Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glannau
Mrs Glenys Thomas Ein dyled a'n diolch
Dyma'r rhifyn olaf o'r Glannau bydd Glenys Thomas yn cyfrannu iddo gan y bydd hi wedi ymadael â'r Rhyl cyn i rifyn nesaf y papur ddod o'r 'wasg.

Mae'n anodd credu ei bod hi wedi bod yn gyfrifol am golofn y dref yn ddi-dor ers cyfnod o bron i ddeunaw mlynedd. Ynddo'i hun, mae hynny'n deyrnged ac yn glod iddi hi ac yn adlewyrchiad o'r brwdfrydedd a'r dycnwch y mae pawb ohonom yn eu cysylltu â hi.

Ganwyd Glenys ym Mherthymaen, ac yn ysgol pentref Trelogan y derbyniodd ei haddysg gynradd. Ar y pryd yr oedd J. Caradog Williams, gwr a fu'n gyfrifol am ysbrydoli a Chymreigio cenedlaethau o blant, yn bennaeth ar yr ysgol honno. Yn dilyn ei chyfnod yn Ysgol Ramadeg Treffynnon, rhoddodd hithau ei bryd ar addysgu a threulio gyfnod fel myfyrwraig-athrawes yn Ysgol Picton ac Ysgol Trelawnyd.

Yna, ar ôl derbyn hyfforddiant yng ngholeg Addysg Lincoln, yn 1950 fe'i penodwyd yn athrawes yn Ysgol Llywelyn, Y Rhyl, a oedd bryd hynny yn agor fel ysgol newydd sbon dan arweiniad Mr Vincent Timothy. Bu'n dysgu yno am wyth mlynedd. Priododd yn ystod ei chyfnod yn Ysgol Llywelyn gydag Alun Thomas, cyn ymadael â'i swydd dros dro er mwyn magu ei phlant, Catrin a Rhys.

Yn 1968 penodwyd hi'n athrawes yn Ysgol Dewi Sant a threuliodd y gweddill o'u gyrfa yno, ac ymddeol yn 1991. Yn ystod ei gyrfa broffesiynol a'r tair blynedd ar ddeg ers iddi ymddeol, gweithiodd Glenys yn ddiflino dros yr Urdd, gan hyfforddi rhai cannoedd o blant yr ardal hon a rhoi yn hael iawn o'i hamser i hyrwyddo'r diwylliant Cymraeg yn ei holl weddau.

Bu hefyd yn Llywydd Cangen Y Rhyl o Ferched y Wawr, yn Llywydd Rhanbarthol y mudiad, a gweithredodd hefyd fel Ysgrifenyddes y gangen. Bu'n flaenores yng Nghapel Stryd Clwyd ers 1991.

Wrth i Glenys adael y dref a symud i fyw yng Nghaerdydd er mwyn bod yn nes at ei phlant a'i hwyrion, diolchwn iddi am ei chyfraniad enfawr i'r Glannau a dymunwn yn dda iawn iddi yn ei chartref newydd. Ond peidiwch a bod yn ddiarth, Glenys!

Diolch Glenys O gael un fel ein Glenys - un ydyw
a'n hudodd mor barchus
a'i rhinwedd bod mor raenus
un o'r fron na ewch ar frys.

Gweler y gerdd gan Geriant Jones-Evans yn ei chyfanrwydd yn rhifyn Gorffennaf Y Glannau.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý