Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Capel Tyn y Maen Pedair 'C' Tyn y Maen
Ebrill 2003
Diddorol dros ben oedd gweld llun hen gapel gwreiddiol Tyn y Maen ar dudalen flaen Y Rhwyd, Ebrill 2003, a'r ysgrif ddiddan gan y Parchedig Edgar Jones.

Fel un o gyn-ddisgyblion Gobeithlu Tyn y Maen pan oeddem fel teulu yn byw yn Bont Maen Melys (Pont y Mab Melys meddai'r hen ddogfennau, ynôl y Parchedig Ddr. D Wyn Williams, daw atgofion serchog am yr addoldy presennol. Ni chafodd yr un capel weithwyr mwy ymroddedig gyda phlant a phobl ifanc na Mr a Mrs Rice Jones, Ty Capel. Eu cyfraniad pennaf oedd ein hyfforddi i ddysgu caneuon ac emynau newydd at y Gylchwyl ac alawon gwerin erbyn Eisteddfod Llanddeusant ac Eisteddfod Môn.

Cofiaf Mrs Lena Jones yn mynd â chriw ohonom i Eisteddfod Porthaethwy yn y pum-degau a bonws derbyniol oedd ennill gwobr ar y gân actol "Yr Hen Wr Mwyn". Roedd Owen Hughes, Cae Bach; Alun Williams, Neuadd; Dennis Williams, Siop Elim; Norman Owain Williams, Cartrefle a minnau uwchben ein digon yn yr eisteddfod honno! Dycnwch ac ymroddiad Mrs Lena Jones a'i phriod, wrth gwrs, oedd yn gyfrifol am y llwydd; y ddau wrth eu boddau yn gosod Tyn y Maen ar fap y sir!

Un peth fyddai'n cosi dychymyg plentyn yn Nhyn y Maen oedd y golomen a safai'n llonydd yn uchel uwchben y pulpud. Tybed a oedd hi'n perthyn i greiriau'r hen gapel, ynteu ai addurn y capel newydd ym mlwyddyn y Diwygiad yw hi?

Yn ôl y sôn, 'esgob' neu arolygwr cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd ym Môn oedd John Jones, Bodnolwyn Wen, ac yn Nhyn y Maen y mae ei gadair hynod sy'n ychwanegiad gwerthfawr at y creiriau.

Cof plentyn, wrth reswm, sydd gen i am y Parchedig Hugh Roberts, Neuadd, brodor o Gwm Pennant, a fugeiliodd saint Elim a Thyn y Maen gyda chysondeb. Yr unig grair yn fy meddiant i gofio amdano yw'r Cerdyn Post a anfonodd i'm modryb yn Chwaren Wen Isaf o Drawsfynydd 24 Awst, 1928.

A dyna bedair 'C' y creiriau: Cwpan John Elias; Colomen y pulpud; Cadair John Jones a Cerdyn cyfarch Hugh Roberts.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý