Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tafod Elai
Dylan Davies Dylan Davies - Y Daith
Mehefin 2004
Mae teithio ar y daith gerddorol yma gyda Dylan Davies yn brofiad pleserus iawn.


Mae'r cd yma yn dangos ei allu i gyfansoddi caneuon amrywiol a theimladwy. Mae Dylan, wrth gwrs, wedi bod yn recordio ers blynyddoedd i gwmnïau fel Sain a Fflach, ond mae y casgliad yma wedi ei chyhoeddi ar label ei hun, set NAWS. Dyma'r ail cd ar label NAWS, y gyntaf oedd 'Dyfnach Na Dwfn'. Fe ddisgrifiwyd ei gerddoriaeth fel 'west coast' Cymreig, ac mae dylanwad cerddoriaeth yr Unol Daleithiau yn amlwg yma. Bu Dylan yn teithio'n helaeth yn yr U.D. yn y gorffennol. Fe glywir hefyd ddylanwad jazz, canu gwerin a chanu gwlad yn y casgliad yma o roc melodig.

Fe glywir emosiwn canu soul yn ei lais ond cerddoriaeth "roc-gwlad a roc-gwerin" sydd yma yn bennaf. Mae ambell i gân draddodiadol ar y cd sy'n dangos gwerth y profiad enillodd Dylan yn y gorffennol tra'n aelod o'r grŵp gwerin Carreg Lafar. Fe glywir fersiwn Dylan o 'Ar Lan Y Môr', 'Marwnad Yr Ehedydd' a 'Tra Bo Dau'. Ond yn bennaf caneuon personol sydd yma ac mae gan Dylan y ddawn arbennig o fedru troi, trwy gyfrwng cân, sefyllfa gyffredin i rywbeth cofiadwy a hynod. Fe glywir ei ddawn ar y gitâr acwstig ar bob cân ond mae band llawn ar y mwyafrif o draciau.

Mae na dinc Celtaidd i ambell gân, gyda'r pibau penelin' (Uilleann) yn amlwg. Mae Julie Jones o Rhosllanerchrugog, yn ymuno gyda Dylan ar ddau drac, ac mae llais clir a swynol Julie yn asio'n hyfryd gyda Ilais Dylan. Mae gwraig Dylan, sef Jane Campbell-Davies yn ymuno â'r ddau drac arall.

Fe deithiodd Dylan i'r gorllewin i recordio'r cd yma, i stiwdio'r canwr Geraint Griffiths, yn nhref Caerfyrddin. Fe recordiwyd yr albwm dros ddeunaw mis a Dylan a Geraint sy'n chwarae'r holl offerynnau. Mae Dylan yn canu'r gitâr acwstig a'r gitâr drydan a Geraint yn gwneud y gwaith cynhyrchu, peiriannu a rhaglennu. Mae Geraint hefyd yn canu ambell allweddell, gitâr, mandolin, banjo ac organ geg.

"Roeddwn wrth fy modd yn gyrru ar hyd yr M4 i'r Gorllewin Gwyllt, hyd yn oed yn y glaw" medd Dylan, "Roedd y profiad yn ysbrydoliaeth i mi, rwy'n sicr nad dyma'r tro olaf i mi recordio yng Nghaerfyrddin."

Mae'r CD i'w gael yn y siopau lleol. A beth am fynd ar daith ar safle we Dylan sef . Mae Dylan yn ymwelydd cyson â Graigwen ble mae ei chwaer Bethan Caffrey yn byw.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý