Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glannau
Menywod Sioeau hanes menywod Cymru
Ionawr 2009
Mae Archif Menywod Cymru yn dod i Sir y Fflint ddiwedd mis Ionawr ac yn gofyn am eich cymorth chi i ddiogelu ffynonellau hanes menywod.

Sefydlwyd Archif Menywod Cymru 10 mlynedd yn ôl er mwyn casglu a diogelu ffynonellau hanes menywod yng Nghymru. Bwriad yr Archif ydy arbed pob math o ddeunydd dogfennol sy'n taflu goleuni ar fywydau merched yng Nghymru, er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei gadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac ar gael i'w astudio gan eraill. Mae'r gwaith yma'n fater o frys gwirioneddol, gan fod pethau'n cael eu taflu'n ddyddiol. Ni allwn ailadeiladu'n gorffennol fel merched heb ffynonellau hanesyddol dilys.

Mae'r Archif yn casglu ystod eang o ffynonellau archifyddol, ffotograffig a defnyddiau eraill, sy'n darlunio hanes a threftadaeth menywod yng Nghymru, a'u profiadau mewn llawer o feysydd: gwleidyddol, domestig, crefyddol, economaidd, diwylliannol a chymdeithasol. Rydym yn chwilio'n arbennig am ddyddiaduron, llyfrau lloffion, llyfrau cofnodion mudiadau menywod, llawysgrifau llenyddol, ffotograffau a deunyddiau tebyg. Mae unrhyw gasgliadau'n cael eu cadw dan enw'r Archif mewn archifdai drwy Gymru ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Trefnwyd Sioe ar Daith i Sir y Fflint yn Yr Wyddgrug ar Ionawr 31 yn yr Eglwys Fethodistaidd, Stryd Wrecsam, rhwng 11yb a 3yh. Mae'r Sioe yn gyfle i'r cyhoedd ddod i rannu gyda'r Archif unrhyw ddeunydd sydd ganddynt sy'n taflu goleuni ar hanes merched yng Nghymru. Bydd cyfle i sgwrsio'n anffurfiol gydag arbenigwyr yn y maes, er mwyn cael syniad o arwyddocâd a gwerth hanesyddol dogfennau. Does dim rhaid i'r eitemau fod am fenywod amlwg nac enwog - dim ond eu bod yn dweud rhywbeth wrthym ni am sut y bu merched yn byw eu bywydau yn y gorffennol. Nid oes raid i chi hyd yn oed roi'r deunydd i'w gadw gan yr Archif, er byddem yn hapus iawn i chi wneud hynny. Gallwn wneud copi o unrhyw eitem er mwyn cofnodi'r cynnwys, a chithau ei gadw. Bydd gennym Warchodwr wrth law i egluro beth ydi'r ffordd orau o edrych ar ôl deunydd fel hyn. Bydd paned ar gael ac mae mynediad am ddim.

Dywedodd Catrin Stevens, yr awdur a'r hanesydd, yn lansiad y brosiect yn y Senedd: "Mae'n ffaith sobreiddiol fod dogfennau Cymraeg mewn mwy o berygl na rhai Saesneg oherwydd sefyllfa'r iaith. Beth am gofnodion cymdeithasau chwiorydd ein capeli? Beth am gofnodion a rhaglenni Merched y Wawr? Beth am gyfraniad merched at ddiwydiannau yn ein hardaloedd gwledig? Hebddyn nhw pa fath o ddarlun fyddwn ni'n ei gyfleu o fywydau menywod yng Nghymru yn y dyfodol?"

Felly, os oes gennych chi unrhyw ddeunydd o'r math yma yn hel llwch yn eich cartrefi, byddai'r Archif yn hapus iawn i gael golwg arno. Dewch i'n helpu ni i greu darlun cywir a llawn o'n hanes fel menywod/merched/gwragedd yng Nghymru!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý