主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Glannau
Heulwen Bott yn cyflwyno'r gadair i'r Arweinydd Cantorion Glan Alun
Ionawr 2010
Gydag ymddeoliad Dr Goronwy Wynne fel arweinydd Cantorion Glan Alun penderfynwyd dirwyn y c么r i ben.

Ar 么l 27 mlynedd o weithgarwch dygn wrth lyw y C么r, penderfynodd Dr Goronwy Wynne ei fod yn dymuno ymddiswyddo fel arweinydd ar ddiwedd 2009. Yn sgil y penderfyniad hwnnw cafodd yr aelodau gyfle i fynegi barn ynghylch y dyfodol, a phenderfynwyd ar sail pleidlais y mwyafrif, y dylid dirwyn y C么r i ben.

Cynhaliwyd cyngerdd olaf y C么r yng Nghapel Ebeneser, Rhesycae, ar nos Sul, 15 Tachwedd, ac yr oedd hwnnw'n achlysur tra llwyddiannus, gyda'r capel dan ei sang, a'r unawdwyr gwych, Gwawr Edwards, Aled Wyn Davies ac Iwan Wyn Parry yn rhoi eu cyfan yn eu canu. Dafydd Lloyd Jones oedd yn cyfeilio i'r unawdwyr a Margaret Williams yn cyfeilio i'r C么r. Yr oedd hefyd yn achlysur pan oedd teimladau o dristwch ymhlith aelodau'r C么r. Hwnnw, wedi'r cyfan, oedd y tro olaf y byddent yn dod at ei gilydd i ganu.

I gau pen y mwdwl, megis, ac i roi cyfle i holl unigolion a fu'n aelodau o'r C么r dros y blynyddoedd ddod at ei gilydd i ddathlu hanes a llwyddiannau'r C么r, cynhaliwyd cinio arbennig yng Nghlwb Golff Padeswood ar y 10 Rhagfyr. Cadeirydd y C么r, Cyril Golding, oedd yn llywio'r noson a gwahoddwyd y digrifwr, Glyn Owen, ynghyd 芒'r canwr, Trebor Edwards, i ddiddanu'r aelodau. Beryl Lloyd Roberts oedd yn cyfeilio.

Yn ystod y noson cyflwynwyd cadair fechan o bren derw, a saerniwyd gan Huw Roberts, Corwen, i Goronwy Wynne fel arwydd o'r modd yr oedd y C么r yn gwerthfawrogi ei arweiniad ysbrydoledig a gafwyd ganddo. Gwnaed y cyflwyniad gan Heulwen Bott, a wasanaethodd fel Ysgrifenyddes a Threfnydd Teithiau'r C么r am flynyddoedd lawer.

Yn ei araith ar ddiwedd y noson, manteisiodd Goronwy Wynne ar yr achlysur i s么n am rai o uchel bwyntiau hanes y C么r, am yr amrywiaeth o weithiau a ddysgwyd ac am y lleoliadau niferus a diddorol lle bu'r C么r yn perfformio. Dywedodd sut yr oedd yn ymfalchio yng Nghymreictod y C么r a sut yr oedd y Cymreictod hwnnw yn cael ei adlewyrchu ym mywyd cymdeithasol a chanu'r C么r. Yna diolchodd yn ei habsenoldeb i Margaret Williams, cyfeilyddes y C么r, am ei chyfraniad amhrisiadwy. I derfynu diolchodd i'r aelodau am eu teyrngarwch a'u dyfalbarhad ar hyd y blynyddoedd.

Daethpwyd 芒'r noson i ben trwy ganu'r anthem genedlaethol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy