Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tafod Elai
Naid Parasiwt Hywel Roberts Symud i'r Bae
Tachwedd 2004
Penodwyd Hywel Roberts, TÅ· Cnau, i fod yn Swyddog Ieuenctid Gwersyll yr Urdd, Caerdydd.

  • Ewch i ddarllen am agoriad gwersyll yr Urdd ym Mae Caerdydd, Tachwedd 2004.

    Hwn yw'r gwersyll newydd sydd ar fin agor yng Nghanolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd. Hyd ddiwedd Hydref roedd Hywel yn gweithio yn Swyddfa'r Urdd, Aberdâr, fel Swyddog Datblygu Cynorthwyol i ranbarth Morgannwg Ganol. Yn awr bydd yn ymuno â'r staff sydd wedi symud i'w cartref newydd o Ganolfan yr Urdd, Heol Conwy, ym Mhontcanna.

    Wythnos cyn iddo symud at ei gydweithwyr newydd cafodd Hywel gyfle ardderchog i gyfarfod rhai ohonyn nhw -yn yr awyr! Roedd o'n un o ddeg o gynrychiolwyr y mudiadau sy'n gweithio yng Nghanolfan y Mileniwm fentrodd neidio â pharasiwt i gasglu arian ar ran Touch Trust. Teithiodd y parasiwtwyr i faes awyr ger Nottingham i gyflawni eu camp. Mae Hywel yn hynod o ddiolchgar i'r rhai a'i noddodd. Rhwng pawb, credir bod y deg wedi codi dros fil o bunnau i brynu offer ar gyfer y rhai ag anableddau eithriadol o ddwys y bydd Touch Trust yn eu croesawu i'r Bae.

    Cynrychiolydd arall yr Urdd ar y naid oedd y "Parchedig Pop" ei hun - y Dr Alun Owens, Pennaeth newydd Gwersyll yr Urdd ym Mae Caerdydd. Yn y parti hefyd roedd un hen law arni -Dilys Price sydd wedi neidio dros fil o weithiau ar ran yr un gronfa -ac sy'n 73 oed.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý