Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Organ eglwys
Mawrth 2010
Buom yn holi yn ddiweddar am hynt a helynt organ Capel Disgwylfa, London Road, Caergybi, gan fod y capel erbyn hyn wedi ei ddymchwel.

Daeth goleuni ar y mater pan gafwyd sgwrs a Mr Emrys Owen a darganfod fod yr organ yn yr Iwerddon.

Yn deillio o'r sgwrs cafwyd hanes organ Capel y Tabernacl.

Roedd y ddau gapel wedi eu hadeiladu tua'r un cyfnod - Disgwylfa 1909 a'r Tabernacl l912, ac o'r herwydd roedd y ddwy organ tua'r un oed. Cawsom hanes organ Y Tabernacl gan Mr Owen.

Hanes yr organ

Adeiladwyd yr organ ym 1913 ar gost o £650, gan Blackett and Howden cwmni adeiladwyr organau o Ogledd Lloegr.

Fy rhagflaenydd fel organydd oedd y diweddar Mr Clement Hughes, Ffordd Moreton, a wasanaethodd am 39 o flynyddoedd.

Ef a'm dysgodd i i chwarae'r organ.

Ddiwedd 1979 hyd ddechrau 1980, tynnwyd yr organ yn llythrennol oddi wrth ei gilydd gan Mr Keith Edwards, Maghull, Lerpwl, a gafodd y gontract. Y gost oedd £2,800.

Rhwng diwedd 1979 hyd at Awst-Medi 1980, cyrhaeddwyd y targed drwy haelioni ariannol yr aelodau a llawer iawn o gyfeillion eraill.

Mae i'r organ 1,730 o bibau yn mesur rhwng hanner modfedd hyd at 16 troedfedd.

Roedd pibau ffrynt yr organ wedi'u gosod gyferbyn a'r sêt fawr, a'r pibau o du ôl i'r rhai ffrynt ar seti'r galeri.

Tra'n glanhau'r organ darganfu Keith Edwards a'i gynorthwywr David Evans, lygoden fach wedi marw - llygoden eglwys, efallai - a phapurau melysion ym mhibau ffrynt yr organ. Tybed a oedd rhai direidus, gyda chymorth sling, yn ceisio anelu at ben yr organydd, a methu?

Agorwyd yr organ gan Miss Carys Hughes (y ddiweddar erbyn hyn), Llundain, ond yn enedigol o Gaergybi, ei diweddar dad y Parchedig R. Gwilym Hughes, yn Weinidog Eglwys Hyfrydle ar un adeg.

Am ymron i ddwy awr cyflwynodd Miss Carys Hughes amrywiaeth o gyfansoddiadau cerddorol a hynny'n feistraidd. Roedd Keith Evans yn bresennol yn ystod yr agoriad.

Bu Miss Mary Lloyd Davies, y gantores adnabyddus o Lanuwchllyn, hithau yn gwefreiddio'r gynulleidfa a'i chanu hyfryd a swynol.

Dim ond canmoliaeth a glywid gan bawb a fu yn Y Tabernacl y noson honno. Cadeirydd y noson oedd Mr Alwyn Griffiths Ll.B., cyfreithiwr yng Nghaergybi. Llongyfarchodd Eglwys Y Tabernacl ar fentro costau mor fawr wrth drin yr organ.

Deil Keith Edwards, Tattenhall, Caer, erbyn hyn, a'i gynorthwywr Michael Edwards (dim perthynas), Handbridge, Caer, i diwnio'r organ ddwywaith y flwyddyn.

Cymro yw Michael. neu Mike i'w ffrindiau, ac yn organydd yn Eglwys Unedig Handbridge.

Pan ddefnyddir yr organ ambell dro mewn gwasanaeth angladdol dywed rhai wrthyf mor swynol ydyw, a f' atebiad i yw ei bod yn cael ei thiwnio i berffeithrwydd.

Y mhen tair blynedd bydd yr organ yr gant oed.

Emrys Owen


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý