Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glannau
Nan Hughes yn Lesotho Beicwraig brofiadol
Ddiwedd Awst aeth Mrs Nan Hughes, Rhuddlan â'i beic i Lesotho i uno mewn taith o dan nawdd Dolen Cymru gyda'r amcan o godi arian i hyrwyddo addysg yn Lesotho.
Dyma ran o'i dyddiadur yn ystod ei thaith:
Cychwyn o faes awyr Manceinion ar fore Sadwrn Awst 31, ac wedi taith hwylus o Baris, cyrraedd Johannesburg erbyn bore Sul.

Criw o bobol SCM (Mudiad Cristnogol y Myfyrwyr) yn ein cyfarfod, a'r dreigiau coch yn chwifio mor bell o gartref.

Tri cherbyd yn mynd â ni, y bagiau a'r beiciau ar daith 5 awr drwy'r Outer State a'r Orange Province, a sylweddoli ein bod ar gyfandir gwahanol iawn.

Llenwi'r ffurflenni arferol a dangos ein papurau cyn croesi'r ffin i Lesotho. Awr o siwrnai wedyn nes cyrraedd Butha Butha, lle'r oedd y daith i gychwyn fore Llun.

Bwyd blasus
Blasu'r bwyd am y tro cyntaf a'i fwynhau, ar wahân i'r papa, (reis) bondigrybwyll, er bod rhai o'r Cymry yn ei hoffi.

Cyfarfod yn Neuadd y Ddinas a chael ein croesawu gan Lywydd Dolen Cymru, a chael cryn sylw gan y radio a'r teledu lleol.

Wedi cyrraedd pentrefi go anghysbell, cyfarfod yr hogiau lleol - aelodau o Glwb Beicio Maseru - oedd am ddod gyda ni. Eistedd wrth ochr Poloko, bachgen 17 oed, yr ieuengaf o'r criw - a minnau dros fy nhrigain, yr hynaf o'r criw!

Buom ein dau yn cyd feicio llawer drwy'r wythnos. Roedd yn well gan Poloko gwmni'r 'hen un' na chwmni'r rhai iau! Roedd o'n ddewin efo'r sbaner ac fel y bechgyn eraill yn medru datrys unrhyw broblem ynghlŷn â'r beiciau. Cysgu y noson honno mewn tŷ bychan crwn brodorol - tair mewn gwely!

Fore Llun cannoedd o blant o'r ysgol leol yn ein cyfarfod am 7 o'r gloch. Mae'r ysgol yn cychwyn yn gynnar gan ei bod yn gwawrio am 6 a thywyllu am 6 yr hwyr.

Cawsom bob math o dywydd ar y daith: eira, mellt a tharanau, a chawodydd trymion iawn.

Sownd yn y mwd
Wrth gychwyn i fyny'r Mateberg Pass, rhyw awr o'r lle yr oeddem i gysgu y noson honno, y cerbydau yn mynd yn sownd yn y mwd, er y byddai'r beiciau wedi gallu mynd drosodd.

Codi tair pabell ar ochr y mynydd, a thua 11 ohonom yn cysgu ynddyn nhw, a'r gweddill yn y cerbydau. Noson go anghyfforddus a dweud y lleiaf!

Bu'n rhad cael help chwe bustach i dynnu'r cerbydau o'r mwd drannoeth.

Roeddem yn rhyfeddu at y tirwedd ac at y tai to gwellt bychain crynion a'r coed blodau pinc o'u blaen.

Gweld y bechgyn yn bugeilio'r preiddiau ar y mynydd. Eu cyflog yw un ddafad y mis neu un fuwch y flwyddyn, a dyma'r ffordd y maen nhw yn cael eu stoc eu hunain.

Mae'n well gan y bechgyn ofalu am yr anifeiliaid, ond mae mwy o'r merched yn y pentrefi yn cael addysg.

Uwch na'r Wyddfa
Codi i tua 3.270 metr (deirgwaith yn uwch na'r Wyddfa) ac roeddem ni yn dioddef oherwydd yr awyr denau, anhawster anadlu a chur pen.

Noson gysurus yn Oxbow Lodge, lle gwyliau yn y mynyddoedd, mewn gwelyau bync, a chael ystafell ymolchi a chawod.

Wedi dringo ddydd Mawrth i fan uchaf y daith (3,280 metr), i lawr â ni ar ffordd droellog a serth oedd â golygfeydd gwych.

Aros mewn ysgol ym Maphalaneg ac ugeiniau o blant o'n cwmpas yn canu a dawnsio, ac yna cael gêm bêl-rwyd ar gae llychlyd.

Roeddem yn sylweddoli maint yr angen mawr sydd yn yr ysgolion: y plant yn llenwi eu dysglau wrth y tap dwr y tu allan er mwyn medru ymolchi a golchi eu dillad. Ninnau'n cofio am y gwastraff dwr gartref.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý