Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glannau
Trychineb ar y campws
Chwefror 02
Dr Mari Lloyd-Williams yn trafod rhai o'r problemau yn Ne Affrica.
Ddechrau mis Mai, cefais alwad ffôn yn gofyn a fuaswn i'n fodlon mynd i Brifysgol Medunsa, ger Pretoria yn Ne Affrica i gynorthwyo gyda dysgu sgiliau cyfathrebu ac asesu myfyrwyr meddygol. Nid oedd rhaid ystyried yr ateb yn hir!

Cynllun dan nawdd y Cyngor Prydeinig, sydd yn cynnig partneriaeth am dair blynedd rhwng unigolion sydd mewn swyddi ym Mhrydain a rhai o wledydd llai breintiedig, oedd hwn. Gwahoddwyd ymgynghorydd ac uwch-ddarlithydd mewn seiciatryddiaeth plant i ddod gyda ni.

Helpu darlithwyr ac athrawon
Pwrpas yr ymweliad oedd helpu darlithwyr ac athrawon y Brifysgol. Cyn mynd anfonwyd ugeiniau o negeseuon e-bost yn ôl ac ymlaen er mwyn ceisio darganfod y ffordd orau inni ddefnyddio'r amser yno ac i ganfod anghenion y Brifysgol.

Roedden nhw am i ni eu gwylio'n darlithio ac yn cynnal grwpiau gwaith, yna roeddem i'w hasesu a chyflwyno canllawiau iddyn nhw ar sut i weithio'n fwy effeithiol trwy ddefnyddio dulliau newydd a gwahanol.

Eu dymuniad nhw oedd i ddwy ohonom roi enghraifft o'n gwaith trwy roi darlith i'r myfyrwyr a chynnal gweithdy i staff clinigol y Brifysgol ar destun o'n dewis. Roedd hyn yn dipyn o sialens mewn wythnos.

Mae Prifysgol Mendusa yn un hanesyddol iawn. Cafodd ei sefydlu fel y Brifysgol gyntaf yn Ne Affrica i hyfforddi meddygon, milfeddygon a deintyddion du eu croen. Cyn diwedd apartheid nid oedd yn bosibl i bobl ddu gael lle yn y Prifysgolion gwyn.

Denu myfyrwyr o gefn gwlad
Mae'r Brifysgol yn ceisio denu myfyrwyr o gefn gwlad Affrica, gan obeithio y byddan nhw yn dychwelyd yn ôl i'w hardaloedd ar ôl graddio. Ond yn aml nid yw hyn yn digwydd a dywedodd Deon y Brifysgol wrthyf, "Mae eich gwlad yn dwyn ein meddygon ac ni allwn fforddio eu colli".

Nid oes gan rannau mawr o gefn gwlad De Affrica wasanaeth meddygol. Mae newyn, diffyg cyflenwad dwr glân a HIV ac AIDS yn creu problemau iechyd dyrys yno.

Cawsom groeso cynnes gan staff y Brifysgol a llawer o wybodaeth a greodd argraff arnom. Roedd y Brifysgol yn ymwybodol iawn o'r problemau diogelwch sydd yno. Cafodd tri myfyriwr eu llofruddio yn ystod y flwyddyn ac roedd amryw o'r staff wedi cael eu bygwth.

Archwilio am arfau
Defnyddiwyd car sigledig y Brifysgol i'n cario ni yma a thraw ac roedd hwnnw'n cael ei archwilio am arfau bob tro'r oeddem yn mynd allan ac yn dod yn ôl. Nid oedd yn bosib mynd i unman ar eich pen eich hun am resymau amlwg.

Roedd diddordeb mawr yn y ffaith mai arbenigo mewn cleifion oedd yn ddifrifol wael ac ar fin marw yr oeddwn i. Agwedd y meddygon a'r bobl yno oedd mai lle i wella yn unig oedd ysbytai ac na ddylid caniatáu i rai oedd ar fin marw fod yno ac y dylen nhw aros gartref.

Roedd marw mewn ysbyty yn sarhad ar y teuluoedd. Rhaid cofio hefyd nad oedd gan y wlad arian i dalu am gyffuriau atal poen i'r cleifion.

Roedd y diwrnod gwaith yn cychwyn am wyth y bore. Ar y diwrnod yr oeddem i roi darlith i'r staff ar sgiliau cyfathrebu roedd tua 80 o fyfyrwyr wedi bod yn disgwyl amdanom y tu allan i'r neuadd ers hanner awr wedi saith y bore. Go brin y buasai tyrfa fel yna yn y wlad hon!

Cred grefyddol gref
Roedd gan lawer o'r myfyrwyr gred Gristnogol gref. Yng nghanol darlith yr oeddwn yn ei chyflwyno ar AIDS a HIV, daeth sŵn canu a moliannu uchel iawn o'r tu allan i r drws. Doedd neb yn cymryd llawer o sylw ond eglurodd un fod hyn yn arwydd bod myfyrwyr wedi cael tröedigaeth a'u bod yn rhannu eu cyffes, a grŵp o ffrindiau y tu allan yn llawenhau. Tydi hyn byth yn digwydd pan fydda i yn darlithio yng Nghaerlŷr!

Cefais gyfle i siarad â nifer o'r myfyrwyr a chanfod bod eu hagwedd tuag at atal AIDS yn wahanol iawn i ni. Roedden nhw yn credu bod gan ddyn hawl i gysgu gyda phwy bynnag a fynnai heb boeni dim am y posibiliadau o AIDS.

Agwedd negyddol
Agwedd negyddol y darpar feddygon tuag at ddulliau o leihau AIDS yn y wlad oedd nad oedd angen defnyddio cyffuriau a chondoms ac roedd hyn yn creu pryder.

Os mai dyma agwedd meddygon yfory, pa obaith sydd o atal y clefyd erchyll yma sy'n difa bywydau pobl ifanc y wlad. Mae miliynau yn marw o'r clefyd yn Ne Affrica a cheir nifer fawr o deuluoedd lle mae'r tad a'r fam wedi marw a'r plant wedi'u gadael yn amddifad. Mae hyn yn broblem economaidd i'r wlad hefyd.

Dysgais lawer mewn wythnos felly a theimlais i mi elwa'n fawr ar y cyfle. Rwy'n deall llawer mwy am broblemau'r wlad bellach ac yn pryderu am ei dyfodol.

Mae Mari'n ferch i Mr. a Mrs. R. Lloyd Williams, Wern Ddu, Waen, Llanelwy ac yn uwch-ddarlithydd ac ymgynghorydd mewn meddygaeth liniarol yn Ysbyty'r Brifysgol a Hospis CaerlÅ·r.

Mae'n aelod o nifer o bwyllgorau cenedlaethol sy'n ymwneud ag ymchwil ac addysg feddygol. Yn gynharach eleni cafodd ei hapwyntio yn aelod o bwyllgorau'r G.M.C. sy'n asesu ymddygiad meddygon a'u diarddel oherwydd drwg weithredu neu ddiffyg sgiliau.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý