Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tafod Elai
Blodau Dyn y blodau yn diddanu'r Merched
Ebrill 2007
Garddiwr proffesiynol yn rhoi gwersi i Ferched y Wawr y Garth.

Yn ystod misoedd yr haf, mae'n siŵr bod nifer fawr ohonom yn mwynhau gwylio'r amrywiaeth o raglenni garddio a geir ar y teledu. Un o'r uchafbwyntiau blynyddol yw Sioe Flodau Chelsea, pan fyddwn yn rhyfeddu at weledigaeth rhai o'r garddwyr wrth iddynt greu gerddi anhygoel wedi'u selio ar themâu diddorol. Dyna hefyd sy'n digwydd yn sioe'r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol, sef yr RHS, yng Nghaerdydd bob mis Ebrill erbyn hyn.

Un o'r garddwyr sydd wrthi'n brysur ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer y sioe honno yw Brian Jones o Faglan, Port Talbot, a buom yn ddigon ffodus i gael cwmni hyfryd a diymhongar Brian yn ein cyfarfod ar Fawrth l4, 2007.

Mae Brian yn darlithio yn yr Adran Arddwriaeth yng Ngholeg Pencoed ac mae ef, a'i fyfyrwyr wedi bod yn cystadlu yn yr RHS ac yn sioe Gardener's World ers sawl blwyddyn ac wedi ennill gwobrau aur yno am greu gerddi gwych. Cawsom weld lluniau'n dangos sut roedd y criw yn mynd ati o'r dechrau i benderfynu ar thema, gweithio ar y cynllun, dod o hyd i'r defnyddiau oedd eu hangen a dewis y llwyni, planhigion a'r blodau addas. Yna, gweld lluniau o'r gerddi gorffenedig - anhygoel, yn enwedig wrth i ni sylweddoli mai cyllid bach iawn oedd ganddynt a bod y myfyrwyr eu hunain yn gorfod talu am ddefnyddiau. Wrth gwrs, ar ôl ennill, roedd tipyn mwy o arian ganddynt i symud ymlaen at eu cynllun nesaf!

Y project nesaf yw dechrau paratoi ar gyfer sioe'r RHS yng Nghaerdydd ym mis Ebrill, ac mae'n ddigon posibl y bydd llawer iawn o bobl o ardal y Garth yn ymweld â'r safle eleni er mwyn gweld campwaith diweddaraf Brian!

Un pwynt pwysig iawn arall - wedi dysgu Cymraeg y mae Brian ac erbyn hyn, mae'n rhugl ac yn gallu siarad yn gyhoeddus yn huawdl. (Dylid nodi bod rhywfaint o'r diolch am hynny i Carol Penri, a ddisgrifiodd Brian fel dyn `lyfli' - roedd hi'n berffaith iawn!!) Diolch o galon iddo am ddod yr holl ffordd o Faglan i'n diddori!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý