Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Ffa pôb Wyddech chwi?
Gorffennaf 2007
W. Jones Parry a'i ffeithiau difyr - y mis hwn ffa pôb, cyffur y goeden helygen a gafr Mahatma Gandhi.
1. Bod hanes diddorol i ffa tun (baked beans)? Fel llawer o bethau eraill sydd yn gyffredin yn ein hoes ni o America y daeth ffa tun pob i Brydain. Hyd y gwyddom yr Indiaid Cochion oedd y rhai cyntaf i'w bwyta. Byddai gwragedd y dewrion (braves) yn gwneud cymysgedd o ffa wedi eu pobi mewn potiau pridd a sudd y goeden fasarn (maple) i fwydo'r GwÅ·r.

Gwelodd dau Americanwr o'r enw Henry J. Heinz a Clarence Noble gyfle i wneud elw trwy efelychu'r Indiaid a rhoi'r cymysgedd mewn tuniau ac erbyn 1886 ymddangosodd tuniau Baked Beans ar silffoedd siopau Fortnum and Mason ac yn cael eu gwerthu am 9c yr un (cyfartal heddiw £1.50).

Daethant yn boblogaidd iawn, gymaint fel y bu i anturiaethwr fel Scott eu defnyddio i fwydo'r ymgyrch fawr i fod y cyntaf i gyrraedd Pegwn y De, ddaru orffen mewn trychineb fel y gwyddys.

Erbyn rhyfel 1914-1918 cyhoeddodd y Llywodraeth fod ffa tun i'w restru ymysg bwydydd hanfodol a gwnaethpwyd 1,000 tunnell ohonynt bob wythnos i gynorthwyo ymgyrch y rhyfel.

Cyn hir gwelid eu gwerthu mewn 61 o wahanol wledydd gan gynnwys China lle ymddangosant erbyn hyn ar fwydlen pob bwyty trwy'r wlad. Yr oeddent yn arbennig o boblogaidd yng Nghanolfan y Gemau Olympaidd.

Serch hynny, ym Mhrydain y bwyteir hwy fwyaf ac amcangyfrifir fod 451 o duniau ffa pob yn cael eu bwyta yn flynyddol, h.y. wyth tun i bob dyn, dynes a phlentyn yn y wlad. Yn wir, bu i ŵr o'r enw Donald Leman fwyta chwe phwys o'r ffa hyn mewn un funud a phedwar deg wyth o eiliadau - record sydd yn dal hyd heddiw.

2. Mai i'r goeden helyg yr ydym yn ddyledus am un o'r cyffuriau mwyaf bendithiol? Y cyffur dan sylw yw asprin sydd a'i rinweddau yn hysbys i bawb ac yn fendithiol at lu o anhwylderau ac yn enwedig i leddfu poen. Y cyntaf i ddarganfod rhinweddau'r helygen (willow) oedd yr enwog Hippocrates, tad meddygaeth, oedd yn byw yng ngwlad Groeg yn ystod y bumed ganrif cyn Crist. Rhywfodd darganfu ef fod rhyw elfen yn sudd y goeden oedd am rhyw reswm yn lleddfu poen corfforol.

Yn 400 CC defnyddiodd Hippocrates ddail yr helygen i leddfu poenau gwragedd yn y proses o roi genedigaeth. Daeth yr arferiad yn gyffredinol ac adnabyddus a defnyddiwyd hwy am ganrifoedd. Ond yn 1823 llwyddodd gwyddonwyr yn yr Eidal i ddarganfod hanfod y rhinwedd yn y dail a'i ynysu. Galwasant y cyffur yn asprin. Buan y gwelwyd fod elw i'w gael trwy farchnata'r cyffur ac yn 1899 rhoddwyd ef ar y farchnad trwy'r byd i gyd gan gwmni o'r Almaen.

Bu peth ysbaid cyn darganfod rhinwedd arall yn y cyffur ond yn 1974 darganfu gwyddonwyr ei fod yn hwylus i luddias anhwylderau'r galon. Yn nes ymlaen darganfuwyd ei fod yn help i atal cylymau (clots) yn y gwaed.

Erbyn hyn gwelwyd fod asprin yn gynorthwy i atal ergydion i'r corff fel stroc a chlefyd Alzheimer. Ymddengys nad oedd ddiwedd i'w rinweddau a defnyddir ef bellach i arbed clwyfau crawnllyd (ulcers) yn y geg a'r stumog, gwaedu mewnol a hyd yn oed erthylu.

3. Byddai Mahatma Gandhi yn mynd a gafr gydag ef i bobman? Fel y gŵyr pawb sydd dros hanner cant oed, Gandhi oedd yr arweinydd sicrhaodd annibyniaeth i India a'i rhyddhau o hualau yr ymerodraeth Brydeinig yn 1947, a hynny heb ddefnyddio trais o unrhyw fath. Gwnaeth y cwbl trwy drafodaeth yn unig. Golygai hyn lawer o gynhadledda gyda gwladweinyddion Prydain, y rhan fwyaf ohono yn Llundain.

Pan fyddai hynny'n digwydd, mynnai Gandhi gael ystafell ar y llawr uchaf ymhob gwesty y byddai'n aros ynddynt. Roedd ganddo reswm da tros sicrhau hynny, gan y byddai bob amser yn dod a gafr gydag ef er mwyn sicrhau fod y llaeth a yfai yn hollol ffres. Tra byddai ef yn cynhadledda byddai'r arf yn treulio'r amser ar y to fflat tu allan. Byddai'r gwesty'n gofalu fod digon o fwyd a diod iddi yn y fan honno ac yno arhosai yn berffaith hapus nes i'w meistr ddychwelyd.

Roedd Gandhi'n sicr o fod yn un o'r dynion mwyaf yn hanes y byd. Profodd fod posib cael y maen i'r wal heb arfer arfau nag unrhyw ddull arall tebyg. Un gwesty yr arhosodd Gandhi ynddo oedd Kingsley Hall yn Llundain.

I gofio am ei fawredd fel dyn paentiwyd darlun ohono ar fur yr ystafell er cof amdano. Ymwêl miloedd yno bob blwyddyn i goffau amdano. Er dirfawr dristwch a'i adnabu dienyddiwyd ef gan lofrudd yn fuan ar ôl sicrhau rhyddid i'w wlad.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý