Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tafod Elai
Clawr y Llyfr Medd a Maeth yng Nghymru
Medi 2003
Llyfr newydd am hanes bwyd
Rhoddir amheuaeth ar bwysigrwydd medd yn hanes Cymru mewn cyfrol newydd ar faeth a bwyd gan wasg Y Lolfa.

Gyda chymaint o gyfeiriadaeth at fedd yn ein traddodiad barddol, ystyriwyd medd fel diod cynhenid Gymreig pwysig, ond yn ôl y llyfr newydd Dysgl Bren a Dysgl Arian gan R. Elwyn Hughes, ymddengys mai prin iawn oedd yr yfed ar fedd gan drwch poblogaeth Cymru ar hyd y canrifoedd.

Yn ôl yr awdur "Dim ond gan yr Uchelwyr yn y llysoedd yr oedd medd a mêl mewn bri -mae'n anodd credu fod medd erioed wedi bod yn ddiod cyffredin ymhlith y werin Gymreig". Ond datgelir fod meddyglyn, sef medd gyda pherlysiau, yn ddiod a yfid yn aml am resymau meddyginiaethol yng Nghymru.

Esbonnir hefyd yn y llyfr bwysigrwydd bragod, sef cwrw wedi ei felysu gyda mêl, a diod griafol i hanes maeth y Cymry. "O bosib mae diod griafol, a ddisgrifiwyd, oedd y ddiod fwyaf Cymreig a mwyaf diddorol yn ein hanes," yn ôl yr awdur.


R. Elwyn Hughes
R. Elwyn Hughes
Dysgl Bren a Dysgl Arian gan Elwyn Hughes yw'r astudiaeth mwyaf manwl a chynhwysfawr erioed am hanes maeth ac arferion bwyta'r Cymry. Mae'n cynnwys dros 300 tudalen o ffeithiau, ystadegau a dadansoddi am arferion bwyta'r Cymry ac yn cynnwys pennod gyfan ar lyfrau coginio Cymraeg.

Ceir penodau hefyd ar fwydydd neilltuol Cymreig, cynhaliaeth o fyd natur, arferion bwyta ac yfed y Cymry, yn ogystal â hanes y Sgyrfi yng Nghymru, clefyd a gododd ei ben yn aml oherwydd undonedd y deiet Cymreig a diffyg fitamin C. Ac yn ôl Elwyn Hughes "oni bai am ddyfodiad tatws rhwng 1750 - 1900 mae'n bur amheus pa nifer ohonom fyddai ar ôl i drafod y materion hyn!"

Addysgwyd R. Elwyn Hughes ym Maesyfed ac yna yng Nghaergrawnt lle bu'n Ysgolor yn y gwyddorau naturiol. Daliodd swyddi Biocemeg ym Mhrifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Cymru. Mae'n awdur nifer helaeth o gyhoeddiadau ar hanes maetheg a gwyddoniaeth, ac mae bellach yn byw ym Mhentyrch.

Dysgl Bren a Dysgl Arian: Nodiadau ar Hanes a Bywyd yng Nghymru gan R. Elwyn Hughes. Cyhoeddiad Y Lolfa. £14.95


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý