Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glannau
Taith Patagonia Taith Patagonia
Chwefror 2010
Gethin Hughes yn disgrifio uchafbwyntiau ei daith 'bythgofiadwy' i Batagonia.

Ar fore Sadwrn, Hydref 16eg, am 1.30 y bore, pan oedd pawb call yn cysgu, roeddwn i ar fy ffordd i Gorwen. Roedd y tywydd yn ddiflas iawn, yn oer a niwlog, ond roeddwn i'n teimlo'n gyffrous dros ben.

Roeddwn i, o'r diwedd, ar fy ffordd i Batagonia.

Alldaith oedd hon oedd wedi cael ei threfnu ar y cyd rhwng Mentrau Iaith y Gogledd a'r Urdd.

Roedd y daith yn hir a diflas drwyddi draw, mynd o Gorwen i Lundain, i Fadrid, i Buenos Aires, cyn cyrraedd o'r diwedd Esquel yn yr Ariannin. Fodd bynnag, roedd yr hyn oedd yn fy aros werth bob cam o'r daith.

Dyma rai o'r uchafbwyntiau.

Mae'n rhaid i mi yn gyntaf sôn am y bwyd. Dydw i erioed wedi blasu bwyd mor dda yn fy nydd. Roedd y stec yn ardderchog. Roedd yr asado, math o farbeciw lle mae oen cyfan yn cael ei rostio'n araf, yn fendigedig. Wedyn dyna'r pitxa, yr empanadas a'r te yn nhŷ te nain Maggie... Yn sicr, wnei di ddim llwgu!

Wedyn, rhaid sôn am y bobl. Roedd pawb ymhobman yn glen ac yn groesawgar. Cawsom gyfarfod teulu'r Green ar eu fferm, y plant yn ysgol Trevelin ac ysgol yr Hendre, y myfyrwyr yng Ngholeg Camwy, plant difreintiedig mewn canolfan elusennol a chynulleidfaoedd brwd mewn cyngherddau ac yn Eisteddfod Chubut. Roedd pawb yn falch o'n gweld.

Roedd gweld yr 'orcas', y morfilod byd enwog ym Mhenrhyd Valdes yn dod at lan y traeth yn brofiad dramatig, ond braidd yn frawychus!

Roedd teithio ar ganopi, math o weiren oedd yn mynd â chi ar daith mewn cylch i weld rhan o fynyddoedd yr Andes hyd yn oed yn fwy dramatig ac yn gyrru ias i lawr fy nghefn!

Profiad arall newydd i mi oedd cymryd rhan mewn gweithdy clocsio a pheth da oedd cael peintio wal yn ysgolion Trevelin a'r Hendre ac ysgol feithrin y Gaiman.

Doeddwn i heb ganu mewn côr ers pan oeddwn i'n ddisgybl yn Ysgol Twm o'r Nant, ond ar y daith cefais gyfle i ganu mewn cyngherddau yn ogystal ag Eisteddfod Chubut. A dweud y gwir, cafodd ein côr ni'r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth y côr a'r ail wobr gyda'r côr gwerin.

Roedd yna un profiad arall oedd yn arbennig iawn i mi'n bersonol a hynny oedd cael cyflwyno rhodd o bum can punt i Ysgol yr Hendre, Trelew, ar ran Ysgol Glan Clwyd, fy ysgol i. A braf oedd cael cyflwyno'r siec a llythyr gan Mr Rees i brifathrawes Ysgol yr Hendre.

Aeth pythefnos heibio fel y gwynt. Hoffwn ddiolch i'r staff aeth â ni, Guto, Elliw, Gerallt ac Alys a hefyd staff Menter Iaith Patagonia, Hywel a Lois. Diolch hefyd i bawb wnaeth fy nghefnogi drwy eu cyfraniadau ariannol. Cefais brofiad bythgofiadwy!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý