Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Giât Llanbabo (Llun: Mike Woodward) Giât Llanbabo
Chwefror 2005
Anodd credu y buasai neb yn gostwng mor isel a dwyn giât oddi ar borth mynwent. Ond dyna ddigwyddodd yn Llanbabo ddiwedd yr haf diwethaf.
Yr oedd yn giât hynafol gyda dyddiad arni,1838. Mae hyn yn ei gwneud yn hawdd i'w hadnabod. Cadwch eich llygaid yn agored ac os gwelwch hi gwyddoch beth i'w wneud. Rwy'n cofio giât yn cael ei dwyn o Lygar, Cemaes a honno wedi ei gwneud o lyw llong. Gwelodd y diweddar Ganon John Vevar hi mewn siop hen bethau ym Mhwllheli, ac fe ddaliwyd y lladron.

O lun a oedd gan Mrs Margaret Jones, Bryndrofa gynt, llwyddodd y gof, Mr Dave North o Fali i wneud copi ohoni. Gofalodd na all neb ei thynnu oddi ar ei cholyn. (Yn ddiddorol mae giât Mynwent Llanfihangel gyda'r un math o golyn). Chafodd y diafol, er fod ei wyneb i'w weld yng ngherrig y wal, mo'r llaw uchaf ar Saint Llanbabo. Mae giât ar borth eu mynwent unwaith yn rhagor a'r dyddiad 1838 arni.

Ychydig cyn y Nadolig, dymunol iawn oedd cael galwad ffôn gan Mr Cledwyn Williams, Tŷ'r Ysgol, Llanrug. Anodd credu, ond mae bron i hanner canrif wedi mynd heibio ers pan gyfarfyddais ag ef am y tro cyntaf. A minnau'n gurad heini yng Nghaergybi, rhyw unwaith yn y mis, byddwn yn mynd ar fy meic i gymryd gwasanaeth Gosber yn Eglwys y Santes Gwenfaen, Rhoscolyn.

Awn hefyd yn awr ac yn y man i Lanfair yn Neubwll. Y rheswm am hyn oedd rhoi ychydig o amrywiaeth i'r Parchedig Reginald Banks drwy ei alluogi i gymryd gwasanaeth yn un o eglwysi'r dref. Petai'n bwrw, wel, petai'n fôr o law, roedd yn iawn imi alw am dacsi. Gwnâi rhai o'r curadiaid rwgnach, ond roedd cael mynd i'r 'wlad', yn ôl pobl Caergybi, ac yn enwedig felly yn yr haf, a hyd yn oed yn y gaeaf ar nos olau leuad, yn rhoi pleser mawr imi. Cawn fy atgoffa o gefn gwlad Llŷn drwy gyfarfod addolwyr o'r un cefndir â mi. Dyma'r blynyddoedd y byddai Mr Cledwyn Williams yn mynychu Eglwys Rhoscolyn a chawn sgwrs ag ef wedi'r gwasanaeth.

Yr oeddwn yn rhifyn Rhagfyr o'r Rhwyd wedi gofyn am ychydig o wybodaeth am ddau o'r enwau sydd ar y gofeb yn Llantrisant. (A chyda llaw 'Croes Fuddugoliaethus' ydyw, croes fore'r Pasg, heb y Crist croeshoeliedig arni). Dyma ddywedodd Mr Williams am Huw Edwards, Penllyn: "Roedd wedi listio hefo'r Bataliwn Gyntaf o'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, ac fe'i lladdwyd ar faes y gad yn Ffrainc, 28 Awst 1915". Rwyf wedi deall fod y nofelydd Jane Edwards (Niwbwrch) yn hanu o deulu Huw Edwards. John Jones, Penterfyn ac yntau, dau ffrind, yn listio gyda'i gilydd, ac enwau'r ddau ar y gofeb).

Wrth edrych ar gofeb Llantrisant, a hithau erbyn hyn ar ei newydd wedd, daeth i'm cof am y ffenestr hardd sydd yn y Capel Brenhinol ym Mhlas Windsor. Yng nghwareli'r ffenestr mae lluniau brenhinoedd a breninesau Prydain. Hwy fu'n gyfrifol drwy'r canrifoedd am adeiladu, ehangu a chadw a chynnal y capel.

Ond yn un o'r chwareli mae llun gweithiwr. Mae yno i'n hatgoffa, wrth inni ddotio at odidowgrwydd y ffenest a'r capel, mai i'r gweithwyr y mae'r diolch. Heblaw am eu llafur a'u crefft hwy ni fuasai yno na ffenestr na chapel. Ffrwyth llafur John O. Jones, Llangefni a Maldwyn Owen, Bont-rhyd-y-Bont sydd i'w weld ar farmor cofeb Llantristan, a mawr yw ein diolch iddynt.

(Eglurais fod gwreiddiau Gareth Owen, Fali yn Llannerch-y-medd, ac yno mae gwreiddiau John a Maldwyn. Un adeg roedd Llannerch-y-medd yn enwog am ei chryddion, ond heddiw yn amlwg am ei chrefftwyr o weithwyr).


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý