Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tafod Elai
Cyn-Ddisgyblion Llanhari yn ceisio byw'n wyrdd?
Chwefror 2005
Roedd criw o ffrindiau o Gaerdydd yn ceisio cyrraedd y brig yn y gystadleuaeth newydd ar S4C
Roedd criw o ffrindiau o Gaerdydd yn ceisio cyrraedd y brig yn y gystadleuaeth newydd ar S4C i fabwysiadu ffordd werdd ac ecogyfeillgar o fyw.

Roedd y Ffordd Newydd o Fyw yn dilyn pum cartref gwahanol iawn wrth iddynt geisio eu gorau glas i leihau'r effaith ar yr amgylchedd drwy dorri lawr ar faint o garbon diocseid maent yn ei ryddhau i'r amgylchedd.

Bu Catrin Heledd, Siân Davies, Huw Grundy a Marc Real yn ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Llanhari ac maent bellach yn rhannu tŷ yn ardal Pontcanna o'r ddinas.

Dros yr wythnosau diwethaf, maent wedi bod yn cystadlu yn erbyn cartrefi ym Metws-y-Coed, Crymych, Merthyr Tudful a Llanfairfechan mewn ymgais i leihau eu mesurau carbon.

Mae'r pedwar wedi bod yn ffrindiau ers dyddiau ysgol ac fel yr eglura Marc, roeddent yn credu eu bod yn berffaith ar gyfer y sialens. "Da ni gyd yn gweithio oriau gwahanol felly mae'n rhaid i bawb fod yn annibynnol o amgylch y tÅ·. Ond fel criw, rym ni'n hen ffrindiau, yn yr ysgol 'da'n gilydd, a lot o'n teuluoedd yn hen ffrindiau.

"Mae'r tÅ· tri-llawr ym Mhontcanna yn anferth ac ar ben teras, felly mae'n anodd ei gadw'n dwym weithiau yn y gaeaf. Fe ddefnyddiom ni bob math o ddulliau o insiwleiddio, fel dyfeisiadau atal drafft, a dull rhad o wydr dwbl sy'n cael ei greu drwy sychu cling flim gyda sychwr gwallt rownd y ffenest.

Mae Marc yn bump ar hugain oed ac yn aelod o ddau grŵp roc - Johnny Mental, grŵp nu metal sy'n canu yn Saesneg ac Ashokan, grŵp Cyrnraeg ei iaith. Mae Ashokan yn recordio albwm newydd yn stiwdio Mighty Atom, Abertawe ar hyn o bryd. Mae hefyd yn gyfieithydd rhan amser ym Mryste.

Mae Huw yn Rheolwr Digwyddiadau yn y Gyfnewidfa Lo tra bod Catrin newydd ddechrau ar yrfa fel newyddiadurwr. Mae Sian hefyd newydd ddechrau swydd newydd fel gweinyddwraig gyda chwmni teledu yn y ddinas. Mae Marc yn cyfaddef nad oedd y criw yn wyrdd iawn, ond ers iddynt ddod yn rhan o'r rhaglen mae nhw wedi newid eu ffyrdd yn enwedig ers i'r tair iâr gyrraedd. Fe gawsom ni'r ieir o'r enw Ch-iâr-Iee, Miss Milly a Big Dave hefyd sydd wedi bod yn dodwy 2 neu 3 ŵy'r dydd," eglurodd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý