Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Fred a Rosa yn perfformio Red Fred
Awst 2007
Nid yn aml y byddwn yn taro ar gymeriad unigryw ym mhellteroedd Môn. Dyma gip ar un ohonyn nhw yn ardal Y Rhwyd a hynny cyn iddo fynd yn angof.

Cymharol ychydig o bobl Môn oedd yn gwybod amdano ond roedd yn adnabyddus i bobl yn Ffrainc, yr Almaen, Isalmaen, Eidal, Sbaen, Portiwgal, Canada, De Amerig, Awstralia, India a Lloegr.

Ganed Fred Lowes yn Sunderland ddechrau'r ganrif ddiwethaf ac yn fachgen ifanc 13 oed cafodd gweld campau A. D. Robbins a'i feic un olwyn effaith wefreiddiol arno. Fred oedd y cyntaf i ymateb i sialens i fynd ar y llwyfan i roi cynnig at reidio Bucking Bronco, beic hynod o anodd i'w feistrioli. Roedd ymdrech Fred cystal fel i Robbins gynnig prentisiaeth iddo. "Na", oedd ymateb cyntaf mam Fred, ond o'r diwedd rhoddodd ei chaniatâd.

Fred ar ei feic ar ymyl llong Meistr caled oedd Robbins a'i gyflog yn brin, ond gwelodd Fred y Byd a daeth yn rhugl yn Ffrangeg ac Almaeneg. Er iddi gymryd blynyddoedd lawer iddo feistrioli'r beic un-olwyn yn llwyr a chadw'r gytbwysedd dechreuodd wneud triciau fel mynd i fyny ac i lawr grisiau, troi fel top a jyglo chwech o beli.

Yn ystod ei deithiau bu'n diddanu tad Prince Rainier yn Monaco, perfformio i blant Mussolini a hyd yn oed cyfarfod a Hitler pan oedd hwnnw'n treulio tymor yn y carchar, sbel o amser cyn y rhyfe1.

Wrth ddod adref o Dde America unwaith y cyflawnodd ei gamp anhygoel. Derbyniodd sialens i fynd ar ei feic o amgylch corn uchel y llong ac mae'r llun yn profi'r weithred. Cafodd yr enw The Human Gyroscope. Roedd ei gampau mor anodd fel y byddai'n methu weithiau ac fe gafodd sawl codwm o'r llwyfan i ganol y gerddorfa!

Ef oedd y cyntaf i gael ei weld yn perfformio ar y teledu yn 1931.

Cyfarfu Fred a'i briod, Rosa yng Nghaerdydd pan oedd hi'n dawnsio ar yr un llwyfan. Buont yn ymddangos fel deuawd ar lwyfannau lu - Fred oedd y comic a Rosa'r rhan glamorous!

Daeth y ddau i Rhydwyn i gartrefu oherwydd bod gwreiddiau Rosa yno, ond roeddynt yn parhau i grwydro. Mewn da bryd ganwyd Pat, ac ymddangosodd hi'n ddwyflwydd oed ar lwyfan y Tivoli Theatr yn Melbourne heb ganiatâd ei rhieni a gafaelodd Fred ynddi a'i gwneud yn rhan o'i gamp nesaf! Yn ystod y rhyfel bu Fred a Rosa'n gweithio i ENSA.

Daeth y dyn bychan 5 troedfedd gyda'r gwallt coch (Red Fred) yn un o bentrefwyr Rhydwyn a gwelid ef yn aml yn reidio'r beic o'r pentref i'r Black yn Llanfaethlu.

Erbyn hyn roedd ei ferch, Pat wedi derbyn prentisiaeth ddi-feth ac yn 15 oed ymunodd â'i thad ac un tro pan drawyd ei thad yn wael bu' n rhaid iddi ymddangos ar ei phen ei hun. Cyn bo hir roedd hi ar yr un llwyfan a Tommy Cooper.

Yn awr mae Pat Schrafft yn byw yn Amlwch ac yn brysur yn hyfforddi ei theulu. Mae ei merch, Michelle Mead yn gallu trafod y beic, Joe, Sam a Flynn, wyrion Pat yn ymddiddori yng nghampau Fred a Pat, ac mae ganddi nai ifanc yn byw yn Llundain ac yn dangos arwyddion o yrfa yn y cyfryngau.

Bu Fred farw yn 78 oed ac mae'n gorwedd ym Mynwent Eglwys Llanrhuddlad gyda'r neges yma ar ei garreg fedd - "In Memory of Red Fred, unicyclist, who took his final curtain on 2.2.82"


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý