Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tafod Elai
Martyn a Manon Martyn Geraint yn cefnogi Apêl Seren Fach "Cancer Research UK"
Chwefror 2004
Fe wnaeth cast "Panto Pop" sy'n cynnwys Martyn Geraint ac Eddie Butler (Iwan John), ddisgleirio bywyd un seren lach leol, o Lanbedr Pont Steffan ar ddydd Gwener 12 Rhagfyr 2003.

Mae'r cast yn falch o gefnogi apêl Seren Fach "Cancer Research UK" ar gyfer mis ymwybyddiaeth cancr plant.

Mae Manon Williams sy'n bedair blwydd oed yn seren fach wrth iddi ddisgleirio trwy ei thriniaeth am leukaemia. Mae Manon yn derbyn triniaeth ac yn ymweld â'r ysbyty yn aml, pob 6 wythnos.

Mae Aled, tad Manon yn dweud: "er ei bod ond yn bedair blwydd oed, nid yw Manon yn cwyno ac mae hi'n sylweddoli bod y driniaeth mae hi'n ei derbyn yn ei helpu hi. Wrth gwrs mae 'na ddiwrnodau da a diwrnodau drwg ond mae hi'n ymwybodol bod y driniaeth yn mynd i wneud hi'n ffit ac yn iach."

Mae Martyn Geraint, seren y sioe yn dweud "Rwy'n falch iawn i gefnogi'r ymgyrch yrna, a pha ffordd well o wneud hynny na mewn Panto sydd yn dod a chymaint o hapusrwydd i bob plentyn."

Mae cyfarwyddwraig adran gyfathrebu "Cancer Research UK", Susan Osborne, yn dweud: "Rydyn ni'n gwobrwyo yn ystod mis Rhagfyr, mis ymwybyddiaeth cancr plant oherwydd yn ein llygaid ni mae pob plentyn sy'n dioddef â chancr yn seren fach".

"Cancr yw'r achos mwyaf o farwolaeth mewn plant rhwng 1 a 14 oed. Darganfyddir tua 1,450 o phlant â'r afiechyd bob blwyddyn. Hynny yw, 1 ym mhob 600."

"Beth bynnag mae yna newyddion da. Diolch i ymchwil a datblygiad triniaethau, mae'r cyfartaledd o oroesiad wedi gwella am pob math o gancr plant dros y 20 mlynedd diwethaf. Heddiw mae mwy na saith allan o ddeg o blant wedi derbyn y driniaeth yn llwyddiannus ac mae dros 80% o'r plant yn goroesi y leukaemia mwyaf cyffredin."

Mae Dawn Williams, Swyddog Codi Arian yn Ne Cymru, yn dweud, "gall y gymuned ddefnyddio nifer o ffyrdd gwahanol i godi arian a chefnogi ein plant. Gan nad ydyn ni yn derbyn bron dim gan y llywodraeth mae'r cymorth ariannol yn dod trwy gefnogaeth pobl leol ar draws Cymru fel y gallwn ni barhau i ymchwilio i driniaethau gwell am gancr.

Os ydych chi'n adnabod Seren Fach hyd at 16 oed yr hoffech chi iddyn nhw gael cydnabyddiaeth am eu dewrder gyda thystysgrif Seren Fach neu os hoffech chi helpu codi arian yn eich cymuned leol trwy werthu bocs o fathodynnau sêr pin arian cysylltwch â ni ar 02920 224386.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý