Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glannau
Sian a Gareth Gyrru buwch i Affrica!
Rhagfyr 2009
Mae Sian Davies o Ddinbych a Gareth Rogers o'r Rhyl yn casglu arian ar gyfer elusennau drwy yrru o Lundain i Cameroon!

Gyrru o Lundain i Cameroon mewn tua mis - dyna be fyddwn ni'n ei wneud tra fyddwch chi yn paratoi ar gyfer gwallgofrwydd y Nadolig. Gwallgofrwydd o fath hollol wahanol ydi gyrru drwy Orllewin Affrica mewn car hollol anaddas - car gyriant llaw chwith, efo injan llai na 1 litr!

Sian Davies o Ddinbych a Gareth Rogers o'r Rhyl ydan ni, a Gareth gafodd y syniad wedi gweld safel we 'The Adventurists'. Nhw ydi trefnwyr y daith - yr 'Africa Rally' - ac fe fydd yn agos at gant o geir yn dechrau'r daith yr un pryd â ni ar y 13ed o Ragfyr. Wedi hynny, byddwn ar ein pennau ein hunain, nes i ni gyrraedd Limbe yn Cameroon erbyn y 15fed o Ionawr am barti!

Bu raid chwilio a chwilio cyn dod o hyd i gar priodol, ac fe gawsom ni lwc ychydig wythnosau yn ôl, a siwrne i fyny i Swydd Efrog i nôl y Renault 5 bach fydd yn mynd â ni ar y daith o dros 6000 o filltiroedd.

Mae 'na ddau brif bwrpas i'r daith - y cyntaf yw i gael antur, a'r ail (yr un pwysicaf) yw i gasglu arian ar gyfer gwahanol elusennau. Mae gan y trefnwyr dair elusen swyddogol ar gyfer y rali yma, ac rydym ni wedi dewis cefnogi 'Send a cow', elusen sy'n rhoi cymorth i gymunedau drwy amaethyddiaeth. Maent yn defnyddio'r pres sy'n cael ei godi i roi hyfforddiant, da byw, hadau a chymorth i bobl yng ngogledd Cameroon a bydd hyn yn eu cynorthwyo i ddod dros anawsterau a gwneud y mwya o'r tir a'r adnoddau sydd ganddynt yn barod. Gyda'n cymorth ni, gall teuluoedd drawsnewid eu tir, a gweithio efo'i gilydd fel cymuned fel bo pawb yn elwa.

Am fwy o wybodaeth cewch fynd i wefan yr elusen:


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý