Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glannau
Neuadd Goffa Trelawnyd Neuadd Goffa Trelawnyd
Chwefror 2009
Ychydig o hanes Neuadd Goffa pentref Trelawnyd.

Fel yr adroddwyd yn Y Glannau fis Rhagfyr, mae gwaith adnewyddu'r Neuadd Goffa wedi ei gwblhau. Bellach mae'r 'portacabins' wedi eu symud o'r safle a'r neuadd ar gael ar ei newydd wedd.

Codwyd y neuadd gan Michael Antonio Ralli er cof am ei wraig Mia a fu farw yn 1899. Roedd Mr Ralli yn Roegwr o dras ac roedd ganddo ef a'i dri brawd fusnes llwyddiannus fel broceriaid cotwm yn Lerpwl. Mr Ralli hefyd oedd Conswl Gwlad Groed yn Lerpwl.

Yn 1880 cymerodd Mr Ralli les ar Blas Henfryn fel bod ei deulu'n cael rhywle i ymlacio dros fisoedd yr haf. Mae'n amlwg ei fod wedi hoffi'r ardal a'r cam nesaf oedd prynu hen adeiladau ar ben allt Trecastell a chodi TÅ· Newydd, sef y fferm sydd ar ben yr allt heddiw. Yna, penderfynodd symud i'r ardal yn barhaol. Adeiladodd dÅ· newydd sbon iddo fo a'i deulu sef Mia Hall. Cartref moethus a'r gerddi wedi eu tirlunio. Yma y bu fyw weddill ei oes a marw yno yn 1917.

Roedd marwolaeth ei wraig yn 1899 yn ergyd i Mr Ralli. Oedodd dipyn cyn penderfynu sut i'w choffhau. Yng nghanol Trelawnyd roedd hen blasdy o'r enw TÅ· Mawr oedd wedi mynd a'i ben iddo. Prynodd Mr Ralli y safle, dymchwel y tÅ· a chodi'r Neuadd Goffa er cof am ei wraig. Cyflwynodd y neuadd i'r pentre yn 1910. Roedd hi'n gyfnod caled yn economaidd. Gwnaeth Mr Ralli'n sicr bod pobl leol yn gweithio ar yr adeiladu ac fe helpodd hyn sefyllfa pobl dlawd yr ardal.

Mae'n amlwg nad oedd llawer o sgiliau adeiladu gan rai o'r criw. Roedd hyn i'w weld yn y ffordd esgeulus y mewnlenwyd y seleri ac yn y gwaith gwael wnaethpwyd wrth osod rhai o'r sylfaeni. Cafodd y rhai oedd yn atgyweirio'r neuadd eleni dipyn o waith ychwanegol o achos y gwaith sâl hwn.

Cynlluniwyd y neuadd mewn arddull 'Arts and Crafts' ac os edrychwch ar luniau o'r adeilad gwreiddiol, fe welwch chi dair enghraifft glir o nodweddion ar ddull 'Arts and Crafts': y fynedfa osgeiddig, y cupola ar ben y tŵr a'r ceiliog gwynt. Does dim un o rhain ar ôl heddiw. Diflannodd y cupola yn y 1920au ac yn y 1960au cafwyd gwared ar y fynedfa osgeiddig oherwydd problemau Iechyd a Diogelwch.

Er yr holl newidiadau dros y blynyddoedd, roedd yr Awdurdod Cynllunio o'r farn bod y Neuadd Goffa'n dal i fod yn esiampl nodedig o'r arddull 'Arts and Crafts' gwledig. O achos hyn, doedd hi ddim yn bosibl newid rhai agweddau o du mewn y Neuadd fel roedd y cynlluniau newydd wedi gobeithio. Rhaid gadael y 'procenium arch' er nad oes llawer o alw am y llwyfan bellach. Rhaid hefyd cadw'r hen 'radiators', a dwy hi ddim yn bosib gosod gwydr dwbl ar y ffenestri. Er yr anawsterau hyn, mae'r neuadd wedi ei gwblhau a'r gobaith yw na fydd angen gwario'n sylweddol arni am y 50 mlynedd nesaf.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý