Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Papurau tÅ· bach Wyddech chwi?
Gorffennaf 2005
W Jones Parry yn rhannu ffeithiau difyr a diddorol am bethau sy'n rhan o'n bywydau bob dydd - banciau, papur tÅ· bach a bwyd cath!
1.Fod bancio yn un o weithgareddau hynaf y byd? - Ers bore hanes bu bancio yn rhan o weithgarwch y gymdeithas war. Hwylustod oedd y tu ôl iddo, mewn gwirionedd. Gellid symud symiau o arian o fan i fan heb yr anhwylustod o orfod ei gario. Er enghraifft, ar un adeg byddai raid cludo arian yr Eglwys Babyddol, oedd am ganrifoedd yn cynnwys holl wledydd Ewrop, dros flynyddoedd yr Alpau ar gefn ceffylau neu fulod i Rufain, pen cadlys yr eglwys. Roedd hi'n daith beryglus, nid yn unig oherwydd gerwinder y tywydd a natur garegog y ffordd ond hefyd ymosodiadau gan gamladron oedd bob amser ar eu gwyliadwriaeth. Felly, dyfeisiwyd ffordd o roi y cwbl ar bapur tebyg i fel y byddwn ni heddiw yn defnyddio sieciau a ffurflenni 'talu i mewn'. Y teulu amlycaf yn yr holl fusnes hwn oedd y teulu Medici o ddinas Fflorens yn yr Eidal. Yng ngwrs y blynyddoedd tyfodd yn drafnidiaeth holl bwysig dan gyfarwyddyd dau aelod blaengar o'r teulu, sef Giovanni Medici (1360-1429) a'i fab Cosimo (1399-1464).

Yn fuan iawn, sefydlwyd canghennau o'r busnes mewn dinasoedd eraill o Ewrop fel Rhufain ei hun, Fenis, Genefa yn y Swisdir a Llundain. Ond er maint yr holl fusnes nid arian oedd unig ddiddordeb y ddau. Daethant i fod yn noddwyr a chefnogwyr pob math o'r celfyddydau cain. Yr oedd hyn yn bwysig gan mai cyfnod yr Adfywiad Crefyddol (Renaissance) oedd hi. Dilynwyd y ddeuddyn hyn gan ŵyr Cosimo, Lorenzo (1448-92) a dilynodd ef yr un traddodiad. Daethpwyd i'w adnabod fel Lorenzo y Gogoneddus (The Magnificent). Ef oedd noddwr y cerflunydd a'r artist mwyaf ohonynt i gyd, sefyr anghymarol Michaelangelo. Fel gwobr am ei nawdd yn y byd celfyddydol gwnaethpwyd ei fab Giovanni yn Gardinal yr Eglwys a maes o law yn Bâb gan ddwyn y teitl Leo X (1475-1521).

Mae'n debyg mai aelod enwocaf un o'r teulu oedd Catrin de Medici. Priododd hi Frenin Ffrainc a bu yn fam i dri arall o frenhiniaeth Ffrainc, sef Ffransis II, Siarl IX a Harri'r III. Hyli oedd un o'r ffigurau mwyaf dylanwadol yn Ewrop i gyd yn ei chyfnod. Fodd bynnag, edwino wnaeth y gogoniant yn araf bach ac erbyn 1735 roedd y cwbl wedi diflannu a'r hen syberwyd wedi dod i ben.

Yn ystod yr un cyfnod ac am rai canrifoedd cyn hynny bu'r Iddewon yn amlwg mewn cylchoedd ariannol ac yn rhoi benthyg arian i wahanol fudiadau a ffigurau pwysig yn y byd ond ayr oeddent hwy yn hynod amhoblogaidd am amryw resymau, y prif yn eu mysg am mai hwy groeshoeliodd Crist. Yr oeddent hefyd yn mynnu elw uchel am eu benthyciadau. Gyda'u arian hwy y llwyddodd Iorwerth I i goncro Cymru. Ganddo ef hefyd oedd y dull gorau os nad y dull mwyaf moesol pan ddaeth yr amser i dalu'r benthyciadau yn ôl. Y cwbl wnaeth ef oedd crogi y rhai roddodd yr arian iddo a setlo'r mater felly yn dwt ac yn gryno.

2. Mai dyfais weddol ddiweddar yw papur toiled? - Y gŵr a wnaeth y ddyfais, yn ôl y fam gyffredin oedd Joseff Gayethy o New Jersey yn yr Unol Daleithiau yn 1857. I ymddangos yn fwy llednais galwyd y papur yn Therapeutic Paper ar y dechrau a'i werthu mewn bwndeli o 500 am 50c y bwndel. Ysywaeth ni chydiodd y ffasiwn am fod ansawdd y papur yn rhy wael. Teimlid mai gwastraff oedd defnyddio papur da i bwrpas mor iselraddol. Oherwydd hynny, methiant fu'r ymgyrch. Fodd bynnag, yn 1867 mentrodd cwmni arall i'r maes, sef cwmni yn cael ei redeg gan dri brawd, Thomas, Edward a Clarence Scott o Philadelphia. Dechreuasant werthu dalennau mewn roliau a'u gwerthu o gerti symudol. Dyma ddechreuad y Scott Paper Company a ddaeth yn y man i fod yn gwmni pwysig yn yr Unol Daleithiau.

Ym Mhrydain, yn dilyn y llwyddiant hwn, mae'n debyg, sefydlwyd cwmni tebyg a'i alw yn British Perforated Paper Company o gwmpas 1880. Serch y disgrifiad nid oedd ond rowlyn hir o bapur i'w dorri yn dameidiau pwrpasol yn ôl y galw. Yn 1890 dechreuodd y cwmni adnabyddus Jeyes gynhyrchu blychau yn cynnwys sgwariau o bapur esmwyth a'i alw yn Silkfoided paper. Erbyn ein dyddiau, wrth gwrs, mae lliaws o gwmnïau yn cynhyrchu papur toiled o amryfal ansawdd.

Y cwestiwn naturiol i'w ofyn, wrth gwrs, yw beth a ddefnyddid cyn i bapur toiled ddod i fod. Yn amser y Rhufeiniaid byddai pob toiled cyhoeddus yn cynnwys ysbwng (sponge) wedi ei osod ar flaen darn o bren. Cyn ei ddefnyddio byddai raid rhoi'r ysbwng mewn dŵr hallt. Byddai'r teclyn yn cael ei basio o un person i'r llall.

Byddai cyfoethogion yn defyddio gwlân yn lle ysbwng a dŵr rhosyn yn lle dŵr hallt. Ni wyddys beth yr oedd pobl gyffredin yn ei ddefnyddio. Does ryfedd fod peraroglau mor boblogaidd yn yr oes honno!

3. Nad ydyw bwyd ci yn addas i gath? - Mae llawer o bobl yn bwydo cŵn a chathod gyda'r un bwyd gan dybied nad oes wahaniaeth. Camgymeriad dybryd yw hynny oherwydd fod ffisioleg ac anianawd y ddau anifail yn wahanol. Bwyta cig a dim ond cig yw anian cath gan ei bod yn perthyn i ddosbarth o anifail a elwir yn carnivores (bwytawyr cig). Mae cath yn dibynnu am ei hiechyd ar y suryn amino (amino acid) na cheir mohono ond mewn cig. Yn groes i hyn mae ci yn fodlon ar fwydydd amrywiol all gynnwys llysiau hyd yn oed er ei fod yntau hefyd yn bwyta cig. Yn ffodus, mae'r cwmnïau sydd yn cynhyrchu bwydydd tun ar gyfer cŵn a chathod yn cynnwys yr holl angenrheidiau a hynny mewn balans priodol. Mae'r Pet Food Manufacturers Association yn sicrhau hynny.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý