Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Llwynog Natur y Gwanwyn
Mehefin 2009
Sylwais yn ddiweddar ar un o gaeau Cleifiog Uchaf yn cael ei aredig.

Bu gwaith gofalus ar y cae am ddyddiau a llyfnwyd ef ar gyfer ei hadu.

Pridd noeth oedd i'w weld er bod rhesi man, twt yn amlwg.

Ar y ffordd sydd yn arwain at yr A55, ger Pencaledog oedd y man gorau i wylio'r newidiadau.

Bu diwrnodiau o dywydd sych cyn i'r tywydd droi a chyfnod o gawodydd trymion yn dilyn. Bu'n benwythnos digon gwlyb.

Fore Llun cyrhaeddais ben yr allt a dyna olygfa! Eginodd yr Å·d ac roedd y rhesi gwyrdd yn sefyll allan. Daeth y cae yn fyw!

Mae mis Mai yn fis o brysurdeb o'n cwmpas ym mhob cyfeiriad. Mae lleithder a chynhesrwydd yn cydweithio i yrru'r tymor yn ei flaen. Mae yna egni rhyfeddol yn cael ei ryddhau.

Llwynog

Un bore tawel pan gyrhaeddais lan y môr ger Penrhyn Fadog sefais ac edrych o'm cwmpas yn hamddenol.

Sylwais ar symudiad ger y creigiau ac wrth y clawdd. Anifail yn berffaith gyfforddus yn ei gynefin ac yn dilyn llwybr oedd yn hollol gyfarwydd iddo - llwynog!

Siôn Blewyn Coch yn Llyfr Mawr y Plant! Yn ffodus roedd yr awel yn chwythu oddi wrtho ac ni fyddai wedi arogli fod pobl o gwmpas.

Synhwyrai y gwair a'r llawr gan synhwyro fod cwningod o gwmpas. Wedi crwydro tipyn trodd a phenderfynodd groesi'r llaid at ynys fechan lle roedd brain yn hedfan. Wrth weld y llwynog ar ei ffordd dyma ddechrau canu'n groch a hedfan yn fygythiol ato. Chymerodd o ddim sylw ond dal i droedio'n ysgafn ar ei daith foreol.

Gwnaeth symudiad cyflym ond methodd gwningen. Aeth o'm golwg ac fe ddaeth sŵn y brain yn fwy egniol. Efallai eu bod yn nythu yno.

Ymhen munudau ymddangosodd y llwynog. Toedd dim llwyddiant i'w hela hyd hynny, ond roedd ganddo ddigon o lefydd eraill i grwydro iddynt.

Adar

Mae coedwig Bodior yn amlwg yn fan clwydo i'r brain, ac mae'r arfordir yn fan cyfleus i gasglu rhywfaint o fwyd.

Bydd ambell i gwningen wedi ei lladd ac yn gorwedd ar y gors ac fe fydd y brain yn ceisio bwydo ac amddiffyn eu pryd pan ddaw fy nghi, Jenny, ar ei thro.

Adar diddorol ydynt a chanddynt rhyw drefn arbennig o fyw a hela.

Diau fod eu sgiliau yn yr awyr yn rhoi cyfle iddynt weld pob cyfle am bryd o fwyd.

Clywais nifer ohonynt yn galw ac yn gwneud sŵn rhwng ffraeo a chael hwyl. Allwn i mo'u gweld nhw a chan fod y llanw i mewn edrychais i bob cyfeiriad cyn sylwi yn y pellter nifer o frain yn sboncio a hedfan bob yn ail ar stribedyn o dywod heb ei orchuddio gan y llanw. Man cynnull ar gyfer rhyw ddefod efallai.

Cyfri

Yn wyneb y newidiadau yn ein hinsawdd a'r effaith ar fywyd gwyllt mae diddordeb mawr mewn cyfrif anifeiliaid gwyllt. Bydd RSPB Cymru yn cynnal cyfrifiad o adar ein gerddi yn flynyddol yn y Gwanwyn. Ymestynnodd y cyfrifiad eleni i anifeiliaid gwyllt ac adar yn ystod Mehefin.

Allan o hyn daw patrwm o niferoedd a lleoliad. Daw darlun o fywyd ein amgylchfyd gan amlygu gostyngiad neu gynydd mewn adar ac anifeiliaid cyfarwydd.

Sawl broga, llyffant, draenog, gwenci, bwncath, wennol, ehedydd, cudyll coch, neu walch, er enghraifft.

Oherwydd newidiadau yn y tymheredd daw adar anghyffredin i'n cylchoedd o dro i dro. Fe welwn golli rhai adar cyfarwydd drwy waith adeiladu.

Efallai trwy gadw rhyw fath o restr tros flwyddyn neu fwy y down i sylweddoli beth sydd yn digwydd i fyd natur ein bro.

Mae'n dda darllen am lwyddiant mewn rhai ardaloedd o Gymru i sefydlu tiroedd ar gyfer cornchwiglod lle mae niferoedd yn cynyddu.

Sgwn i pa bryd, os erioed, ddaru chwi glywed rhegen yr Å·d.

Mae ymgais i gynyddu niferoedd yr aderyn yma yn yr Alban ac yna geisio cael cynefin diogel iddynt yn Lloegr.

Aderyn swil ond yn gyfarwydd o ran ei alwad cras o 'r caeau Å·d yn y pedwar degau!

Hwyaid

Ar y morfa mae ambell i geiliog hwyad yn eistedd mewn pyllau bychain. Rhywle gerllaw ymysg yr hesg neu rhedyn mae hwyaden yn eistedd ar wyau. Cyfnod o amynedd a phryder yw hyn ac mae'r ceiliog yn gwarchod y safle. Rwyf wedi sylwi ar y llawenydd a'r dathlu pan fo nythaid o gywion wedi deor a'r teulu bach yn anelu at y dŵr.

Bydd helynt, annog, a dawnsio o gwmpas wrth gael y cywion i aros gyda'i gilydd.

Pan gyrhaeddant y dŵr mae yna wefr yn mynd drwyddynt wrth iddynt deimlo yn ysgafn ar y dŵr. Cyn iddynt allu hedfan bydd y dŵr yn gyfrwng diogelwch iddynt.

Serch hynny mae peryglon gan fod gwylanod yn chwilio am fwyd i'w cywion hwythau. Bydd angen i'r ceiliog a'r hwyaden fod yn wyliadwrus a bygythiol os daw gwylan yn agos.

Garddwyr

Sgwn i sut hwyl mae'r garddwyr yn ei gael eleni gyda llysiau? Chefais i fawr o lwc gyda phys y llynedd a rhyw lwyddo a methu fu hanes y ffa.

Wrth sgwrsio gydag ambell un cefais yr argraff nad oedd ansawdd yr hadau cystal am ryw reswm.

Gobeithiaf am well lwc eleni. Does dim curo cynnyrch eich gardd eich hun.

Wrth sôn am ansicrwydd egino hadau, mae'n rhyfedd sut y gall rhai planhigion gwyllt oresgyn yr holl gyfnodau cyfnewidiol o dywydd ac egino yn frwdfrydig.

Nodwyd yn y newyddiaduron am lwyddiant eithriadol dant-y-llew eleni.

Ar un o'm teithiau gwelais gae yn llawn dant-y-llew yn gwenu yn siriol yn yr heulwen.

Diau fod y gwenyn a phryfaid eraill wedi bod yn brysur ac o fewn dau ddiwrnod roedd dim ond pennau llwyd y blodau ar draws yr aceri.

Mewn tri diwrnod gall yr hadau egino! Dyna i chwi gamp.

Yn ffodus mae yna adar sydd wrth eu bodd yn bwyta'r hadau. Diolch am yr adar felly, nid yn unig am fod yn rhan o'n byd materol ond fel rhan o'n dychymyg ac o ysbrydoliaeth beirdd a llenorion.

Does dim rhaid i chwi fod yn adarwr i gael eich cyffwrdd gan syniadau o brydferthwch, hedfan a chân yr adar.

G.O.Parry


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý