Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tafod Elai
Eurof Davies Y 'Great Welsh Run' er mwyn Sian
Mai 2005
Mae'n dymor gwisgo'r sgidie rhedeg, glei! Ar yr ail o fis Mai cynhaliwyd y Great Welsh Run o gwmpas Caerdydd am y pedwerydd tro.
Trefnwyr y 'ras' yw'r Gymdeithas Cystic Fibrosis, a'r bwriad yw codi cymaint ag y bo modd o bres i gynorthwyo gwaith y Gymdeithas hon.

Mae'r clefyd Cystic Fibrosis yn hynod o gyffredin ym Mhrydain Fawr ac fe effeithir dros 7,500 o blant a phobl ifanc gan yr aflwydd. Ar hyn o bryd does dim gwella o'r salwch a nod y Gymdeithas yw ariannu ymchwil pellach er mwyn ceisio darganfod ateb i'r afiechyd.

Bydd dwy ras ar yr ail o Fai - ras 5 milltir a 'ras hwyl', 2k o hyd. Yn y 'ras hwyl' bydd teulu cyfan o Maes y Dderwen yn rhedeg er mwyn codi cymaint o arian ag sy'n bosib at yr achos - Ann a Phil Angell, a'u meibion, Tomos sy'n 7 oed a Daniel sy' ond yn 5 oed ac yn ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Creigiau. Mae'r achos yn agos iawn at galon y teulu yma gan y byddant yn rhedeg dros Sian, nith Ann.

Merch ifanc o Alltyblacca ger Llanybydder, yw Sian, sy'n dioddef o'r cyflwr Cystic Fibrosis. Mae Sian wedi wynebu llawer o driniaethau dros y blynyddoedd, yn Llundain a Chaerdydd fel ei gilydd. Cefnogwch Sian, cefnogwch 'deulu'r Angell' - os am addunedu pres. Pob lwc, bawb!

A sôn am redeg ...

...croeso adre i Eurof Davies, Cwrt Tregarth! Tipyn o orchest! Wedi llwyddo i redeg marathon Llundain unwaith eto! Llongyfarchiadau Eurof, nid yn unig ar yr orchest ond am lwyddo i godi dros £500 ar gyfer Apêl Arch Noa.

Ar y pnawn Sul yr 17eg o Ebrill roedd dros 36,000 o redwyr yn aros i Syr Steve Redgrave ddechrau marathon Llundain ac yn eu plith roedd Eurof. Ar ôl misoedd o redeg ar hyd strydoedd Creigiau a Phentyrch roedd hi'n amser profi'r ffitrwydd. A ma' Eurof yn ffit! Llwyddodd i orffen mewn 3 awr a 33 munud. Amser gwych!

Er mai hon oedd yr wythfed marathon iddo redeg yn cynnwys Efrog Newydd a Brwsel, dyma'r cyflymaf iddo redeg marathon Llundain sy'n profi bod modd gwella 'da oedran! Diolch i bawb am eu cefnogaeth ac os am gyfrannu ymhellach - cysylltwch â'r Tafod.

Ni chlywodd Sarah, ar ôl iddo orffen, y geiriau 'byth eto' felly ymlaen â'r ymarfer ac i'r ras nesa!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý