Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glannau
Gwynedd a'i ferch Lle maen nhw erbyn hyn?
Mawrth 2006
Mewn erthygl yn y gyfres 'Lle maen nhw erbyn hyn?' ym mhapur bro Y Glannau, dyma hanes Gwynedd Gee Williams.
Mae Gwynedd yn fab i John Emrys a Hilary Williams, Meddiant, Abergele. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Glan Morfa, Abergele ac Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy.

Ar ôl ffarwelio ag Ysgol Glan Clwyd ym 1978 ac yna cwblhau cwrs mewn Astudiaethau Adeiladwaith yng Ngholeg Wrecsam aeth Gwynedd yn ei flaen i Brifysgol Leeds i ddilyn cwrs mewn Pensaernïaeth.

Ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf yn y Brifysgol fe benderfynodd nad hwn oedd y cwrs priodol iddo. Ond cyn penderfynu pa yrfa i'w dilyn aeth i'r Swistir i aros gyda'i fodryb a gweithio yng nghwmni argraffu ei ewythr. Yn ystod y cyfnod yma daeth yn eithaf rhugl yn yr iaith Almaeneg.

Ar ôl dychwelyd gartref 'roedd yn dal yn y niwl ynglŷn â pha yrfa i'w dilyn. Oherwydd yr argyfwng hwn fe benderfynodd wneud cais am unrhyw swydd debygol a ymddangosai yn y papurau lleol, yn bennaf i weld beth fyddai ymateb cyflogwyr. Ar ôl sawl cais aflwyddiannus daeth ymateb i'w galw am swydd fe is ¬gyfarwyddwr dan hyfforddiant yn ffatri wnïo Seddon yn nhre Dinbych a llwyddodd i sicrhau'r swydd hon.

Ymhen y rhawg cafodd ddyrchafiad mewn swydd, ac yna symud i bencadlys y cwmni ym Manceinion. O'r diwrnod hwn ymlaen dringo'r ysgol fu ei hanes.

Tra oedd yn gweithio ym Manceinion daeth cais am gyfarwyddwr a allai gyfathrebu yn Ffrangeg neu Almaeneg i weithio yn Tunisia i sefydlu a datblygu ffatrïoedd i wneud dilladau i'r farchnad Brydeinig. Hon oedd ei swydd gyntaf dramor, ac y mae wedi gweithio ledled y byd ers hynny.

Oherwydd ei gefndir ym myd tecstiliau ynghyd â'i brofiad yn gweithio dramor cafodd ei benodi'n Gyfarwyddwr cwmni Americanaidd Liz Claiborne yn yr India. Oddi yno i Sri Lanka a chael sawl dyrchafiad swydd yn y cyfamser. Erbyn hyn Gwynedd yw Cyfarwyddwr De Asia i gwmni Next.

'Roedd Gwynedd, ei wraig a'u tair merch fach yn Sri Lanka pan drawodd y Tswnami yr ynys mor ddisymwth ar ŵyl Sant Steffan 2004. Er bod eu cartref ar lan y môr yn Colombo ni ddaeth unrhyw niwed i'w rhan. Ond cymaint oedd effaith y gofid a thristwch y Tswnami arno fel y sefydlodd elusen arbennig yn enw Next gyda'r bwriad o adeiladu tai i'r digartref.

Derbyniodd nifer o gyfraniadau hael iawn gan unigolion, ysgolion a diwydiant yn ardal Abergele, a bellach bydd pentref newydd sbon yn cynnwys 200 o dai, ysgol ac uned feddygol yn barod i dderbyn yr anffodusion digartref erbyn mis Mawrth, 2006.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý