Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Llun Gwyneth Ryder o Melin Llynnon Gwyneth Ryder
Mawrth 2005
Llynedd teimlais y dylid newid teitl 'Gŵyl y Geni' i 'Gŵyl yr Anrhegion'. O Hydref ymlaen prynu anrhegion gogyfer â'r Nadolig sy'n rheoli bywydau cymaint o'm ffrindiau.
Yn wir mae llawer ohonynt yn casáu'r Nadolig oherwydd y gost. Dyna braf fuasai hi petai pawb yn anghofio'r anrhegion a mwynhau'r dydd ei hun.

(Rwy'n eich clywed yn fy ngalw'n rhagrithiwr o wybod yr holl deisennau, jam, pwdin Nadolig a mins peis a gaf. Maent yn fy nghadw i fynd at y Grawys! Eleni roeddwn yn bwyta un pwdin Nadolig a gefais llynedd. Roedd wedi cadw'n berffaith yn yr oergell. Mae fy ffrind y Parchedig John Rice Rowlands yn dweud fy mod i'n rhamantu braidd yn ormodol am y gorffennol a'm cof yn chwarae triciau â mi. Ond rwyf bron yn sicr y byddai fy mam yn cadw un pwdin-Nadolig-clwt am flwyddyn drwy ei hongian ar un o drawstiau'r gegin. Fy mhwynt yw na fuaswn i ddim balchach o anrheg Nadolig petai rhywun wedi mynd i Benbedw, Lerpwl neu Gaer i'r brynu).

Mae cerdyn Nadolig hefyd yn dangos agwedd rhywun at y Nadolig. Yn rhifyn olaf Y Rhwyd gwelwyd llun cerdyn arbennig iawn a hwnnw wedi ei anfon drigain mlynedd yn ôl. Mae'n wendid ynof i luchio pethau. Pan adawaf y byd yma chaiff neb y drafferth o 'glirio fy mhethau'.

Ond diolch i Mr Caradog Jones am gadw'r cerdyn Nadolig hanesyddol hwn. Eglurodd Caradog imi mai tynnu llun y cardiau hyn wna'r Llywodraeth, a hynny ar bapur ysgafn, ac wedyn eu hanfon i'r bechgyn a merched yn y Lluoedd Arfog dros y byd. Braf yw cael cerdyn o waith personol yr un a'i hanfonodd, fel llun Eglwys Llanfair yn Neubwll gan Mrs Helen Hughes, Tregof. Gwerthfawrogwyd ei dawn yn y rhifyn olaf gan ohebydd Caergeiliog.

Eleni eto cefais gerdyn gwerth chweil gan y Parchedig John Rice Rowlands ac arno lun 'Melin Llynnon'. Print yw o'r dyfrlliw gwreiddiol gan Gwyneth Ryder. Roedd Gwyneth yn fy nosbarth Ysgol Sul yn Eglwys Seiriol Sant, Caergybi hanner can mlynedd yn ôl. Gwelais i hi'n ddiweddar a bu'n rhaid imi ei hatgoffa o hyn. Ei hymateb oedd "i ble ddiflannodd y blynyddoedd?" Dyna fy mhrofiad innau hefyd. (Perthyn o Lŷn yn dweud wrthyf yn ddiweddar y bydd ef yn gofyn iddo'i hun yn aml, "Beth ydwyf i wedi ei wneud o'm bywyd?" Fy ateb iddo oedd, "Magu dy blant a rhoi ffarm i bob un ohonynt". Ac meddai, "Felly diolch nad ydw i'n hen lanc!")

Os gofynnwch i Gwyneth o le mae'n dod, nid Caergybi gewch yn ateb ond, "O bentre' bach Porth y Felin". Yn Ysgol Uwchradd Caergybi y tyfodd ei diddordeb mewn arlunio a bu hyn yn hobi pleserus iawn iddi hyd nes i'w lluniau gael eu 'darganfod', ac yna bu'n rhaid iddi dynnu'r gwinedd o'r blew i gyflawni gweithiau a gomisiynwyd.

Yn y Newry, mewn atig, mae'n gweithio. Ond mae ei hatig hi'n foethus ac nid fel atig ystrydebol arlunydd. Mae'n olau a golygfa fendigedig tua'r harbwr oddi tani. Pan mae'n braf allan â. hi, ac yna'n ôl i'r atig i roi'r twtshis olaf i'r darluniau. Mae ar ben ei digon ar ddiwrnod clir pryd y gwelir hi hefo'i hoff balet llawn lliwiau llachar hyd fro'r Rhwyd.

Mae ei harddull yn dal i newid, ac er nad yw'n ifanc iawn erbyn hyn mae ei chorff a'i hysbryd fel geneth ddeunaw oed. Adeiladau, fel Melin Llynnon, a golygfeydd Môn sy'n apelio iddi. Er mai dyfrlliw yw ei chyfrwng, yn ddiweddar, aeth yn ôl i'w dyddiau ysgol a defnyddio pastelau.

Dymunol iawn oedd ei chyfarfod wedi'r holl flynyddoedd a sylwi mai'r un Gwyneth yw ag a adroddai'r catecism imi yn festri Eglwys Seiriol. Ychydig feddyliais wrth wrando arni y buaswn i'n ysgrifennu amdani hanner canrif yn ddiweddarach.

Edgar Jones


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý