Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Yr hen farics Yr hen farics
Ebrill 2010
Adeiladwyd y barics yng ngwaelod Ffordd Llundain, Caergybi ychydig lathenni o Bont y Rheilffordd a'r orsaf yng nghyffiniau'r Bont Ddu.

O edrych ar ffordd yr A5 yn y llecyn hwn heddiw, mae'n anodd credu mai yno, tua chanol y briffordd, y safai'r hen farics gynt, sef o flaen y rhes gwestai thros y ffordd i'r Ganolfan Gymunedol heddiw (sef hen apêl 'Disgwylfa' - London Rd gynt).

Codwyd y barics ar gyfer gweithwyr y trenau stêm yn pennaf, sef rheini a oedd yn byw yn Llundain, er mwyn iddynt gael lle i aros dros nos ar ôl cyrraedd Caergybi.

A'r un modd fyddai gweithwyr trenau Caergybi, pan deithient yn ôl ac ymlaen i'r brifddinas, yn cael treulio'r nos yn Willeston Barracks, LIundain.

Nid oedd yr hen drenau'n cychwyn yn ôl ar eu union yr adeg honno pan oedd pethau'n arafach; roedd mwy o waith paratoi a IIwytho yn nyddiau'r ager beiriant.

Dywedir bod naws adeiladau Oes Victoria yn y barics, a bod safon glanweithdra yn uchel gyda phob dim yn ei le a'r cyfan mewn cyflwr graenus; lle cysurus i'r gyrwyr, a'r tanwyr, y gardiau, hefyd, gofalwyr a staff y cerbydau bwyd ac eraill, i dreulio noson cyn ail gychwyn drannoeth ar eu taith yn ôl tua'r brifddinas.

Arferai llawer o'r teithwyr, amryw ohonynt ar eu taith i'r Ynys Werdd, letya yng Ngwesty'r Rheilffordd ar fin y porthladd.

Ar y naill ben i'r barics yr oedd tÅ· 'meistr y sied', sef y sied trin, cynnal a chadw peiriannau, ac ym mhen arall yr adeilad yr oedd tÅ·'r metron.

Gyda diwedd oes y stem daeth trenau cyflymach a hwylusach a fyddai'n galluogi'r gweithwyr i adael a dychwelyd i'w cartrefi ar y diwrnod.

Felly y daeth dyddiau'r barics i ben; fe'i dymchwelyd yn ddiweddarach er mwyn lledu'r briffordd sy'n arwain i'r dref.

Diolch i Mr Gareth Williams, Cae Braenar am y llun a'r hanes.

M.LI.W.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý