmed into parliament after lawmakers fought among themselves and one drew a pistol, a police officer said Wednesday.
The violence on Tuesday erupted over a motion to impeach the president brought by opposition lawmakers and contested by supporters of the president." AFP

Dyw Llywydd y Cynulliad ddim mewn cweit cymaint o drafferth! Dim eto, o leiaf ond gallai agwedd ei Syr Wmffras ei arwain i drafferthion. Mae'r awgrym o du'r Comisiwn na fyddai'r cynnig ynghylch cyfieithu'r cofnod yn gorfodi newid yn y polisi wedi cynddeiriogi rhai aelodau.

Cafodd y cynnig ei lunio'n ofalus i ganiatáu i'r Llywydd a'r Comisiwn newid eu meddyliau mewn modd oedd yn osgoi embaras. Os ydyn nhw'n gwrthod gwneud hynny mae'n bosib y byddai cynnig llawer yn gryfach yn cael ei gyflwyno- cynnig a fyddai'n amhosib ei weld fel unrhyw beth ond pleidlais o hyder yn y Llywydd ac aelodau'r Comisiwn.

O dan y fath amgylchiadau mae'n debyg y byddai gweinidogion ac aelodau'r Comisiwn yn gorfod ymatal gan olygu mai ychydig dros ugain o bleidleisiau fyddai angen i ddangos y drws i Dafydd El. Ydy'r pleidleisiau hynny ar gael? Wel, mae Dafydd wedi pechu sawl un ar hyd y blynyddoedd ac mae 'na ambell i aelod dal yn ddig am y ffordd y cafodd y newidiadau i'r system dreuliau eu stêm-rolio trwy'r cynulliad.

Ydy'r Llywydd, mewn gwirionedd, yn fodlon mynd i'r baricêd dros gyfieithu'r cofnod? Mae 'na beryg i gêm bocer y comisiwn fynd y tu hwnt i'w rheolaeth.

Diweddariad; Fe gofiwch fod Nick Bourne wedi dweud hyn mewn llythyr i'r Llywydd;

"I have discussed this matter with William Graham as our Commissioner, who is certainly surprised at the decision being taken in the way that it was and believes that more reflection is needed."

Pam felly bod William yn awr yn dweud ei fod o'r farn "fod y penderfyniad gwreiddiol yn gywir ar sail y dystiolaeth oedd o flaen y Comisiynwyr"? Problem gyfathrebu, mae'n rhaid!

Ond mae cwestiwn yn codi ynghylch natur y dystiolaeth oedd gerbron y Comisiwn. Mewn llythyr at Gymdeithas yr Iaith mae un Aelod Cynulliad yn dweud hyn;

"Rwy'n synhwyro erbyn hyn y bydd yn rhaid i'r penderfyniad yma newid. Un pwynt diddorol yn y llythyr (oddi wrth Dafydd Elis- Thomas) yw'r mater ynglÅ·n ag ystadegau defnydd. Pan dwi'n mynd i'r cofnod mae'r ddwy iaith yn gyfochrog - ac felly fedra i ddim deall sut y gellid dadansoddi a ydy rhywun yn defnyddio'r cofnod yn Gymraeg neu yn Saesneg."

Prynwch Docyn

Vaughan Roderick | 12:05, Dydd Mercher, 9 Medi 2009

Sylwadau (1)

aneurin-glyndwr-590731500.jpgRoeddwn i'n gwrthod credu'r si i ddechrau ond mae ffynonellau o fewn y Blaid Lafur yn cadarnhau bod arch tynnwr blew o drwyn y blaid, David Taylor, yn ystyried sefyll yn Arfon yn yr etholiad cyffredinol.

Deallaf fod David yn teimlo'n rhwystredig nad oes neb wedi dod i'r fei i sefyll mewn sedd sydd, ar bapur o leiaf, yn un addawol i Lafur.

Mae David wrth gwrs yn gyfarwydd i gefnogwyr Plaid Cymru fel tad bedydd amryw o wefannau, yn eu plith Aneurin Glyndŵr. Efallai nad yw pawb ohonyn nhw yn gwybod ei fod yn Gymro Cymraeg. Diawch! Rwy'n edrych ymlaen at yr etholiad yma. Prynwch eich popcorn!

Syr Wmffra'n ystyfnigo

Vaughan Roderick | 10:45, Dydd Mercher, 9 Medi 2009

Sylwadau (0)

Scarfe_243x175.jpgMae swyddogion y Comisiwn yn ystyfnigo. Heddiw honnwyd bod "dim byd wedi newid" yn sgil cyhoeddi'r cynnig yn condemnio'r penderfyniad i newid trefniadau cyfieithu'r cofnod. Honnir hefyd na fyddai'r cynnig yn gorfodi i'r comisiwn newid y polisi.

Efallai bod hynny'n wir ond onid ymrdrech i osgoi creu sefyllfa lle na fyddai dewis gan y Llywydd ond ymddiswyddo o golli'r pleidlais yw hwnnw?

Mae'r swyddogion yn gandryll ynglŷn â'r awgrym "na chafodd aelodau wybod" am y newid. Wedi'r cyfan nid nhw sydd ar fai os ydy cynrychiolwyr y pleidiau ar y Comisiwn yn dewis peidio siarad â'u cyd-aelodau. Am unwaith mae gen i gydymdeimlad a Syr Wmffra!

Ar y llaw arall cofiwch fod y newid wedi ei slipio i mewn i'r gyllideb, cyllideb oedd yn cynnwys y frawddeg gwbwl camarweiniol yma; "We are not intending to do less but to improve what we are able to deliver with the recources available to us"

Erbyn hyn wrth gwrs mae dau allan o bum aelod y Comisiwn, Chris Franks a William Graham wedi mynegi anniddigrwydd ynghylch y penderfyniad gwreiddiol. Beth yw barn Lorraine Barret a Peter Black tybed?

Oes 'na ffordd allan i'r comisiwn, Rhywbeth fel "adolygiad" nid yn unig o'r cofnod ond o'r defnydd o'r Gymraeg yn gyffredinol yn y Cynulliad.

Diweddariad Mae Lorraine Barret o'r farn bod y penderfynniad yn gywir. Does na ddim cyfiethu yng Nghaeredin a Belfast wedi'r cyfan! Fe ddylai pobol gweld y penderfynniad yng nghydestun cylluniau'r Llywydd i gynddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y cynulliad meddai. Adolygiad? Mae'n ymddangos felly i fi.

Clustiau i wrando...

Vaughan Roderick | 20:33, Dydd Mawrth, 8 Medi 2009

Sylwadau (1)

kirsty.512.jpgDoes dim byd yn bod ar wrando. Dim byd o gwbl. Yn wir, byth ers dyddiau "Labour Listens" yn ôl yn yr wythdegau mae hi bron a bod yn ddefod i blaid gynnal taith gwrando yn sgil siom etholiadol. Gall hynny gynnwys cyfarfodydd traddodiadol fel "Cameron Direct", gimics fel taith gerdded Ieuan Wyn Jones neu hyd yn oed defnydd trawiadol o'r dechnoleg newydd. Oes 'na unrhyw un ar "Twitter", er enghraifft, sy ddim yn cael ei ddilyn gan Barack Obama?

Kirsty Williams yw'r diweddaraf i ddilyn y llwybr hwn gydag un cyfarfod wedi ei gynnal yn barod yng Nghaerfyrddin ac un wythnos nesaf ym Mhontypridd. Rwy'n cymryd mai prosiect hir- dymor yw hwn gyda'r bwriad o "blannu eglwysi" mewn ardaloedd lle nad yw'r blaid yn arbennig o gryf (Pontypridd) neu brin yn bodoli o gwbwl (Caerfyrddin).

Fe fyddai'n gamgymeriad i fuddsoddi gormod o ymdrech yn y gwaith yma, o leiaf rhwng nawr a'r etholiad cyffredinol. Mae gafael y blaid ar ei thair sedd seneddol yn y Canolbarth yn ddigon ansicr. Fe fydd ceisio eu cadw nhw i gyd yn her aruthrol. Fe fydd na 'alw mawr hefyd am adnoddau a gweithwyr yng Ngorllewin Abertawe a Dwyrain Casnewydd dwy etholaeth y gallai'r blaid eu cipio.

O fewn y blaid ar lefel Brydeinig ar hyn o bryd mae 'na adwaith yn erbyn yr hyn sy'n cael ei alw'n "Rennardism" sef tactegau etholiadol yr hen brif weithredwr Chris Rennard. Un o gonglfeini'r strategaeth honno oedd canolbwyntio'n ddidrugaredd ar wardiau ac etholaethau oedd yn bosib eu hennill. Gyda etholiad anodd yn brysur agoshau fe fyddai'r blaid yn gall i beidio cefnu ar y rhan yna o'i strategaeth.

Mae angen i Kirsty feddwl am hyn. Meddyliwch os oedd y blaid yn colli Brycheiniog a Maesyfed o gan pleidlais. Sut y byddai Kirsty yn ateb y cwestiwn "beth ddiawl oeddech chi'n gwneud yng Nghaerfyrddin?" Fe fyddai'r cwestiwn yn gwbwl annheg ond fe fyddai'n cael ei ofyn ac yn anodd i'w ateb.

Fe fydd llwyddiant neu fethiant Kirsty fel arweinydd yn cael ei fesur yn gyntaf yn neuaddau cyfri Aberhonddu, y Drenewydd ac Aberaeron nid yn neuaddau a stafelloedd hanner gwag yng Nghaerfyrddin a Phontypridd. Fe fydd 'na hen ddigon o amser i wrando rhwng etholiad San Steffan ac etholiad y Bae. "Pawb at y pympiau" sydd angen ar hyn o bryd!

Diweddariad Mae'r blaid wedi ffonio i ddweud y bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn etholaethau allweddol y blaid yn ogystal â llefydd eraill.

Syr Wmffra RIP

Vaughan Roderick | 17:05, Dydd Mawrth, 8 Medi 2009

Sylwadau (2)

sir-humphrey-2.jpgMae'r cynnig isod wedi ei gyflwyno yn enw Alun Davies, Paul Davies, Jenny Randerson a Rhdri Glyn Thomas.

Fel y dwedais i mewn post blaenorol, mae'n ymddangos bod Syr Wmffra, wrth gynllwynio, wedi anghofio am fodolaeth Cymal 27 (6) o Fesur Llywodraeth Cymru (2006). Mae'r cymal hwnnw'n ei gwneud hi'n eglur mai gwas y cynulliad yw'r comisiwn ac nid ei feistr. Fe gyflwynwyd y cynnig gan ddefnyddio'r darn hwnnw o'r ddeddf.

Cyfiethiad gyda chmorth "Google Translate" o'r cynnig yw hwn. Dyna chi- "Google Translate"- y gwasanaeth cyfieithu na fyddai'n bosib oni bai am fodolaeth y Cofnod dwyieithog.


Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn nodi penderfyniad y Comisiwn i bennu'r cyfieithiad uniongyrchol Cymraeg i Saesneg o fewn y cofnod ac yn nodi bod y penderfyniad hwn wedi ei gymryd heb unrhyw ymgynghori gydag Aelodau na hysbysu'r Aelodau fod y penderfyniad yn cael ei gymryd.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r farn bod ymrwymiad i gydraddoldeb yn egwyddor sylfaenol y sefydliad. Siomwyd y Cynulliad Cenedlaethol gan benderfyniad y Comisiwn ac mae'n gorchymyn bod ymrwyniad y Cynulliad i gydraddoldeb yn cael ei adlewyrchu drwy gydol gwaith a phenderfyniadau y Comisiwn.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ailddatgan ei ymrwymiad i greu Cymru ddwyieithog, ac yn gorchymyn i'r Comisiwn drin y ddwy iaith ar y sail eu bod yn gyfartal.

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol hefyd yn cadarnhau hawl yr Aelodau i wybod am waith y Comisiwn ac i gael ei hymgynghori ynghylch unrhyw benderfyniadau pwysig.

Does dim dwywaith yn fy meddwl i y bydd y cynnig hwn yn cael ei gymeradwyo os ydy pethau'n mynd mor bell â hynny. Mae'n bosib y bydd y Comisiwn yn ceisio osgoi cael slap trwy ildio cyn hynny.


Bananas

Vaughan Roderick | 11:01, Dydd Mawrth, 8 Medi 2009

Sylwadau (0)

bbc150.jpgI'r rheini sy'n meddwl bod dyddiau'r cŵn ar ben dyma restr o'r straeon ym masged copi Ö÷²¥´óÐã Cymru heddiw.

CALDICOT bananas
SAND LIZARDS free
SPOTTED DICK councillor
VAN ON ROOF

Mae gen i gyfres o gyfarfodydd heddiw. Fe fydd blogio'n ysgafn felly. Cyn i chi ofyn mae'r cynghorydd yn cwyno bod bwydlen cantîn cyngor Sir Fflint yn cynnig "spotted Richard and custard" er mwyn osgoi cyhuddiad o anweddustra. Rwy'n gwybod. Does dim angen i chi ddweud.

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 21:34, Dydd Llun, 7 Medi 2009

Sylwadau (0)

enigma.jpgRwy'n deall yn iawn y rhesymeg y tu ôl i benderfyniad penaethiaid i fabwysiadu strategaeth "byr ac aml" ar y gwefan. Mae hynny, ynghyd a'r sylw i straeon Prydeinig a thramor, yn ei wahaniaethu o'r safle yma ac yn gwneud y gorau o adnoddau sydd, mewn gwirionedd, yn ddigon cyfyng.

Rwy'n sicr hefyd bod Dylan a'i griw wedi bod yn ymwybodol o'r cychwyn y byddai angen dechrau ychwanegu tipyn o gig at yr esgyrn yn weddol o fuan. Mae hynny yn awr yn digwydd gyda chyhoeddi ambell i beth mwy swmpus.

Enghreifftiau o hynny yw Ifan Morgan Jones ar beirannau cyfieithu ar-lein a'r. Nawr mae'r rhestr blant ei hun yn nonsens pur (lle mae cyfres y Llewod er enghraifft?) ond, wrth gwrs, dyna yw holl bwynt y peth. Mae'n erthygl sydd i fod i esgor ar gwynion crintachlyd gan bobol fel fi a thrafod brwd ymysg ffrindiau.

Ta beth, dyma gasgliad o ddolenni amrywiol i'ch difyrru.

Mae na gythraul o ffrae rhwng Slofacia a Hwngari ynghylch hawliau ieithyddol.

Budapest Times

TASR

Yn agosach at adref

Independent

Anrhefn addysgiadol Gogledd Iwerddon

Belfast Telegraph

Fe fydd hwn yn deimlad cyfarwydd i Lafur Cymru. Ar ôl tri chwarter canrif ydy'r byd yn dod i ben i Fianna Fáil?

Irish Times

Ac oherwydd fy mod yn sicr ei fod yn torri ei galon os oes wythnos yn mynd heibio heb iddo ymddangos ar y blog...

Independent



Cylch Bywyd

Vaughan Roderick | 12:14, Dydd Llun, 7 Medi 2009

Sylwadau (0)

1999_dafyddwigley2.jpgMae 'na beryg mewn darllen gormod mewn i benderfyniad Dafydd Wigley i dynnu ei enw yn ôl o ystyriaeth fel aelod posib o Dŷ'r Arglwyddi. Mae "poeri gwaed" yn ddigon o esboniad!

Roedd penderfyniad Plaid Cymru i gyfaddawdu ei hegwyddorion ynghylch yr ail siambr yn un anodd.

Doedd hi ddim yn afresymol i blaid sydd wedi ei chynrychioli yn y siambr etholedig yn ddi-dor am bron i ddeugain mlynedd ddisgwyl y byddai Gordon Brown yn rhoi rhwydd hynt iddi gael ei chynrychioli yn y siambr uchaf. Fe fyddai hynny wedi'r cyfan yn ychwanegu at ddilysrwydd cyfansoddiadol y tŷ hwnnw. Mae'n sicr bod gweld Glenys Kinnock yn swancio i mewn i'r lle ar ôl gadael Senedd Ewrop wedi ychwanegu halen at y briw.

Y cwestiwn sy'n codi nesaf wrth gwrs a fydd Dafydd yn ceisio dychwelyd i'r Cynulliad? Rheolau'r blaid ynghylch gosod menyw ar frig ei rhestrau rhanbarthol wnaeth rhwystro ei ymgais i wneud hynny y tro diwethaf. Ni fyddai hynny'n broblem yn 2011 pe bai'n dewis ymgeisio ar restr y Gogledd. Fe newidiwyd y system yn sgil yr etholiadau diwethaf.

Y broblem yw nad oes 'na sicrwydd y bydd Plaid Cymru yn ennill yr un sedd rhestr yn y Gogledd y tro nesaf os ydy'r gefnogaeth i Lafur ar lefel etholaethol yn parhau i ddadmer. Fel yn y Canolbarth a'r Gorllewin mae'n ddigon posib mai gwobrwyon cysur Llafur fydd rhai o seddi rhanbarthol y Gogledd y tro nesaf.

Gallai Dafydd chwilio am sedd mewn rhan arall o Gymru wrth gwrs. Fe benderfynodd beidio gwneud hynny y tro diwethaf am resymau personol a theuluol. Pe bai'n teimlo'n wahanol y tro hwn mae 'na ambell i gyfle o gwmpas yn enwedig os ydy'r Ceidwadwyr yn San Steffan yn cadw at eu bwriad i ddiddymu'r gwaharddiad ar unigolion rhag ymgeisio am sedd etholaeth a sedd rhestr ar yr un pryd.

Mae Merthyr, lle wnaeth Dafydd gychwyn ei yrfa wleidyddol, yn un posibilrwydd. Fe fyddai'n rhyfeddod pe na bai uned datblygu newydd Plaid Cymru yn targedi'r etholaeth honno. Yn fwy atyniadol efallai fyddai etholaeth y gwnaeth Dafydd ei "hennill" yn etholiad Ewropeaidd 1994 sef Maldwyn. Gyda Mick Bates yn ymddeol hwyrach y bydd yn rhaid i'r Democratiaid Rhyddfrydol ail-baentio'r slogan "Wigley out" yna yng Nghomins Coch!

Rialtwch

Vaughan Roderick | 16:44, Dydd Sul, 6 Medi 2009

Sylwadau (0)

Scarfe_243x175.jpg

Trwy hap a damwain fe drodd yr wythnos ddiwethaf yn dipyn o "wythnos thema" ar y blog.

Mae'r demtasiwn i gynnwys y clip bach yma o "Yes Minister" ar Rialtwch yn amhosib ei gwrthsefyll!

Dyma Syr Wmffra, Bernard a Jim Hacker druan yn trafod union ystyr geiriau.

Sut mae dilyn clasur fel 'na? Gyda ffilm o ddefaid kamikaze Dyffryn Ogwen, dyna sut!

O ba fodd y cwymp y maharen? Clasur bach o Cnex sy nesaf.

Roeddwn i wedi bwriadu cynnwys y ffilm olaf cyn hyn ond fe aeth hi ar goll rhywle yn y storfa! Dyw Mebyon Kernow ddim yn cael amser ar deledu neu radio ar gyfer darllediadau gwleidyddol. Yn ystod etholiad Ewrop fe gyhoeddodd y blaid y darllediad (hynod broffesiynol) yma ar y we.

Cwestiwn

Vaughan Roderick | 00:08, Dydd Sul, 6 Medi 2009

Sylwadau (8)

telcym.jpgRwy'n tueddu cadw allan o gemau gwleidyddol y byd darlledu. Os oeddwn i eisiau bod yn fanajer fe fyswn wedi dewis y llwybr hwnnw blynyddoedd yn ôl!

Ar y llaw arall, fel gwyliwr, onid oes gen i'r hawl i ddisgwyl i sylwebaeth chwaraeon S4C ar Freeview fod yn Gymraeg? Beth ar y ddaear sy'n digwydd yn fan hyn? Cyn i S4C botsio ym myd darlledu Saesneg oni ddylai'r sianel sicrhau gwasanaeth teilwng i'r Cymry Cymraeg?

*Post ynghylch Sgarlets v Leinster yw hwn. Ai fi oedd yr unig un oedd yn methu'n lan cael sylwebaeth yn y Gymraeg? Ta beth, onid y Gymraeg ddylai fod yn "default" ar S4C? Pam ar y ddaear y dylwn i "bwyso'r botwm coch" er mwyn gwylio'r "Sianel Gymraeg" yn y Gymraeg?

Diweddariad (Llun) Mae S4C wedi gadael y sylw yma.

Mae S4C yn ymddiheuro am y trafferthion sydd wedi parhau i'n gwylwyr gyda'r dewis iaith ar y sylwebaeth chwaraeon. Ry'n ni'n gobeithio datrys y trafferthion hynny erbyn dydd Sadwrn. Yn y cyfamser, dim ond sylwebaeth Gymraeg fydd ar gael ar gêm Cymru v Rwsia nos Fercher. Mae'n wir ddrwg gennym am yr hyn sydd wedi digwydd, a hoffwn sicrhau'n gwylwyr ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddatrys y sefyllfa. Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C

Mae Garffild yn hen gyfaill i mi ac yn gythraul o foi da. Gyda lwc dyma ddiwedd ar y broblem. Rwy'n croesi fy mysedd!

Finito

Vaughan Roderick | 16:22, Dydd Gwener, 4 Medi 2009

Sylwadau (3)

jones.jpgMae Syr Wmffra wedi gadael yr adeilad! Corporal Jones sy'n rhedeg pethau yn swyddfeydd y Comisiwn erbyn hyn a barnu o'r awyrgylch o banig sy'n sgubo trwy DÅ· Hywel.

Yn sgil llythyrau Nick Bourne a Cheryl Gillan mae aelodau o'r pleidiau eraill wedi dechrau lleisio'u gwrthwynebiad i benderfyniadau'r Comisiwn. Yn eu plith mae'r cyn-weinidog Iaith Jenny Randerson. Mae hi'n dweud hyn;

"The reaction to the scrapping has been very strong and I believe that people all across Wales should have the right to read what their Assembly Members say in the two languages of Wales. The Assembly Commission has to rethink its decision and reinstate this bilingual service for the National Assembly of Wales, for its integrity and for the benefit of the Welsh language"

Yn y cyfamser mae Chris Franks, cynrychiolydd Plaid Cymru ar y Comisiwn, yn honni ei fod wedi gwrthwynebu'r cynlluniau o'r cychwyn ond bod cofnodion y Comisiwn wedi methu nodi hynny. Mae Mr Franks wedi cwrdd a Claire Clancey heddiw i ddatgan ei farn "nad yw'r mater yma ar ben".

Yn bersonol rwyf o'r farn bod y mater ar ben a bod cynlluniau'r comisiwn ynghlylch cyfiethu'r cofnod yn gwbwl gelain. Fe ddaw cadarnhad swyddogol a gwahoddiad i'r angladd yn y man. Mwynhewch eich penwythnos.

DIWEDDARIAD Mae aelodau o'r pedair plaid yn cynnal trafodaethau gyda'r bwriad o gyflwyno cynnig yn y cynulliad i wyrdroi penderfynniad y Comisiwn. RIP!

Cracio...

Vaughan Roderick | 15:22, Dydd Gwener, 4 Medi 2009

Sylwadau (0)

sir-humphrey-2.jpg
Fe fydd Syr Wmffra'n dechrau poeni! Mae'r arweinydd Ceidwadol Nick Bourne wedi ysgrifennu at Dafydd Elis Thomas gan ddweud hyn;

I have been very surprised and also concerned about the Commission's decision to halt translation of English language contributions in our Plenary proceedings into Welsh. This translation service is something that has occurred in our National Assembly since its inception and I believe is embedded in the way that we approach language issues. I have discussed this matter with William Graham as our Commissioner, who is certainly surprised at the decision being taken in the way that it was and believes that more reflection is needed. Paul Davies, Shadow Minister for the Welsh Language, shares my concerns

Yn ogystal mae Cheryl Gillan wedi ysgrifennu at Peter Hain gan ddweud hyn:

The 1993 Welsh Language Act established that public bodies have a duty to treat Welsh and English on an equal basis. If the Welsh Assembly, itself, ceases to treat Welsh and English on the basis of equality in its own publication of proceedings, it would seem to send out a contradictory message about support for the Welsh language. This seems particularly pertinent given that the Welsh Language LCO is currently being pressed by the Welsh Assembly Government.

Mae ambell un wedi gofyn pa gamau y gallai'r cynulliad gymryd i orfodi i'w Comisiwn ufuddhau i'r Cynllun Iaith a basiwyd yn unfrydol ddwy flynedd yn ôl. Mae'r ateb yn ddigon syml.

Deddf Llywodraeth Cymru (2006)

27. (6) The Assembly may give special or general directions to the Assembly Commission for the purpose of, or in connection with, the exercise of the Assembly Commission's functions.

Gall y cynulliad fynnu cael ei ffordd felly. Rhag ofn eu bod wedi anghofio mae'n werth nodi pwy wnaeth baratoi'r Cynllun Iaith. Y comisiwn- neu o leiaf y "comisiwn cysgodol" oedd yn bodoli cyn i ddeddf 2007 ddod i rym. Mae rhagair y cynllun yn cynnwys y frawddeg yma;

"Er bod y Cynllun hwn yn berthnasol i'r Cynulliad, y Comisiwn fydd yn bennaf gyfrifol am ei roi ar waith"

Oedd aelodau'r cynulliad yn gwybod bod "rhoi ar waith" yn golygu "anwybyddu'n llwyr", tybed?

Syr Wmff a fflim-fflam

Vaughan Roderick | 10:52, Dydd Gwener, 4 Medi 2009

Sylwadau (5)

yes_minister_humphrey.jpgMae'n anodd gor-ddweud ynghylch pa mor gandryll y mae ambell i aelod cynulliad ynglŷn â'r ffrae rhwng y Comisiwn a'r Bwrdd Iaith. Mae sawl pwynt diddorol wedi eu codi gan aelodau ers iddyn nhw ddechrau cribo'n fan trwy gofnodion y comisiwn a llythyr Claire Clancy at y Bwrdd.

Er enghraifft mae'n werth darllen yr argymhellion ar gyfer ("Author name; Claire Clancy") y ddogfen wnaeth gynnwys yr argymhelliad i roi'r gorau i gyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg yn y cofnod yn y lle cyntaf. "We are not intending to do less but to improve what we are able to deliver with the recources available to us" medd y ddogfen. Cewch chi farnu os ydy rhoi'r gorau i gyfieithiad yn "improvement" ai peidio. Fe fyddai rhai o'r farn ei bod yn gyfystyr â "gwneud llai"!

Wrth droi at lythyr Ms. Clancey at y Bwrdd Iaith mae un AC wedi codi dau bwynt diddorol.

Yn gyntaf gan fod y comisiwn yn mynnu nad oes a wnelo Cynllun Iaith y Cynulliad unrhyw beth â nhw sut ar y ddaear mae ganddyn nhw'r hawl i ofyn i'r Bwrdd gymeradwyo newid yn ei gynnwys? Fe fyddai hyd yn oed Jim Hacker wedi sbotio'r anghysondeb yn y rhesymeg!

Yn ail mae'r aelod yn cwestiynu honiad Ms Clancy bod fersiwn drafft o'r Cynllun Iaith yn cynnwys y "geiriad cywir" a bod rhywun yn rhywle wedi ei newid am resymau oedd yn "well intentioned but misguided". Mae'n fwy synhwyrol yn ôl yr aelod i gredu bod y fersiwn gwreiddiol yn wallus a bod rhywun wedi ei gywiro.

Mae'n bosib amau hyd yn oed bod y geiriad gwreiddiol yn rhan o ymdrech blaenorol i roi'r gorau i gyfieithu'r Cofnod a bod un o swyddogion y comisiwn wedi sbotio hynny. Wrth gwrs dim ond y math o berson sy'n credu bod yr Americanwyr wedi ffugio glanio ar y lleuad a bod Elvis yn byw mewn bwthyn ym Mhenmachno byddai'n credu rhywbeth felly!

Fe wna i roi'r gair olaf (am y tro) i Major Alan. Draw ar ei mae'r Uwchgapten yn dweud hyn;

"Why is it so difficult for the National Assembly to understand that bilingual accounts of proceedings are totally irrelevant, but absolutely essential?"

Pan mae arbenigwr ar strategaeth filwrol yn awgrymu bod hi'n bryd ildio efallai y byddai'n gall i wrando!



Sbinio

Vaughan Roderick | 10:10, Dydd Gwener, 4 Medi 2009

Sylwadau (0)

laundrette150.jpgY Democratiaid Rhyddfrydol sy'n tueddi ei chael him am sbinio canlyniadau etholiad mewn taflenni ond go brin eu bod erioed wedi bod cweit mor ddigywilydd â Phlaid Cymru ym Mro Morgannwg! Dyma i chi sbin gystal ag unrhyw londrét!

Mewn taflen mae'r Blaid yn brolio ei bod yn "gydradd gyntaf" gyda'r Ceidwadwyr a Llafur yn etholiad Ewrop. Yn sicr dwy hynny ddim yn wir o safbwynt pleidleisiau crau. Efallai bod y Blaid yn cyfeirio at y ffaith bod y tair plaid wedi ennill sedd yr un. Os felly pam gadael UKIP allan?

Mae'r daflen yn mynd yn ei flaen i honni bod Plaid Cymru "o fewn 750 o bleidleisiau i fod yn ail y Mro Morgannwg". Mae hynny'n ffeithiol gywir. Dyma ganlyniad y Fro yn etholiad Ewrop.

Ceidwadwyr 7611
Llafur 4025
UKIP 3718
Plaid Cymru 3275
Democratiaid Rhyddfrydol 2138

Onid yw'r blaid wedi gadael ambell i beth allan? Y ffaith ei bod yn bedwerydd, er enghraifft.

Wel...

Vaughan Roderick | 10:44, Dydd Iau, 3 Medi 2009

Sylwadau (4)

sir-humphrey.jpgErs i Gwion Lewis danio'r ergyd gyntaf yn y rhifyn newydd o "Barn" mae'r ffwdan ynghylch perthynas comisiwn y cynulliad a'r bwrdd iaith wedi magu stem.

Y stori hyd yma. Fe bleidleisiodd y cynulliad llawn o blaid mabwysiadu cynllun iaith statudol. Y tu ôl i ddrysau caeedig fe benderfynodd comisiwn y cynulliad (sef Dafydd Elis Thomas, Chris Franks, William Graham, Peter Black a Lorraine Barret ) anwybyddu'r penderfyniad hwnnw ar ôl i'w Syr Wmffras ganfod esgus cyfreithiol i wneud hynny.

Os ydy'r symudiad bach slei yna'n llwyddo y Cynulliad fydd yr unig gorff cyhoeddus o unrhyw bwys yng Nghymru na fydd yn atebol i'r Bwrdd Iaith. Ar sail y triciau Syr Wmfraidd yma penderfynodd y comisiwn gwtogi ar gyfieithu'r cofnod heb ymgynghori naill ai a'r Bardd Iaith na neb arall y tu fewn neu'r tu fas i'r cynulliad.

Yn y cyd-destun hwnnw rwyf am wneud rhywbeth nad wyf yn gwneud yn aml sef dyrchafu sylw i fod yn bost. Wrth ymateb i ar "Freedom Central" mae Gruffudd Prys yn cyflwyno dadl rymus dros beidio gadael i'r comisiwn a'r cynulliad blismona ei hun. Dyma sylw Gruffudd.

Peter Black ar Freedom Central:

"If a language is to survive and flourish then it must be used as part of daily life and business. It follows therefore that in a body such as the National Assembly we should be using our resources to enable our business to be conducted blingually rather than producing what is effectively a retrospective record that adds nothing to that aim. For Rhodri Glyn Thomas and others it appears the bilingual record of proceedings is symbolic rather than functional. At £250,000 a year that is a very expensive symbol."

Y Cofnod, bron yn ddiamheuaeth, sy'n ffurfio'r sail i gyfieithu peirianyddol Google Translate Cymraeg. Caiff ei ddefnyddio ganddynt fel corpws dwyieithog i gynhyrchu cyfieithiadau newydd ar sail tebygolrwydd ystadegol. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio gan y criw sy'n gyfrifol am raglen debyg Apertium ar gyfer eu rhaglen gyfieithu peirianyddol hwythau. Gweler https://xixona.dlsi.ua.es/corpora/UAGT-PNAW/README am enghraifft o'r Cofnod wedi'i baratoi ar gyfer defnydd peiriant cyfieithu.

Dylai potensial rhaglenni cyfieithu o'r fath i'n galluogi i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob rhan o'n bywyd a'n busnes beunyddiol fod yn amlwg i unrhyw un sydd wedi defnyddio'r feddalwedd.

Yn amlwg felly, yn hytrach nag ychwanegu "nothing to that aim" (fel y dywed Peter Black), bydd y Cofnod yn cyfrannu'n sylweddol at hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg mewn bywyd modern drwy effeithlonni a hwyluso cyfieithu yn aruthrol.

Mae'r budd anuniongyrchol hwn a gawn o'r Cofnod yn rhoi swyddogaeth ymarferol, hynod werthfawr i rywbeth y mae Peter Black, yn ei ddiffyg dealltwriaeth ynglÅ·n ag anghenion iaith fodern, yn ystyried yn 'symbolaidd' ac felly'n ddiwerth.

Efallai bod agwedd symbolaidd i'r Cofnod, ond am £250,000 y flwyddyn, mae cyfraniad y Cofnod at ostwng costau ac amser cyfieithu - o hyn hyd dragwyddoldeb - ynddo'i hun yn cynrychioli un o fargeinion y ganrif.

Google Translate: https://translate.google.com/#
Apertium: https://www.apertium.org/
humphrey2.jpg
Diweddariad; Fel y Bwrdd Iaith mae Cymdeithas yr Iaith yn awr yn cymryd cyngor cyfreithiol. Mewn un ystyr fy hoffwn i weld y peth yn cyrraedd llys. Fe fyddai'n bleser gweld pa bynnag Syr Wmffra sy'n gyfrifol yn ceisio esbonio pam y dylai'r comisiwn gael anwybyddu ysbryd a bwriad Deddf Iaith 1993 yn ogystal ac ewyllys y Cynulliad ei hun. Gellid osgoi hynny wrth gwrs pe bai'r Cynulliad yn gorchymyn i'r comisiwn ufuddhau i'w dymuniadau. Wedi'r cyfan, pwy yw'r meistr a phwy yw'r gwas yn y berthynas hon?

ANHYGOEL!

Vaughan Roderick | 16:50, Dydd Mercher, 2 Medi 2009

Sylwadau (2)

clancy.jpgMae'n rhyfedd beth mae dyn yn ffeindio ar beirannau ffotogopio weithiau! Beth yw hyn? Diawcs, llythyr gan brif weithredwr y cynulliad Claire Clancy at y Bwrdd Iaith yn amddiffyn hawl cyfreithiol y comisiwn i dorri yn ol ar gyfieithu'r cofnod. Dyna gyd-ddigwyddiad!

Mae'r llythyr yn cyfaddef bod geiriad y cynllun iaith yn amwys. Efallai bod hynny'n wir am y fersiwn Saesneg. Yn sicr dyw e ddim yn wir am y geiriad Cymraeg. Serch hynny mae Ms. Clancy yn mynnu nad yw'r polisi newydd yn groes i'r cynllun. Mae'n mynd yn ei blaen i ofyn i'r bwrdd gymeradwyo newidiadau i'r cynllun i wneud hynny'n ddiamwys. Nonsens yw hynny wrth reswm. Os ydy'r polisi yn cydymffurfio a'r cynllun pam bod angen newid geiriad y cynllun?

Mae 'na rywbeth llawer, llawer mwy rhyfedd i ddod. Mae'n amlwg o'r llythyr bod y bwrdd wedi bygwth dwyn sancsiynau yn erbyn y Cynulliad o dan Deddf Iaith 1993 oherwydd y newid polisi. Mae'r ymateb i'r bygythiad hwnnw yn gyfan gwbwl anhygoel.

Mae Ms. Clancy yn honni nad oes angen i'r Cynulliad gael cynllun iaith o gwbwl a nad oes 'na unrhyw werth statudol i'r cynllun iaith presenol! Dywed y llythyr "any reference to statutory powers is innapropriate" ac mae'n cynnig "dialogue on the basis of voluntary co-operation."

Gadewch i ni fod yn gwbwl eglur beth sy'n mynd ymlaen yn fan hyn. Fe bleidleisiodd cyfarfod llawn o'r cynulliad i fabwysiadu cynllun iaith. Roedd y cynllun hwnnw'n datgan ei fod wedi ei lunio yn unol â chymal 21 o ddeddf iaith 1993. Hynny yw bod y cynllun yn un statudol.

Nawr mae'r comisiwn a'i swyddogion yn chwilio ym mhob twll a chornel am esgusodion cyfreithiol i anwybyddu ewyllus a phleidlais y cynulliad llawn. Y cyfan sydd angen i wneud y cynllun yn un statudol yw i'r comisiwn ei gymeradwo. Roedd y cynulliad yn dymuno cael cynllun iaith statudol. Mae Dafydd Elis Thomas, Chris Franks, William Graham, Peter Black, a Lorraine Barret wedi penderfynnu rhwystro hynny rhag digwydd.

Pe bai unrhyw gorff cyhoeddus arall yng Nghymru yn ymddwyn fel hyn fe fyddai aelodau'r cynulliad ar eu pennau fel tunnell o frics. Anghredadwy.

DIWEDDARIAD Mae Bwrdd yr Iaith yn cymryd cyngor cyfreithiol ynghylch pa gamau i gymryd nesaf.

DIWEDDARIAD 2 Deallaf fod y Gweinidog Treftadaeth Alun Fred Jones wedi 'sgwennu at y comisiwn i "fynegi pryderon"

Ym Marn Gwion

Vaughan Roderick | 13:02, Dydd Mercher, 2 Medi 2009

Sylwadau (3)

trefechan300.jpgDoes neb yn deall dalltings sefyllfa gyfreithiol y Gymraeg yn well na'r bargyfreithiwr Gwion Lewis awdur "Hawl i'r Gymraeg". Fe ddylai ei sylwadau yn y rhifyn newydd o "Barn" achosi tipyn o bryder i Gomisiwn y Cynulliad felly.

Mae'n debyg eich bod yn cofio i'r Comisiwn gyhoeddi yn ystod yr Eisteddfod na fyddai cyfraniadau Saesneg yn y siambr yn cael eu cyfieithu i'r Gymraeg yn y cofnod swyddogol o hyn ymlaen. Fe fyddai rhai yn amau bod y cyhoeddiad wedi ei amseru'n fwriadol yn y gobaith y byddai'n mynd ar goll yng nghanol bwrlwm newyddion y brifwyl. I ddyfynu Francis Urquhart "you may say that. I couldn't possibly comment".

Ta beth, mae Gwion o'r farn bod y newid yn anghyfreithlon. Wedi'r cyfan, fel mae Gwion yn dweud, mae cyhoeddi'r cofnod yn ddwyeithog yn rhan o gynllun iaith y cynulliad ac mae'r cynllun hwnnw, fel pob cynllun iaith arall, yn gytundeb cyfreithiol. Dyma esboniad Gwion.

"Cyn gynted ag y bo modd ar ôl y cyfarfod, cyhoeddir cofnod gair-am-air dwyieithog o bob Cyfarfod Llawn..." (adran 4.8). Dyna'r addewid a wnaeth y Cynulliad Cenedlaethol yng Ngorffennaf 2007, pan gyhoeddodd ei gynllun iaith yn unol â gofynion y ddeddf iaith bresennol, Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Nid datgan delfryd y gellid ei anghofio er mantais ariannol oedd y nod: yr oedd arwyddocâd cyfreithiol i'r datganiad gan y byddai dyletswydd ar Fwrdd yr Iaith Gymraeg, ac yn y pen draw, Gweinidogion Cymru, i sicrhau fod y cynllun iaith yn cael ei wireddu."

Mae Gwion yn tynnu sylw at y ffaith bod Cynllun Iaith y Cynulliad yn datgan "na fydd unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i'r Cynllun hwn heb gymeradwyaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg".

Dyw'r bwrdd ddim wedi ystyried na chymeradwyo'r newid hyd yma. Mae'n anodd i leygwr felly anghytuno â Gwion wrth iddo ddweud "mae'r newid polisi hwn yn anghyfreithlon ac rwy'n ffyddiog y byddai'r Uchel Lys yn ei ddileu pe bai cais am adolygiad barnwrol".

Fedra i ddim gweld unrhyw wall yn y rhesymeg. Efallai y byddai'n syniad i Dafydd Elis Thomas, sy'n cadeirio'r comisiwn, ofyn am farn arbenigol. Rwy'n sicr y byddai rhywun fel un o gyn-gadeiryddion y bwrdd iaith yn fodlon cynnig cyngor!

Ta beth mae'n werth prynu Barn i ddarllen dadl Gwion yn ei chyfanrwydd.

_black203.jpgDiweddariad; Mae rhywun wedi tynnu fy sylw at y post gan Peter Black, sy'n aelod o'r comisiwn, ar "Freedom Central" ar Awst 18fed. Dywed Peter;

"The decison to no longer produce a fully bilingual record of proceedings is not a breach of the Commission's own Welsh Language scheme."

Gellir darllen cynllun iaith y cynullad yn (pdf). Mae'r frawddeg allweddol ar dudalen 14.

"Cyn gynted ag y bo modd ar ôl y cyfarfod, cyhoeddir cofnod gair-am-air dwyieithog
o bob Cyfarfod Llawn
, ynghyd â chofnod o bob cyfarfod Pwyllgor gyda chyfieithiad
Saesneg o unrhyw gyfraniadau Cymraeg."

Pe bai hynny ond yn golygu cyfieithu cyfraniadau mewn cyfarfodydd llawn o'r Gymraeg i'r Saesneg ni fyddai angen nodi bod y rheolau ar gyfer y pwyllgorau'n wahanol. I fod yn deg i Peter mae'r geiriad yn y fersiwn Saesneg o'r cynllun yn fwy amwys. Serch hynny dydw i ddim yn gweld sut ar y ddaear y gall y comisiwn bod mor ddi-hid ynghylch y sefyllfa gyfreithiol.


Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 10:13, Dydd Mercher, 2 Medi 2009

Sylwadau (0)

exchange.jpgMae nifer o bobol wedi tynnu fy sylw at "" teclyn newydd sy'n cyfieithu Cymraeg yn rhyfeddol o dda. Mae 'na ragor o wybodaeth ar "". Draw yn Awstralia mae Andy Bell wedi bod yn cael sbort da'r teclyn ar ei .

Mae 'na erthygl hynod ddiddorol ar safle'r Telegraph gan Simon Heffer ynghylch sefyllfa wleidyddol yr Alban. Os ewch chi y tu hwnt i'r rhethreg mae'n hynod o graff.

Telegraph

Mae darllen yr erthygl yma ar yr un safle yn gwneud i rywun sylweddoli pa mor wahanol i'w gilydd yw cyfundrefnau addysg Cymru a Lloegr erbyn hyn.

Telegraph

Ar y blogs mae Alwyn ap Huw ar ei orau a "Syniadau" yr un mor feddylgar ac erioed wrth drafod newid ieithyddol yn Ysgol Trimsaran.

Hen Rech Flin

Syniadau



Tic Toc

Vaughan Roderick | 14:16, Dydd Mawrth, 1 Medi 2009

Sylwadau (0)

seneddmorgan.jpgDyma ni ym Mis medi felly. O'r diwedd mae gobaith i ni gael atebion i rhai o'r cwestiynau y mae pawb yn y Cynulliad wedi bod yn ei gofyn.

Ar y 29ain o Fedi fe fydd Rhodri Morgan yn dathlu ei benblwydd yn saethdeg ac os ydych chi'n credu ei fantra cyson fe fydd hynny hefyd yn ddiwedd, neu'n ddechrau ar ddiwedd, ei gyfnod fel Prif Weinidog Cymru. Ers sbel mae Rhodri wedi glynu at yr un fformiwla sef ei fod yn bwriadu sefyll i lawr ar ei ben-blwydd os nad oes 'na etholiad cyffredinol neu ryw argyfwng arall yn rhwystro fe rhag gwneud hynny.

Nawr pe bai Rhodri yn dymuno cadw at ei union eiriau fe fyddai'r etholiad arweinyddol eisoes yn cael ei gynnal er mwyn iddo gael rhoi ei dŵls ar y bar a'i ffidl yn y to ar union ddiwrnod ei benblwydd. Gan nad yw hynny'n digwydd gallwn gymryd y bydd hi'n closio at y Nadolig cyn i'r arweinydd newydd gael ei draed dan y bwrdd.

Mae hynny'n golygu y bydd y penderfyniadau pwysig ynghylch cyllideb y llywodraeth yn 2010-2011 eisoes wedi eu gwneud. Bydd 'na fawr o gyfle i newid cyfeiriad na blaenoriaethau cyn yr etholiad cynulliad nesaf felly. Cyn hynny wrth gwrs fe fydd 'na etholiad cyffredinol, etholiad lle y gallai Llafur gael hamrad.

Ym marn llawer o fewn y blaid gan nad yw'r arweinydd newydd eisoes wedi ei ddewis, gwell fyddai aros tan ar ôl yr etholiad cyffredinol. Gellid wedyn bortreadu dewis yr arweinydd fel rhan o'r broses o adnewyddu'r blaid ac fe fyddai fe neu hi yn rhydd o gyhuddiadau o fod yn gysylltiedig a'r "ancien régime".

Yn wrthrychol mae'r dadleuon o blaid oedi yn gwneud synnwyr perffaith. Yr unig ddadl yn erbyn, hyd y gwelaf i, yw nad yw Rhodri yn dymuno cael ei weld fel dyn sy'n mynd yn ôl ar ei air. Mae hynny'n ddealladwy. Ar ôl dweud hynny mae cymryd clatsied dros y tîm hefyd yn beth digon anrhydeddus i wneud.

Un peth bach arall. Mae Medi'r 29ain yn ystod cynhadledd Brydeinig y Blaid Lafur. Ydy Rhodri, mewn gwirionedd, yn bwriadu tynnu'r gwynt o hwyliau'r ymdrech i gyhoeddi'r neges Llafur yn y ffenest siop fawr olaf cyn etholiad cyffredinol?

Mwynder Medi

Vaughan Roderick | 11:46, Dydd Mawrth, 1 Medi 2009

Sylwadau (2)

Dyma fi felly yn ôl yn y gwaith a diawch mae'n dawel 'ma! Rwy'n gobeithio eich bod wedi mwynhau'r prydiau parod wnaeth ymddangos ar y blog dros y pythefnos diwethaf.

Roeddwn wedi gobeithio cyflwyno gloddest o brydiau ffres i chi o heddiw ymlaen ond dyw'r awen na'r clecs ddim wedi dod eto! Yn y cyfamser dw i wedi agor cyfri ar "" fe gawn weld beth ddaw o hwnna!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.