Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tafod Elai
Afon Ob, Gwlad Pwyl Prosiect Gwlad Pwyl
Mai 2004
Mae criw o aelodau hÅ·n yr Urdd wrthi'n codi pres ar gyfer Cartref Plant yng Ngwlad Pwyl.

Maent yn ymweld â'r cartref ym mis Awst ac wrthi'n brysur yn gwneud gweithgareddau gwahanol er mwyn gallu rhoi gymaint a maent yn gallu i'r plant yno. Mae 5 o'r criw yn dod o Ysgolion Cyfun Cymraeg Rhydfelen a Llanhari. Mae Enfys Dixey, Rhianydd Evans a Sara Thomas o Rydfelen a Carly Jones a Johnathan Philips o Ysgol Llanhari.

Ar benwythnos Ebrill 16-17 2004, aethom ni, Grŵp Prosiect Pwyl 2004, o De Ddwyrain Cymru i Lanllyn i ddringo'r Wyddfa yn Eryri, yr holl ffordd i'r copa! Roedden ni wedi penderfynu gwneud y daith i godi arian ar gyfer y cartref plant anghenus yn Legnica, Gwlad Pwyl. Byddem yn ymweld â'r cartref ym mis Awst 2004. Roedd pawb wedi bod yn brysur ers misoedd yn codi arian ac yn barod am yr her!

Arhosom yng Nglanllyn, a'r bore wedyn roedd pawb yn falch i fod gael brecwast yn ein boliau ar gyfer y daith. Teithiodd pawb yn y bws mini heibio Tryweryn (a achosodd deimladau gwlad garol) i waelod yr Wyddfa. Serch yr oerfel roeddem yn barod i fynd!!

Yn ystod y dair awr heriol tuag at ein nod cerddasom dipyn! "Roedd y daith yn hir ac yn galed, roedd yr achos yn rhoi'r cymhelliant i mi gario ymlaen. Grêt!"- Ben

Siomedig oedd y copa, oherwydd y niwl, ond roedd yna signal ffôn wych er mwyn gallu ffonio adref i dorri'r newyddion gwych. Haws oedd y ffordd i lawr er gwaetha'r gwynt ond cwympodd Enfys ar ei thîn beth bynnag!

Cawsom gyfle i weld y llynnoedd a rhai o adfeilion y gwaith copr cyn dychwelyd yn hapus i'r bws. Effeithiwyd coesau Jonathan gan yr holl gerdded egnïol.

Roedd y daith werth pob cam o'r ymdrech, yn enwedig gan ein bod wedi codi oddeutu £2,000. Fydd yr arian hyn o fudd mawr i'r cartref plant anghenus yn Legnica, Gwlad Pwyl. Byddwn yn ymweld â'r cartref ym mis Awst 2004.

Diolch i staff Glanllyn am eu croeso a'r adnoddau i gyd. Diolch hefyd i Alun a Gwydion a dywysodd ni lan a lawr y mynydd mawr yn ddiogel a hefyd i bawb ddaeth gyda ni a gyfrannodd i'r ymdrech a'r hwyl!!

Amy, Gwyneth, Enfys, Sara, Ben, David a Daniel.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý