Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glannau
Harriet Petty Hwre i Harriet!
Gorffennaf 2005
Daeth llawenydd i fro'r Glannau ar brynhawn Mawrth Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd pan gamodd merch ifanc o Gaerwys i'r llwyfan i dderbyn Medal Lenyddiaeth y Dysgwyr.
Mae Meirwen Davies yn adnabod y teulu a hi sydd am roi ychydig o hanes Harriet Petty inni.

Wel, dyna syrpreis bendigedig a gawsom pan enillodd Harriet y Fedal Lenyddiaeth i Ddysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd! Hyfrydwch pur oedd ei gwylio'n codi o'i set a gweld y balchder a'r cariad yn disgleirio yn wynebau ei chwaer, Kate, a'i mam a'i thad. Cafodd feirniadaeth ddisglair gan Nia Parry a dywedodd ei bod wedi dotio ar ddawn Harriet i sgwrsio yn ei chyfweliad, a hynny gyda hiwmor naturiol.

Cawsom brawf o hyn wrth wrando ar werthfawrogiad Harriet o C.D. Catrin Finch "Crossing the Stone" mewn iaith raenus, rwydd. Mae'n amlwg ei bod yn ymdiddori yn niwylliant Cymru yn ogystal â'r iaith.

Daeth Harriet gyda'i theulu o Southampton i fyw i Gaerwys dim ond pedair mlynedd yn ôl. Aeth i Ysgol Uwchradd Treffynnon gan fwrw'n syth i ymddiddori mewn Cerddoriaeth a Chymraeg. Cafodd lwyddiant arbennig yn ei harholiadau TGAU ac erbyn hyn mae'n gweithio tuag at ei Safon Uwch. Mae am fynd i Brifysgol Bangor i astudio Cerdd a Chymraeg a gwnaeth lawer o ffrindiau trwy Gymru gan ei bod yn aelod o Gerddorfa Chwythbrennau Genedlaethol Ieuenctid Cymru.

Mae'r teulu oll i'w hedmygu oherwydd eu brwdfrydedd a'u hymroddiad i ddysgu Cymraeg. Aeth Kate, chwaer Harriet, i Ysgol Gynradd Caerwys ac oddi yno i Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug. Erbyn hyn mae hithau hefyd yn rhugl yn yr iaith. Bu eu mam, Barbara Petty, yn dysgu Cymraeg mewn dosbarth nos ac yn y Ganolfan laith ac mae wedi llwyddo yn y TGAU a chyflawni cwrs WLPAN. Mae'n ddigon hyderus i helpu gyda dysgu'r Gymraeg fel ail iaith i blant Ysgol Caerwys. Mae tad Harriet, sy'n gweithio yn Adran Cancr Ysbyty Glan Clwyd, hefyd erbyn hyn yn dysgu Cymraeg.

Fel y crybwyllwyd yn y seremoni yn yr Eisteddfod, mae Harriet am ddiolch i'w rhieni ac i'w hathrawon brwdfrydig yn Ysgol Treffynnon, sef Mrs Ffion Ellis, Mr Peter Bryan, Mrs Rose Jones a'r ddiweddar annwyl Mrs Carys Lewis Jones. Bu'r achlysur yn arbennig oherwydd ymroddiad y teulu oll i ddysgu iaith eu gwlad newydd, a dyma goron ar eu llwyddiant wrth dderbyn edmygedd a chlod Cymru gyfan. Clywyd si bod Gron a Nesta Elis yn bresennol yng Nghanolfan y Milflwydd yng Nghaerdydd ond bod bron a cholli'r seremoni oherwydd chwant bwyd!

Mae'n siŵr y byddai'r ddau yn cytuno iddi fod yn werth gohirio'r cyfan i fod yn rhan o'r dathlu. Llongyfarchiadau mawr i Harriet ar ran holl darllenwyr Y Glannau, a phob dymuniad da a llwyddiant iddi ar ei gyrfa i'r dyfodol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý