Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tafod Elai
Nerys Lewis yn Greenland Hoffi'r Oerfel!
Tachwedd 2009
Hanes Nerys Lewis a'i brawd Geraint, sy'n byw yng Nghreigiau, ar eu teithiau i wledydd oera'r byd.
Beth sy'n gwneud i grwt a chroten o Greigiau fynd i'r gwledydd oer? Ar ôl 9 mis yn yr Antarctic, fel meddyg ar y llong ymchwil RSS James Ross Clark, daeth Nerys Lewis, (Heol PantyGored, Creigiau) yn ôl ym mis Gorffennaf.

Ac wedyn, codi pac eto a mynd i'r cap iâ yn Greenland am fis, fel meddyg i'r grŵp ymchwil rhyngwladol o Brifysgol Copenhagen sy'n drilio trwy'r iâ.

'Roedd yn 23' C, ac 'roedd Nerys yn cysgu mewn pabell! Roedd mor oer ni allai awyren Hercules yr UDA godi o'r iâ heb rocedi ychwanegol ar yr adenydd.

Wedyn, ym mis Awst, ailymunodd Nerys â'r llong, ac fe dreuliodd 6 wythnos yn yr Arctic. Bydd yn mynd yn ôl i'r Antarctic fis Rhagfyr ar yr RSS James Cook.

Ond mae'n amlwg nad ydy'r Lewisiaid yn teimlo'r oerfel. Mae Geraint, brawd Nerys, Hoffi'r Oerfel! sydd hefyd yn feddyg yn gweithio i Ymddiriedolaeth Nuffield yn Llundain, wedi derbyn gwahoddiad oddi wrth llywodraeth Canada i fod yn aelod o grŵp o arbenigwyr sy'n cynghori'r llywodraeth ar iechyd cyhoeddus yr Inuit (gynt yn "Escimos").

Mae hyn yn golygu gwneud 5 ymweliad, wythnos o hyd, i Nunavut (gynt y "North West Territories") gwlad cymaint ag Ewrop ond gyda phoblogaeth o ddim ond 31,000 yr un faint ag Aberdâr!).

Roedd yn gymhedrol fwyn pan aeth Geraint yno yn yr haf, ond bydd yn 40' C pan aiff yno ym mis Ionawr.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý