Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glannau
Sapper Robert Glynn Griffiths Blas y Nadolig
Rhagfyr 2008
Wrth inni edrych ymlaen at Nadolig 2008, daw llythyrau o'r Rhyfel Byd Mawr i'n hatgoffa am filwr a oedd oddi cartref am y tro cyntaf yn ei fywyd. Gan D. Geraint Griffith o Brestatyn.

Yr oedd Sapper Robert Glynn Griffiths, deunaw oed, yn dal yn 'Blighty' ar ddydd Nadolig 1916, a'r fyddin wedi gwneud ei orau i'w fwydo yn Nadoligaidd. Yn ôl ei lythyr adref, derbyniodd frecwast o selsig a jam, ac yna cinio blasus o 'roast beef and pork, potatoes, sprouts or beans. Xmas pudding, mince pies and apples.' I yfed cawsant ddewis o gwrw neu 'ginger beer'. Eisteddodd hogiau'r cwrw ar y chwich a'r lleill ar y dde. Sylwodd cymaint oedd yn eistedd ar y chwith!

Tua diwedd y 'pnawn, cafwyd te haeddiannol trwy garedigrwydd aelodau eglwys leol. Y siom fwyaf oedd peidio cael 'leave' dros yr ŵyl. Eisioes roedd yn genfigennus o filwr arall a oedd ar ei ffordd i Abergele, oherwydd 'he has to be a witness in a civil action in Rhyl...I only wish that I had a civil action going on.'

Erbyn Nadolig 1917 yr oedd Sapper Griffiths yn y ffosydd yn Ffrainc a Gwlad Belg, ynghanol y brwydro creulon. Ond mewn tref yn ôl o'r lein, yr oedd cyfle i fwynhau blas y Nadolig. Rhaid oedd mynd i wasanaeth Egwlys Lloegr bore 'Dolig, gyda seindorf yn eu harwain i sgwâr fawr, a'r gwasanaeth yn parhau tua awr. Mynd am dro wedyn hefo tri neu bedwar o'i gyd filwyr cyn dod yn ôl, tua hanner awr wedi un, i ginio anferth o gawl, porc, cig eidion, llysiau a grefi, yna, i ddilyn, pwdin 'Dolig a saws afal, cnau ac afalau.

Noson 'Dolig cafwyd cyngerdd mawreddog. 'The place was packed with the Officer Commanding as President...with sketches, solos, duets.' Adloniant Dydd Sant Steffan oedd pantomeim mewn theatr fawr yn y dre. Hawdd oedd sgwennu at ei rieni pryderus a disgrifio'r bwyd, yr adloniant a'r chwerthin i geisio anghofio'r brwydro ffyrnig yr oedd yn rhan ohono.

Pwy oedd Sapper Glynn Griffiths? Fy nhad oedd o. Coffa da amdano.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý