Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Uned ffilmio Ffeil gyda Karen Peacock yn holi gwisgwyr sbectol Ffrwd Win ar gyfer Planed Plant, S4C. Anturiaethau plant ysgol Ffrwd Win
Medi 2003
Mae blwyddyn addysgol arall wedi dirwyn i ben ac yng nghanol y bwrlwm arferol daeth ambell i brofiad hapus a gwerthfawr arall i'r plant.
Bu Karen Peacock a chriw camera o Adran Ffeil o'r rhaglen Planed Plant S4C draw i Ffrwd Win.Bu iddynt ffilmio'r plant rheiny oedd yn gwisgo sbectol a chael cyfweliad gyda hwynt fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth y RNIB. Dangoswyd y cyfweliadau ar y rhaglen Uned 5 ymhen rhyw ddiwrnod neu ddau wedyn. Cafodd pawb fwynhad yn cadw golwg ar brysurdeb a thrafferth criw ffilmio wrth eu gwaith.

Cafodd pawb brofiad o Gelli Gyffwrdd, Y Felinheli ac mi ael y blynyddoedd hynaf draw i Theatr Gwynedd i gael golwg â chynhyrchiad Cwmni Arad Goch o Twm a Mati Tat a'r Ddoli. Roedd y plant yn gyfarwydd a gwaith yr awdur, Gwyn Morgan o'r herwydd llyfr o'i eiddo bu iddynt gyflwyno yn Theatr y Werin, Aberystwyth yn y rownd Genedlaethol o Gystadleuaeth Cyngor Llyfrau Cymru.

Roedd tîm Bl 5 a 6 Ysgol Ffrwd Win yn cynrychioli Ynys Môn ac er na ddaethant i'r brig eleni roedd eu perfformiad yn glod mawr i'r ymroddiad i'r gwaith. Bu iddynt berfformio'r hysbys i'r llyfr Llew Lletchwith i'r rhieni a chyfeillion yr ysgol ar ddechrau'r Noson Agored yn ddiweddar.

Cafodd plant Bl 3 a 4 fwynhad wrth weld cynhyrchiad Cwmni Theatr y Frân Wen o Penci fel rhan o'r Addysg Bersonol a Chymdeithasol ac mi aeth y plant hynaf draw i Blas Arthur, Llangefni i gymryd rhan yn niwrnod Aml-weithgareddau Ysgolion Cynradd. Cafodd y plant hefyd flas ar chwarae tenis pan ddaeth Swyddog Datblygu Tenis Ynys Môn draw am hanner diwrnod i ddatblygu sgiliau'r gêm. Rydym yn ddiolchgar i Mrs Vera Hughes, Mrs Julie Jones a a Mr Steven Rickards am gymryd gofal am Gampau'r Ddraig yn ystod y tymor pan ganolbwyntiwyd am ddeg sesiwn o athletau.

Daethpwyd â'r chwaraeon i ben yn ein modd arferol pan ddaeth rhieni a ffrindiau draw i'r diwrnod Mabolgampau ac fe enillwyd y Darian eleni gan Ty Cefni a'r Victor a Vitrix Lodorum oedd Iwan Roberts a Naomi Jones.

Cynhaliwyd ein taith gerdded flynyddol pan aeth holl ddisgyblion yr ysgol draw i gerdded Llwybr Arfordirol Ynys Môn o Fferm Penrhyn draw i Borth Swtan. Cafwyd diwrnod hyfryd ac addysgol dros ben a phawb yn brysur yn astudio'r amgylchfyd er mwyn llenwi eu holiaduron yn gywir. Daeth y plant lleiaf a'u taith i ben ar draeth Porth Tywyn Hir tra cafodd y plant hynaf eu cinio ar draeth hyfryd Trefadog.

Bu rhaid aelodau hynaf yr ysgol draw yn cymryd rhan yng ngwasanaeth Cadeirydd Cyngor Ynys Môn yng Nghapel Bethel Hen, Llanrhuddlad. Gan fod y Cadeirydd newydd yn aelod teyrngar o'r Corff Rheoli Ffrwd Win, mae'r holl ysgol yn dymuno'n dda i'r Cynghorydd Bessie Burns ar ei blwyddyn yn y gadair.

Mae pawb bellach yn edrych ymlaen tuag at wyliau'r haf gan obeithio bydd y tywydd yn plesio pawb. Mae'r ail ran o'r cynllun i adnewyddu adeilad Ffrwd Win i ddechrau yn ystod yr Haf pan fydd cegin, neuadd a thoiledau newydd yn cael eu gwireddu. Disgwylir i'r gwaith barhau drwy dymor yr Hydref.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý