Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tafod Elai
The Poppies Parti Ponty
Mehefin 2005
Ydy mae'r amser wedi dod ac y mae misoedd o waith a chynllunio i'w mwynhau ar gae Parc Ynysangharad ym Mhontypridd ar ddydd Sadwrn 2ail a dydd Sul 3ydd Gorffennaf.

  • Ewch i edrych ar luniau o Barti Ponty 2005

    Bydd yn ddiddorol i weld sut mae pethau yn mynd gyda Radio'r Ddraig Goch a grwpiau lleol Saesneg - yn ogystal a Chymraeg - ar y Sul. Cewch chi ddweud na fydd mor Gymreig a'r Sadwrn arferol ac mae'n siŵr bod hynny yn wir ond ar y llaw arall gellid dadlau bod hyn yn gyfle gwych i gyfarfod â phobl newydd, gwerthu manteision addysg Gymraeg a cheisio eu perswadio i ddysgu'r Gymraeg eu hunain. Mae'n debyg hefyd y bydd llwythi o bobl sy'n digwydd siarad Cymraeg ta waeth ond sydd ddim fel arfer yn dewis defnyddio'r iaith a dyna gyfle da i ni ddylanwadu arnyn nhw hefyd.

    Wedi'r cwbl parti ydy parti ac mae'n siŵr bydd pawb am fwynhau'r trefniadau sy'n cychwyn nos Wener yn Y Miwni gyda Noson Lawen, gyda chroeso arbennig i ddysgwyr a thiwtoriaid, gan Heather Jones, Alun Tan Lan, Ieuan Rhys, Delwyn Siôn, Stephen Cowles, Côr Cwmbach, Côr Cytgord a mwy.

    Rydym yn y Miwni ar nos Sadwrn hefyd y mae Gig Parti Ponty yn cynnwys Poppies - enwogion Radio Un, Syn-d-cut gyda phrif-leisydd o brifardd "local boy made good" Aneirin Karadog a'r Llofruddion nad ydw i'n gwybod dim byd amdanyn nhw eto. Dwi yn gwybod bod Syn-d-cut yn arbennig o dda a bod lot yn edrych ymlaen at weld y Poppies. Mae tocynnau ar gael o swyddfa docynnau'r Miwni ar 01443 485934 ac er bod 400 ar gael baswn yn awgrymu eich bod yn ffonio yn fuan.

    Yn ystod y dydd Sadwrn yn y parc y mae Band Dur Fitzalan i ddechrau ac wedyn nifer o gorau ysgolion cynradd gwahanol Cymraeg a Saesneg, dawnsio 12 dingo a sawl eitem a fu'n llwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd eleni - mae digon o ddewis. Bydd Martyn Geraint yn perfformio yn ôl ei arfer a hefyd Ac@ti a nifer o fandiau newydd o dan arweiniad Rhys Mwyn cwmni Sain. Mae sôn bod Stuart Cable am agor y llwyfan i ni eleni yn sgil ei lwyddiant ef yn dysgu'r anthem genedlaethol.

    Bydd stondinau gan Mudiad Ysgolion Meithrin, Twf, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Consortiwm Dysgu Cymraeg i Oedolion, CYD, Gorlan Goffi Cymunedau Yn Gyntaf gyda'u llu o wirfoddolwyr brwd, Yr Urdd gyda'u wal ddringo a'u chwaraeon, stondinau ieuenctid CIC a gwasanaethau plant Menter Iaith, Cyngor Rhondda Cynon Taf, stondinau crefftwyr, copïau o'r Cymro am ddim a chymaint yn fwy.

    Ydych chi'n gwybod pam fod 2006 yn bwysig i Bontypridd? Cewch ddysgu pam yn Parti Ponty wrth i ni lansio ein hymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth "Ponty 2006" trwy beintio wynebau, cwisiau a nifer o weithgareddau eraill.

  • Ewch i edrych ar luniau o Barti Ponty 2005


  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý